William Cole
Gyda repertoire sy’n ymestyn o faes opera cynnar hyd at gyfansoddiadau newydd, mae uchafbwyntiau diweddar William Cole yn cynnwys ei berfformiad cyngerdd cyntaf gyda’r Britten Sinfonia a’r Red Note Ensemble, Schnee gan Hans Abrahamsen gyda’r Royal Northern Sinfonia, a The Fairy Queen gan Purcell ar gyfer y Waterperry Opera Festival. Ac yntau’n weithgar yn y tŷ opera ac ar y llwyfan cyngerdd, mae ei ymddangosiadau diweddar a rhai sydd ar y gweill yn cynnwys prosiectau gyda’r Royal Opera Covent Garden, English National Opera, Opera North, Operá National du Rhin, Theater Aachen, Music Theatre Wales, Jerwood Opera Programme yn Snape Maltings, Nevill Holt Opera a’r Grange Festival. Mae’r digwyddiadau a ganslwyd yn sgil Covid-19 yn cynnwys tymor fel Pennaeth Cerddoriaeth ar gyfer yr English Touring Opera, a’i berfformiadau cyntaf gyda’r London Sinfonietta a’r Birmingham Contemporary Music Group.
Fel un sy’n angerddol dros hyrwyddo gwaith newydd ac arbrofol, mae’n Gyfarwyddwr Cerdd y Filthy Lucre, cydweithfa drochi aml-genre lle bu’n gweithio gydag artistiaid o faes dawns, cerflunio, a ffilm mewn cerddoriaeth o Xenakis i The Clash. Mae gweithiau eraill yn y maes hwn yn cynnwys darnau pwysig gan Ligeti, Boulez, Grisey, Vivier a Kurtág, yn ogystal â gweithiau newydd gan gyfansoddwyr yn cynnwys Patricia Alessandrini, Emily Howard, Shiori Usui a Laurence Osborn. Ar hyn o bryd mae’n aelod o raglen NEXT y Birmingham Contemporary Music Group. Mae ei ddosbarthiadau meistr a rhaglenni hyfforddi eraill yn cynnwys y rhaglen i arweinyddion yn Ysgol Haf Ryngwladol Dartington gyda Sian Edwards, Voix Nouvelles y Royaumont Abbey gyda’r Ensemble Linea a Péter Eötvös, a’r Seminar Arwain yng Nghanolfan Gerddoriaeth Tanglewood.
Astudiodd William yn yr Academi Gerdd Frenhinol, lle roedd yn Gymrawd Ailadroddydd, a bellach mae’n hyfforddwr gwadd yno.