
Sita Thomas
Mae Sita yn gyfarwyddwr amlddisgyblaethol sy’n hanu o sir Benfro. Mae hi’n Artist Cysylltiol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac yn Gyfarwyddwr Headlong Origins.
Mae ei gwaith blaenorol yn cynnwys bod yn Gyd-Gyfarwyddwr Artistig (cyfnod mamolaeth) yn y Common Wealth Theatre, a Chyfarwyddwr Artistig dan Hyfforddiant yn y Bush Theatre (fel rhan o Up Next, Cyfarwyddwyr Artistig y Dyfodol). Fel aelod o’r staff, artist cysylltiol, cynorthwyydd a chyfarwyddwr symudiadau, mae Sita wedi gweithio yn y National Theatre, Southbank Centre, Royal Court, Theatre Royal Stratford East, National Youth Theatre, Out Of Joint, a Watford Palace.
Mae ei chredydau cyfarwyddo diweddar yn cynnwys Go Tell The Bees (National Theatre Wales), Under the Mask (Tamasha, Oxford Playhouse), Le Cabaret de Rien a Romani Girl (Theatre Royal Stratford East) a We Are Shadows: Brick Lane (Tamasha, Rich Mix). Mae Sita hefyd yn arwain Tamasha’s Directors, rhaglen sy’n rhedeg am flwyddyn i ddatblygu artistiaid.
Mae gan Sita radd PhD o Brifysgol Warwick a gradd Meistr mewn Cyfarwyddo Symudiadau o’r Royal Central School of Speech and Drama. Mae hi’n Ymddiriedolwr Llysgennad yn yr Young Vic ac yn Ymddiriedolwr Emergency Exit Arts. Mae hi’n rhan o’r grŵp ymgynghorol ar gyfer Wythnos Ffoaduriaid. Yn ogystal, mae Sita yn un o gyflwynwyr rhaglen Channel 5, milkshake!