
Tumi Williams
Mae llais bariton nodedig a deheurwydd telynegol prif emcee Caerdydd, Skunkadelic (Tumi Williams) yn hawdd ei adnabod ymhlith seinwedd bythol-ffrwythlon Hip-Hop y Deyrnas Gyfunol. Ac yntau’n coleddu etifeddiaeth gerddorol wedi ei siapio gan oes aur hip hop a gwreiddiau ei deulu yn Nigeria, mae’n sianelu angerdd dwfn, profiad a dyfeisgarwch i mewn i bob odl.
Yn sgil cyhoeddi ei albwm cyntaf, ‘Musically Drifting’, mae Skunkadelic wedi cael nifer trawiadol o lwyddiannau, yn cynnwys sioeau byw yng nghwmni Talib Kweli, Chali 2na, The Pharcyde, Jehst, Rag n Bone Man, Blackalicious, Ugly Duckling, Jungle Brothers, Ocean Wisdom . . . yn ogystal â chyfleoedd i gydweithio gyda rhai fel The Allergies, Mr Woodnote, Dr Syntax, TY, Sparkz, Truthos Mufasa, Abstract Soundz, Twogood, Unchained XL a Band Pres Llaregubb ymhlith llu o rai eraill. Yr awydd angerddol i greu a rhannu yw’r grym sy’n dylanwadu ar bob symudiad mae’n ei wneud. Yn 2020 gwelodd ei gerddoriaeth ymsefydlu’n dda wrth gael ei gylchdroi’n aml gan Lauren Lauverne (BBC6 music), Adam Walton (BBC Radio Wales), Jo Wiley (BBC Radio 2) a Tom Robinson (BBC6 music).
Yn ogystal â’i waith fel unawdydd, mae gan Skunkadelic swydd breswyl yng ngofal y grŵp 9-darn Afro Cluster, a thros y ddegawd ddiwethaf mae wedi ysgrifennu, recordio a theithio’n eang gyda’r grŵp. Maent wedi ymddangos mewn nifer o wyliau a digwyddiadau uchel eu proffil, yn cynnwys Glastonbury, Womad, Green Man, Boomtown a Gŵyl y Llais, a theithio gyda rhai fel Ibibio Sound Machine, Craig Charles, Gilles Peterson a’r Hot 8 Brass Band.
Ac yntau’n rhannu ei daith greadigol yn gyson, mae wedi mireinio’i sgiliau rhwydweithio fel asiant trefnu gyda thîm hyrwyddo ‘Starving Artists’, Caerdydd, ac asiantaeth ‘Fiesta Bombarda’, Lerpwl. Mae e hefyd yn dod i’r amlwg fel addysgwr, yn rhedeg cyfres o weithdai cerddoriaeth/celf mewn ysgolion ac o fewn ei gymuned leol, gan ddangos ymroddiad nid yn unig i gynnyrch artistig, ond hefyd i’r diwydiant a’r hyfforddiant ffyniannus sy’n sail iddo.
Gydag EP newydd ar y gweill, ac albwm llawn gan Afro Cluster allan ym mis Chwefror, mae 2021 wedi bod yn flwyddyn gynhyrchiol arall.