
Renell Shaw
Mae gan Renell Shaw – y cyfansoddwr, cyfansoddwr caneuon a chynhyrchydd cerddoriaeth – gyfoeth o brofiad mewn ystod eang o genres gan gydweithio â rhai o artistiaid mwyaf unigryw a phoblogaidd y diwydiant cerddoriaeth.
Un o’i gysylltiadau agosaf dros gyfnod hir yw gyda Rudimental fel ysgrifennwr ac arbenigwr ar nifer o offerynnau, yn y stiwdio a thrwy gydol eu sioeau nodedig. Mae e wedi cydweithio, recordio a theithio gydag artistiaid megis Anne-Marie, Nile Rogers, Jess Glynne, Skepta a DJ Spinall.
Yn 2020, enillodd Renell sylw eang gan ennill Gwobr Ivor Novello am ei gyfansoddiad ‘The Windrush Suite’; mae’r darn yn talu gwrogaeth i’w dras Garibbeaidd a llais arloesol cenhedlaeth y Windrush. Mae Renell hefyd wedi ehangu ei faes gyda phrosiectau mwy arbrofol, megis y ddeuawd affro-electroneg 2fox, sy’n cyfuno amlddiwylliannedd Llundain gyda naws arallfydol machlud Ibiza.
Mae amrywiaeth a chreadigrwydd agwedd Renell at gerddoriaeth yn ei sefydlu’n gadarn fel llais pwysig yn ein cyfnod ni.
“Mae Renell yn ei sefydlu ei hun fel Artist o bwys!” – Orphy Robinson MBE
“Chwa o awyr iach, atmosfferaidd iawn, gwnaed yn y DU” – Jazzie B OBE