Tia Camilleri
Storïwr yw Tia-zakura Camilleri sy’n defnyddio allfeydd creadigol i ddehongli ei hactifiaeth. Mae Tia’n aelod o Fwrdd Cynghori Ieuenctid a Grŵp Dylunio Canolfan Mileniwm Cymru. Mae hi hefyd yn gydymaith creadigol gyda Fio ac yn newyddiadurwr llawrydd ar y cylchgrawn BeXcellence. Gwelwyd ei barddoniaeth lafar yn fwyaf diweddar yn ei pherfformiad yng nghynhyrchiad Fio, Landing Bolts; yma, canfu hefyd fod ganddi gariad at gyfarwyddo. Ar hyn o bryd mae hi’n ysgrifennu a chyfarwyddo ei rhaglen ddogfen newydd ‘Unloc’d’ ac yn arddangos ei barddoniaeth yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Nod Tia yw paratoi’r ffordd ar gyfer pobl greadigol y dyfodol lle maent wedi teimlo diffyg cynrychiolaeth a pherthyn.