The Trial of Dhegdheer
Beth sy’n digwydd pan mae chwedlau, fideos AI a phanig cyhoeddus yn penderfynu pwy sy’n euog?
Mae dynes Ddu o Ddociau Caerdydd yn wynebu achos llys am “ddwyn a bwyta plant lleol”. Gan gredu ei bod yn y llys am ddefnyddio’r bagiau ailgylchu anghywir, mae’n gwylio mewn anghrediniaeth wrth i chwedl Somalïaidd Dhegdheer a fideos AI ffug gael eu defnyddio fel tystiolaeth yn ei herbyn.
Gyda llai nag awr i’r rheithgor benderfynu, a all ei chyfreithiwr amddiffyn, Ali Star, atal anghyfiawnder arall?
Wedi’i chreu gyda chyfranogwyr o gymunedau Somalaidd, Yemenaidd a Chymreig Grangetown a Threbiwt, ochr yn ochr â dau ganwr proffesiynol, mae The Trial of Dhegdheer yn opera newydd feiddgar sy’n archwilio cyfiawnder, y gwirionedd a phwy sy’n cael eu credu. Gyda pherfformwyr lleol a chantores Buraanbur.
Wedi’i hysgrifennu gan Ali Goolyad, ei chyfarwyddo gan Mathilde López, a gyda cherddoriaeth gan Ani Glass, Eadyth a Robert Fokkens.
Dylunio’r Set a Rheolwr Cynhyrchu – Gerald Tyler
Dylunio Gwisgoedd – Dotty Squibb
Cast
Mrs Farhiya — Gweneth Ann Rand
Yr Erlynydd — Thomas Coltman
Y Cyfreithiwr Amddiffyn — Ali Goolyad
Y Barnwr — Steve Fisher
Cyfranogwyr Cymunedol fel y Rheithgor, Cyfieithwyr, Tystion, Arbenigwyr, Mamau a Phlant
“What struck me most throughout the performance was the seamless blending of cultures, traditions and perspectives. Somali folklore sits alongside contemporary Cardiff life. Questions about justice and technology intersect with community experiences and personal histories. The result is storytelling that feels fresh, urgent and unlike anything else currently being produced”.
— The Edit Wales
Galeri
Cynnwys Ychwanegol
Partneriaid
Mae Fio yn gwmni theatr blaengar wedi’i leoli yng Nghaerdydd, sy’n ymddiddori mewn celf, artistiaid a syniadau. Mae’n gweithio gydag artistiaid o’r mwyafrif byd-eang i ailystyried ac ail-ddychmygu’r canon theatrig a/neu i greu gweithiau newydd sy’n herio, ysgogi ac ysbrydoli.
Nod Fio yw llunio ac ysgwyd diwylliant yng Nghymru y tu hwnt i gynrychiolaeth, drwy greu llwybrau a chyfleoedd i artistiaid o’r mwyafrif byd-eang ddatblygu, creu a phrofi theatr feiddgar a dychmygus sy’n ymgysylltu â chymunedau a thechnoleg.











