Sound Intermedia
Mae Sound Intermedia, a lansiwyd yn 1996 gan Ian Dearden a David Sheppard, yn ymhyfrydu yn yr her o ddod â gwaith newydd i’w cynulleidfa. A hwythau’n enwog am eu cynlluniau sain soffistigedig ar gyfer digwyddiadau byw, maent wedi gweithio mewn neuaddau cyngerdd a thai opera ledled y byd, gan gydweithio â llawer o’r bobl dalentog fu’n creu a pherfformio cerddoriaeth newydd dros y 70 mlynedd diwethaf.
Gofynnir am eu profiad pan fo digwyddiadau eithriadol yn mynd y tu hwnt i’r patrymau sefydledig. Maent wedi dyfeisio a churadu gosodiadau a pherfformiadau mewn amgueddfeydd, orielau celf, a llu o fannau anghyffredin ar draws y byd – o Draeth Venice, California i draeth Aldeburgh yn Suffolk; o dwneli trenau tanddaearol Llundain i hofrenyddion uwchben dinas Paris.
Eu nod yw cymell a dylanwadu ar gerddorion, technegwyr a chyfansoddwyr trwy berfformiad awdurdodol, a throsglwyddo eu dyfeisgarwch ymlaen i’r genhedlaeth nesaf er mwyn bod o gymorth i gerddoriaeth y dyfodol.