Rhian Lois
Mae Rhian Lois, y soprano o ganolbarth Cymru, wedi derbyn canmoliaeth uchel am ei pherfformiadau ar lwyfan yr English National Opera mewn rhannau megis Adele yn Die Fledermaus, Nerine yn Medea gan Charpentier, ac Atalanta Xerxes. Yn 2015 rhoddodd ei pherfformiad cyntaf yn y Royal Opera House, Covent Garden, fel Papagena, ac yn haf 2016 perfformiodd am y tro cyntaf yng Ngogledd America fel Zerlina yn Santa Fe.
Mae ei huchafbwyntiau diweddar yn cynnwys rhannau pwysig a pherfformiadau cyntaf: Nanetta yn Falstaff gan Verdi, gyda’r Grange Festival, a Valencienne yn The Merry Widow gan Lehar. Bydd hefyd yn perfformio mewn cyngerdd yn yr Enescu Festival. Yn y dyfodol mae hi’n edrych ymlaen at chwarae rhan fawr mewn gwaith gan Handel am y tro cyntaf gyda The English Concert, ac at ei pherfformiad cyntaf fel Despina yn Così fan tutte.
Roedd 2017/18 yn dymor o berfformiadau cyntaf pwysig i Rhian, yn cynnwys un yn y Grand Théâtre de Genève fel Angelika yn y premier Ewropeaidd o Figaro Gets a Divorce, a dwy ran newydd gyda’r English National Opera fel Susanna yn Le Nozze di Figaro a’r Governess yn The Turn of the Screw.
Mae’r uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys dau berfformiad cyntaf mewn rhan gyda’r English National Opera fel Susanna yn Le Nozze di Figaro a’r Governess yn The Turn of the Screw; Susanna a Barbarina yn Le Nozze di Figaro, y premiere byd o Figaro gets a Divorce, ac Adele yn Die Fledermaus ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru. Ymhlith ei chyngherddau rhoddodd berfformiad ar gyfer yr International Opera Awards Foundation, yn ogystal â pherfformiad yn y Royal Albert Hall ynghyd â Chôr Kings College Caergrawnt fel rhan o’r Raymond Gubbay Christmas Festival.