Tom Coult
Ganed y cyfansoddwr Tom Coult yn Llundain yn 1988. Mae ei gerddoriaeth chwareus a hudolus wedi cael ei hyrwyddo gan nifer o’r prif gerddorfeydd ac ensemblau yn y DU, gan arwain at gyfres o ddarnau ar raddfa fawr a dderbyniodd ganmoliaeth uchel, yn cynnwys Beautiful Caged Thing ar gyfer y soprano Claire Booth a’r Mahler Chamber Orchestra; Sonnet Machine ar gyfer Cerddorfa Philharmonic y BBC, a St John’s Dance (a berfformiwyd am y tro cyntaf gan Edward Gardner a Cherddorfa Symffoni’r BBC ar Noson Agoriadol y BBC Proms yn 2017).
Yn 2021 cafodd ei benodi’n Gyfansoddwr Cyswllt gyda Cherddorfa’r BBC Philharmonic, sydd wedi perfformio’i gerddoriaeth ar sawl achlysur; darn mawr cyntaf ei gyfnod preswyl oedd Pleasure Garden, concerto ar gyfer y fiolinydd Daniel Pioro, a ddarlledwyd hefyd ar BBC Radio 3. Mae Tom wedi mwynhau cysylltiadau eraill gydag ensemblau megis y Britten Sinfonia a’r London Sinfonietta (a gyflwynodd y perfformiad cyntaf o Spirit of the Staircase, a enwebwyd ar gyfer y South Bank Sky Arts Award), ac yn 2022 bydd yn Gyfansoddwr Preswyl yng Ngŵyl Musikdorf Ernen, y Swistir.
Disgrifiwyd ei gerddoriaeth fel
‘funny and surreal and delicately poetic, all at once’ (The Telegraph), a ‘full of bewitching sounds . . . fresh and precisely imagined’ (The Guardian) – ‘Coult is a composer who spins glittering, teasingly ambiguous patterns out of simple-seeming material . . . a very individual voice’
(The Telegraph).
Cafwyd perfformiadau cerddorfaol eraill gan y Netherlands Radio Philharmonic, Cerddorfeydd y Royal Philharmonic a Cherddorfeydd y Swan, tra bod ei weithiau siambr wedi eu perfformio gan ensemblau yn cynnwys yr Arditti Quartet, Psappha, Quatuor Diotima, Fidelio Trio, Riot Ensemble ac unawdwyr o’r Philharmonia.
Astudiodd Tom ym Mhrifysgol Manceinion gyda Camden Reeves a Philip Grange, ac yn King’s College Llundain gyda George Benjamin. Rhwng 2017 a 2019 bu’n Gymrawd Cyffredin Gwadd yn y Celfyddydau Creadigol yng Ngholeg y Drindod Caergrawnt, ac yn addysgu ar gwrs cyfansoddi y Britten Sinfonia Academy a gyda Cherddorion Ifanc Aldeburgh. Mae’r gwobrau a enillwyd ganddo’n cynnwys Gwobr Paul Hamlyn i Artistiaid, Gwobr Goffa Lili Boulanger a Gwobr Cymdeithas y Royal Philharmonic am Gyfansoddi.