Philip Venables
Yn aml, mae cerddoriaeth Philip Venables yn ymwneud â thrais, gwleidyddiaeth a llefaru o fewn cerddoriaeth gyngerdd ac opera. Caiff ei ddisgrifio fel “one of the finest composers around” (The Guardian) a’i waith fel “brutally effective” (The Times), “original and intelligent in both form and content…reminiscent of Matthew Barney’s Cremaster Cycle” (Exeunt Magazine) a “brilliant, extreme work that grips like a vice and won’t let go” (The Guardian).
Mae e’n cydweithio’n eang mewn gwaith traws-gyfryngol, yn cynnwys gyda’r artist Douglas Gordon ar Bound to Hurt (HAU Theater Berlin, Kampnagel Hamburg, Theater Basel), gyda’r artist drag/perfformiwr David Hoyle ar Illusions (London Sinfonietta, UK New Music Biennial), The Gender Agenda (London Sinfonietta) a’r gosodiad sain Canal Street (Manchester International Festival/Manchester Camerata) a gyda’r fiolinydd violinist Pekka Kuusisto ar Venables plays Bartók (BBC Proms/ BBC Symphony Orchestra). Cyhoeddwyd ei albwm gyntaf Below the Belt ar NMC yn 2018: “unmissable…music of forensic clarity and visceral force – but also great tenderness and generosity” (BBC Music Magazine); “if you only buy one classical disc advocating LSD and sodomy, make it this one” (Gramophone Magazine).
Ymddangosodd Philip gyda’r Royal Opera am y tro cyntaf yn 2016 gyda 4.48 Psychosis, wedi’i seilio ar y testun gan Sarah Kane, sef yr addasiad cyntaf erioed o’i gwaith hi i gael ei gymeradwyo. Cafodd yr opera (a gyfarwyddwyd gan Ted Huffman) ei chanmol gan yr adolygwyr pan berfformiwyd hi am y tro cyntaf, ac eto yn 2018 pan adnewyddwyd hi: “extraordinarily accomplished and imaginative writing” (The Stage); “a score ranging guilelessly from motoric arrhythmia to wispy renaissance” (The Independent); “A new brand of opera” (The Times); “4.48 Psychosis opera is rawly powerful and laceratingly honest” (The Telegraph); “he ambushes and refreshes an old art form” (The Observer); “Experimentation in the service of absolute emotional precision: Venables’s economical work is one of the most exhilarating operas in years, even while it gives voice to some of the darkest thoughts imaginable.” (The Spectator). Enillodd yr opera y 2016 UK Theatre Award for Opera, y 2017 Royal Philharmonic Society Award for Large-scale Composition, a’r 2017 British Composer Award for Stage Work, ac enwebwyd hi ar gyfer Gwobr Olivier a Sky Arts South Bank Award.
Ganed Philip yn ninas Caer yn 1979 ac mae’n byw rhwng Llundain a Berlin. Roedd yn Gymrawd MacDowell gyda’r cyfarwyddwr Ted Huffman yn 2017, yn Gyfansoddwr Doethuriaethol Preswyl gyda’r Royal Opera House a’r Guildhall School of Music and Drama yn 2013-16, ac yn breswylydd Soundhub yn LSO St Luke’s yn 2013. Astudiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yna gyda Philip Cashian a David Sawer yn yr Academi Gerdd Frenhinol, lle cafodd ei ethol yn Aelod Cyswllt (ARAM) yn 2016 am ei gyfraniad sylweddol i faes cyfansoddi. Dyfarnwyd i Philip grant AHRC am ymchwil Doethuriaeth i lefaru, trais a cherddoriaeth yn yr Academi Gerdd Frenhinol 2012-13, a chwblhaodd ei ddoethuriaeth yn y Guildhall School of Music and Drama gyda Julian Philips a James Weeks. Mae’n un o gyfarwyddwyr yr asiantaeth Bright Ivy Ltd.
Yn 2019 cynhelir premiere 4.48 Psychosis yn yr Unol Daleithiau (Prototype Festival, Dinas Efrog Newydd), Ffrainc (Musica Festival/OpОra National du Rhin), a’r premiere byd o’r fersiwn Almaenig (Semperoper, Dresden), cyfnod preswyl yn y Watermill Centre (Efrog Newydd, UDA), a datblygiad a pherfformiad cyntaf opera siambr newydd, Denis & Katya gydag Opera Philadelphia a Music Theatre Wales.