Richard Baker
Mae Richard Baker yn ffigur blaenllaw yn myd cerddoriaeth gyfoes Prydain fel un o gyfansoddwyr-arweinwyr mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth. Astudiod ei gyfansoddiad yn yr Iseldiroedd gyda Louis Andriessen ac yn Llundain gyda John Woolrich, a daeth i sylw arwyddocaol yn gyntaf gyda dau o’i weithiau cynnar – Los Rábanos (1998) a Learning to Fly (1999). Comisiynwyd Hommagesquisse, sef darn nodweddiadol o ddyfeisgar, llawn cymeriad, gan Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes Birmingham – sef mudiad sydd â pherthynas gref â Richard fel arweinydd – er mwyn cofnodi ymweliad Pierre Boulez â’r ddinas yn 2008. Yn 2010, perfformiwyd cerddoriaeth Baker yng nghyfres ‘Music of Today’ y Philharmonia, ac fe ysgrifenodd ‘Gaming’ yn yr un flwyddyn, sef gwaith siambr sylweddol, ar gyfer soddgrwth, marimba a phiano, yn gomisiwn gan y triawd hwnnw a leolir yn Efrog Newydd, Real Quiet. Cafodd ei ail gomisiwn gan Grŵp Cerddoriaeth Gyfoes Birmingham, ‘The Tyranny of Fun’, ei lwyfannu’n gyntaf ym mis Chwefror 2013, ac fe barodd i Andrew Clements o bapur y Guardian i ddweud ‘pa mor sicr a hyderus yw ysgrifennu ensemble Baker, a pha mor fyw yw’r cnawd mae’n eo roi ar y fframwaith strwythurol’. Cafodd y gwaith ei roi ar y rhestr fer am Wobr y Gymdeithas Philharmonig Frenhinol llynedd. Cafodd tri darn siambr eu perfformio am y tro cyntaf yn 2015/16, yn weithiau ar gyfer piano unigol, telyn unigol, a thriawd llinynol. Ysgrifennodd waith newydd ar gyfer Grŵp Birmingham i ddod â’r tymor i ben.
Fel cyfansoddwr, mae Richard yn gweithio’n reolaidd gyda phrif gyfansoddwyr ein hoes. Yn hydref 2012, arweiniodd gynhyrchiad English Touring Opera, wnaeth ennyn llawer o edmygedd, sef ‘The Lighthouse’ gan Maxwell Davies ac yng ngwanwyn 2013, cyfansoddodd raglen ddwbl Badisches Staatstheater Karlsruhe o waith Handel The Triumph of Time and Truth a gwaith Gerald Barry ‘The Triumph of Beauty and Deceit. Yn ystod tymor 2012-13 gwelwyd ei berfformiadau cyntaf gyda Cherddorfa Simffoni BBC yr Alban a Cherddorfa Genedlaethol BBC Cymru, gan ychwanegu i’r berthynas oedd yn bodoli eisoes gyda grwpiau ensemble gan gynnwys Sinfonietta Llundain, BCMG (Grŵp Cerddorfa Gyfoes Birmingham), Britten Sinfonia, Composers Ensemble ac Apartment House. Yng ngwanwyn 2014, arweiniodd raglen ddwbl o weithiau newydd gan Francisco Coll ac Elspeth Brooke yn Aldeburgh, the Linbury Studio (Royal Opera House) ac Opera North. (‘the wonderfully assured conducting of Richard Baker’ Guy Damman, Times). Cafodd ei ailwahodd ar unwaith ar gyfer cynhyrchiad wanwyn 2015 o The Virtues of Things gan Matt Rogers, ac fe gafodd ei wahodd unwaith eto y tymor diwethaf i arwain premiere hynod lwyddianus 4:48 Psychosis gan Phil Venables, a seiliwyd ar ddrama Sarah Kane.