Tim Anderson
Mae Tim Anderson, sydd a’i deulu’n hanu o Brydain a’r Almaen, yn arweinydd sydd wedi ymgartrefu yn Llundain. Yn dilyn cyfnod yn astudio yn y New College, Rhydychen, gwahoddwyd Tim gan y diweddar Gerard Mortier i weithio yn y Teatro Real, Madrid yn 2013. Bellach, mae’n mwynhau gyrfa brysur yn gweithio gyda llawer o’r prif dai opera a’r prif gerddorfeydd yn Ewrop. Yn 2019, roedd Tim yn Arweinydd Cynorthwyol ar gyfer cyd-gynhyrchiad Music Theatre Wales a’r Royal Opera o The Intelligence Park gan Gerald Barry.
Tra oedd Tim yn gweithio ym Madrid, bu’n arwain perfformiadau ar gyfer yr adran addysg, a chynorthwyo i baratoi nifer fawr o gynyrchiadau ar gyfer y prif lwyfan. Ar ôl gadael Madrid bu’n répétiteur dan hyfforddiant gyda’r English National Opera, ac ers hynny mae wedi gweithio’n gyson yn Glyndebourne, gyda’r Northern Ireland Opera, y Nevill Holt Opera (lle mae ar hyn o bryd yn Arweinydd Cyswllt), yn ogystal ag yn Oper Stuttgart, Garsington Opera, a chyda Vladimir Jurowski a’r LPO.
Mae gan Tim brofiad eang ym maes opera gyfoes, yn cynnwys ei waith yn ddiweddar yn arwain y cynhyrchiad o Greek gan Mark-Anthony Turnage i ddathlu 30 mlynedd ers ei chyfansoddi yn yr Arcola Theatre, Llundain, mewn cynhyrchiad gan Jonathan Moore, y cyd-libretydd a’r cyfarwyddwr gwreiddiol. Yn ddiweddar, ymddangosodd Tim am y tro cyntaf gyda’r Birmingham Contemporary Music Group ac yn Snape Maltings.
Mae ei lwyddiannau pellach ym maes opera gyfoes yn cynnwys paratoadau cerddorol ar gyfer The Monstrous Child gan Gavin Higgins yn y Royal Opera House gyda Jessica Cottis; cynorthwyo Nicholas Kok ar y perfformiad cyntaf yn y DU o Silent Night yn Opera North; paratoadau cerddorol ar gyfer y premiere byd o Hamlet gan Brett Dean yn y Glyndebourne Festival gyda Vladimir Jurowski yn 2017, a chynorthwyo Nicholas Carter ar yr adfywiad yn yr Adelaide Festival 2018 gyda’r Adelaide Symphony Orchestra; paratoadau cerddorol ar gyfer The Gospel According to the Other Mary gan John Adams gyda’r English National Opera; Powder Her Face gan Thomas Adès gyda’r Northern Ireland Opera a’r Nevill Holt Opera; a To the Lighthouse gan Zesses Seglias yn y Bregenzer Festspiele.