The Jollof House Party Opera - Fersiwn Digidol Gwreiddiol
Mae Adeola yn egin gogydd. Daw â steil a’i arbenigedd yw jollof fegan. Mae Asha yn rheolwraig flinedig a gweithgar mewn caffi lleol. A fydd rhwystrau meini prawf ei swydd yn atal Adeola, ynteu ai ef yw’r cynhwysyn coll?
Croeso i The Jollof House Party Opera, sydd wedi’i ysgrifennu gan Tumi Williams fel ffordd o archwilio ac ehangu’r ffurf operatig, a dan gyfarwyddyd Sita Thomas, cyfarwyddwr amlddisgyblaethol. Mwynhaodd y ddeuawd greadigol y profiad o ddatblygu eu perthynas gydweithredol, gan gyfrannu eu treftadaeth ddiwylliannol eu hunain at y darn, ac ymgysylltu ag opera gyfoes yng Nghaerdydd.
Credydau
Ysgrifennwr, Cyfansoddwr a Pherfformiwr – Tumi Williams
Cyfarwyddwr a Dramodydd – Sita Thomas
Cyd-ysgrifennwr a Pherfformiwr – Asha Jane
Sampl Drymiau Siarad – Ayo Lademi
Dylunydd a Pheiriannydd Sain – Sanders at Kings Road Studio
Ffilm a Golygu – Marcus Georges & Nick Wotton for Redbrck
Gyda diolch arbennig i Neighbourhood Kitchen & Bedrooms
Tîm Creadigol