Richard Burkhard
Mae Richard Burkhard, bariton sy’n hanu o Loegr a’r Swistir, yn ganwr-actor hynod amlochrog a chreadigol. Fel un sy’n manteisio’n llawn ar ei bresenoldeb carismatig ar lwyfan, a phrydferthwch a medrusrwydd technegol ei lais, mae iddo enw da am ddod â bywyd a dyfnder cymeriad i’w rannau.
Gyda’i repertoire yn cynnwys rolau mor amrywiol â Ford Falstaff, Tonio Pagliacci, Harry Easter Street Scene, Papageno Die Zauberflöte, Garibaldo Rodelinda ac Amfortas Parsifal, mae Richard yn ymddangos yn rheolaidd gyda’r English National Opera, Opera North, Scottish Opera, Garsington Opera ac Opera Holland Park, yn ogystal ag mewn cynyrchiadau yn Teatro Real Madrid, Palau de les Arts Valencia, Opéra de Monte Carlo, Opera National de Lorraine yn Nancy, Gŵyl Bregenz, Bolshoi Theatre Moscow a’r New Zealand Opera.
Mae ei uchafbwyntiau dros y tymhorau diweddar yn cynnwys Don Alfonso Così fan tutte gyda’r Classical Opera Company; Papageno a Count Gil Il Segreto di Susanna yn Scottish Opera – rôl a ganodd hefyd yn Opera Holland Park – ynghyd â Major-General Stanley Pirates of Penzance, Ford a La Rocca Un giorno di regno, Don Fernando Fidelio a Faninal Der Rosenkavalier yn Garsington Opera, Harry Easter yn Opera de Monaco ac ym Madrid, Gianni Schicchi gydag Opera North, Garibaldo yn y Bolshoi, ac yn Garsington a arweiniodd at iddo dderbyn enwebiad am y Canwr Gorau mewn Opera yng Ngwobrau’r UK Entertainment.