The Golden Dragon
Gan Peter Eötvös
Yn seiliedig ar y ddrama gan Roland Schimmelpfennig
Mae mudo, ecsploetio, gobeithion a breudwydion coll wrth galon The Golden Dragon, sef stori gymhellgar o fywyd cyfoes – doniol, arswydus a theimladwy i’r un graddau.
Wrth galon yr hanes yma o’r Dwyrain yn cwrdd â’r Gorllewin mae darganfyddiad o ddant pwdr mewn bowlen o gawl. I’r “crwt” yn y gegin mae’r dant yn perthyn ac mae e’n bell iawn o’i gartref heb unrhyw bapurau swyddogol. Mae ef hefyd yn chwilio am ei chwaer ond cafodd hithau ei gorfodi mewn i wasanaeth o fath gwahanol iawn drws nesaf…
Y Stori
Yn gymysgedd o gomedi a thrasiedi, mae The Golden Dragon wedi ei osod mewn tŷ bwyta Asiaidd ac yn dilyn helynt mewnfudr o Tsieina sydd yn gweithio’n anghyfreithlon yn y gegin. Ar ôl dioddef o’r ddannodd, does dim modd iddo gael help meddygol o ganlyniad i’w statws anghyfreithlon, felly does gando ddim dewis ond derbyn help ac ymdrechion gorau ei gyfeillion yn y gegin, gyda chanlyniadau trychinebus. Yn y cyfamser, mae stori gyfochrog ynglŷn â morgrugyn dilornus a chricedyn bregus yn amlygu sefyllfa nifer fawr o bobl mewn modd milain, sydd yn canfod ei hunain ar gyrrion cymdeithas. Opera newydd yw hon gyda pherthnasedd arbennig o bwerus yma a nawr.
Y Cynhyrchiad
“This production follows a similar approach to our award-winning staging of Greek – the orchestra takes pride of place on stage, participating in every moment as players and observers. They perform alongside a cast of flamboyant theatrical performers, playing multiple roles with relish and passion, switching from comedy to pathos and from passionate engagement to cool narration. And all the while the opera reveals the potential horrors facing those who seek refuge in foreign lands, notably our own Western and supposedly civilised society.
This opera should have you laughing one moment and despairing the next. Our approach is to revel in the vital and virtuosic score which animates the drama, and to first present the singers as performers who introduce the characters they are about to play. We want to draw people into a world that is at first slapstick and fun but which turns distinctly nasty, not least with the fable of the Cricket and the Ant which starts in the land of storytelling but quickly gets mixed up in the cruel world surrounding the restaurant.”
Michael McCarthy, Director
Dyddiadau
Theatr y Sherman
Dydd Gwener Medi 22
Birmingham Rep
Dydd Mawrth Hydref 3
Basingstoke Anvil
Dydd Iau Hydref 12
Pontio Bangor
Dydd Mercher Hydref 18
Snape Maltings Aldeburgh
Dydd Sadwrn Hydref 21
Hackney Empire
Dyd Mawrth Hydef 31