40 Years of MTW

Mae 2022 yn nodi 40 mlynedd ers i’r Cardiff New Opera Group, a fyddai’n ddiweddarach yn dod yn Music Theatre Wales, berfformio am y tro cyntaf. Y darn a ddewiswyd gennym oedd ‘The Lighthouse’ gan Peter Maxwell Davies; byddai ei waith ef yn parhau i gael ei berfformio gan y cwmni, a daeth yn Noddwr yn 1995. Roedd Max yn arwain y ffordd wrth ailfeddwl sut y gallai opera weithio, gan greu gweithiau pwerus a chryno oedd yn ein hysbrydoli ni ac yn cyffroi cynulleidfaoedd. Darparodd ei waith ef fodel ar gyfer cwmni newydd, ac nid ydym wedi edrych yn ôl.

Dros y 40 mlynedd ddiwethaf, mae MTW wedi cynhyrchu 53 o weithiau gan artistiaid o’r DU ac yn rhyngwladol; rydym wedi comisiynu 23 o operâu newydd ac wedi cefnogi dros 50 o egin-gyfansoddwyr, ac wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad tirlun yr opera yn y DU ac yn rhyngwladol. Yn 2021, lansiodd y cwmni ei raglen artistig newydd, New Directions, sydd unwaith eto’n herio beth yw opera, pwy sy’n ei greu ac ar gyfer pwy y mae. Bellach, mae ‘New Directions’ yn eistedd wrth galon MTW, gan ddatblygu dulliau gwahanol o feddwl am opera trwy weithio gydag artistiaid sefydledig o’r mwyafrif byd-eang, a anwybyddwyd ac a eithriwyd gan y sector opera.

Ym mis Mehefin 2022, yn y perfformiad cyntaf yng Nghymru o ‘Violet’ gan Tom Coult ac Alice Birch, dathlodd MTW ei ben blwydd yn 40 oed yn yr union theatr lle dechreuodd y cyfan yn 1982 – Theatr y Sherman. Yn ymuno â ni roedd dau o’r cantorion allan o’r cast o dri yn y cynhyrchiad cyntaf hwnnw, yn ogystal â sawl aelod o’r gynulleidfa:

Judith Weir

Cyfansoddwr y darn a ddefnyddiwyd gennym i lansio Music Theatre Wales – King Harald’s Saga – ac arweinydd cyntaf ysbrydoledig Make an Aria yn 2008 a 2010. Meistr Cerddoriaeth y Frenhines.

Mae 40 mlynedd o berfformio gweithiau theatr gerddoriaeth cwbl newydd i gynulleidfaoedd ledled y wlad ac ymhellach, yn wir yn rhywbeth i’w ddathlu: rhywbeth nad oes llawer o gynsail iddo, na chystadleuwyr yn unrhyw le, ond sy’n wirioneddol bwysig. Mae’n rhaid i ni weld gwaith newydd yn y maes yma, neu bydd hwnnw hefyd yn datblygu i fod yn weithgaredd sy’n perthyn i amgueddfeydd yn unig.

Tom Coult

Cyfansoddwr Violet

Mae cyflwyno gwaith mor ddiddorol am gyfnod mor hir yn gamp anhygoel – ynghyd â chomisiynu cymaint o waith, a chyflwyno darnau nad ydym yn cael cyfle i’w gweld yn aml. Mae’n wych bod Violet wedi chwarae rhan fechan yn yr hanes hwnnw, ac mae’n golygu llawer i mi, Michael, eich bod wedi dangos y fath ffydd yn y prosiect o’r cychwyn cyntaf. Gobeithio y cewch chi flynyddoedd lawer eto o greu gwaith ddiddorol, ym mha ffurf bynnag fydd hynny.

The Trial 2014

Philip Glass

Cyfansoddwr tair o operâu MTW: The Fall of the House of Usher, In the Penal Colony and The Trial (comisiwn MTW)

Llongyfarchiadau i Music Theatre Wales am 40 mlynedd o arloesedd yn y celfyddydau. Mae’r cwmni wedi perfformio sawl un o’m gweithiau i, yn cynnwys The Fall of the House of Usher, In the Penal Colony, a The Trial. Fel comisiynwyr The Trial, roedd Music Theatre Wales yn bartner gwych, a daethant â’m gwaith i gynulleidfaoedd newydd. Rwy’n hynod ddiolchgar am eu hymrwymiad i weithiau newydd. Diolch yn fawr.

Andrew Burke

Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig, London Sinfonietta

Mae’n rhyfeddol bod MTW wedi cyrraedd 40, gan greu rhai o’r prosiectau theatr gerddoriaeth deithiol gorau yn ein cyfnod ni. Rydych wedi gwasanaethu cyfansoddwyr a chynulleidfaoedd am ddegawdau, ac wedi datblygu’r ffurf hon ar gelfyddyd. Yn ddiweddar, bu’n bleser cael ymwneud â chi fel sefydliad – a gweld cymaint o ofal a sylw rydych yn eu rhoi i esblygu nid yn unig brosiectau gwych, ond hefyd y teimlad cryf o weithio fel tîm ymhlith eich holl gydweithredwyr. Rwy’n sicr y byddwch yn dyfeisio cam nesaf y sefydliad gyda’r un disgleirdeb a chreadigrwydd a fydd yn parhau i weithredu fel ysbrydoliaeth i eraill.

Passion 2018

Pascal Dusapin

Cyfansoddwr ac awdur Passion

Mae gen i atgofion hyfryd o weithio gyda chi ar y cynhyrchiad hwn o Passion! Ac rwy’n falch bod eich cwmni mor ifanc yn 40 oed!... Dymunaf bob llwyddiant i chi yn eich anturiaethau cerddorol newydd.

Krystal S. Lowe

Awdur, dawnsiwr, crëwr Somehow

Pen blwydd hapus, Music Theatre Wales. Diolch i chi am eich cefnogaeth.

Arwel Gruffydd

Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru (2011–22) a chyd-gomisiynydd/cyd-gynhyrchydd Y Tŵr

Tu hwnt i’r cyd-weithio rhwydd, a’r pleser o gyd-weithio, mi oedd hi’n fraint wirioneddol, ac yn brofiad emosiynol iawn i mi, yn arbennig ar y noson gyntaf honno, yn clywed y gwaith yma’n cael ei gyflwyno am y tro cyntaf – yr opera fendigedig yma gan Guto Puw, a chynhyrchiad godidog dan gyfarwyddyd Michael McCarthy. Felly, alla i ond diolch i chi am y profiad yma, Music Theatre Wales; am eich gweledigaeth chi, am gredu yn Guto yn y lle cyntaf, ac am yrru’r prosiect yma yn ei flaen, achos chi ddaru ddod at y Theatr Genedlaethol efo’r syniad a gofyn am ein cefnogaeth ni. Felly, diolch i chi am eich dewrder. A diolch i chi am y rhodd yma i’n hiaith a’n diwylliant; ac, wrth gwrs, Pen Blwydd Hapus iawn i chi.

Y Tŵr - 2017

Guto Puw

Cyfansoddwr Y Tŵr

Llongyfarchiadau mawr i Music Theatre Wales ar gyrraedd y 40 mlwydd oed, sy’n garreg filltir nodedig iawn a diolch i chi am ddod ag operau cyfoes o bob math i gynulleidfaoedd yma yn Nghymru a thu hwnt. Fy mhrofiad cyntaf o Music Theatre Wales oedd fel myfyriwr cerdd yn mynd i wrando ar yr opera ‘The Man Who Mistook his Wife for a Hat’ gan Nyman yn yr hen Theatr Gwynedd ym Mangor nol yn 1991. Hefyd, cael cyfle i glywed Philip Glass yn siarad am ei opera yn Theatr Clwyd! Yn ddiweddarach, cefais y fraint o gael Th G C i berfformio a chynhyrchu fy opera gyntaf, Y Tŵr, a’r opera gyntaf yn y Gymraeg gan gerddorion a chwmni proffesiynol. Hefyd braf ydi gweld y cwmni yn arbrofi yn y blynyddoedd diwethaf yma i ddod ag agweddau newydd o opera i’r cyhoedd, gan feddwl tu allan i’r bocs operatig. Boed i hynny barhau, ac edrychaf ymlae i glywed cynhyrchiadau cyffrous am flynyddoedd i ddod. Llongyfarchiadau unwaith eto!

Gwyneth Glyn

Libretto for Y Tŵr, Welsh adaptation of The Soldier’s Tale – Stori’r Milwr and Welsh translation of Violet for 2022 tour.

Pen Blwydd Hapus iawn i chi, Music Theatre Wales, yn ddeugain oed. Waw! Anodd credu bod cwmni mor flaengar ac arloesol bron iawn cyn hyned â fi! Mae wedi bod yn fraint ac yn bleser cael rhannu sawl siwrna efo chi dros y blynyddoedd diwetha, yn cynnwys cynyrchiadau fel A Soldier’s Tale a’r Y Tŵr, a dwi’n edrych ymlaen yn arw i gael rhannu sawl antur arall efo chi yn y blynyddoedd i ddod; a dwi’n edrych ymlaen i weld pa ryfeddodau ddaw i’ch rhan chi dros y ddeugain mlynedd nesa. Felly Pen Blwydd Hapus, a mwynhewch y dathlu!

Caroline Finn

Cyd-gyfarwyddwr a Choreograffydd Passion

Am garreg filltir! Teimlaf ei bod yn anrhydedd o’r mwyaf i gael bod yn rhan fechan o’r daith honno. Bydd y cydweithredu ar Passion yn aros gyda mi am byth – y fath gynhesrwydd, y fath haelioni, a thîm cwbl anhygoel! Felly daliwch ati, a pharhau i ddod ag opera newydd i’r byd.

Stuart MacRae

Stuart MacRae – Cyfansoddwr Ghost Patrol (enillydd y South Bank Sky Arts Award ac enwebwyd am Olivier) a The Devil Inside, ac arweinydd Make an Aria yn 2016

Fel cyfansoddwr dwy opera, a mentor ar Make an Aria – rhaglen ddatblygu ysbrydoledig MTW – rhai o’r geiriau y gallwn eu defnyddio i ddisgrifio’r cwmni fyddai; ysbrydoledig, arloesol, uchelgeisiol a chefnogol. Mae’r ffaith eu bod yn teithio eu holl waith o amgylch y wlad yn rhywbeth gwych i gyfansoddwyr a chynulleidfaoedd opera newydd a theatr gerddoriaeth – boed iddynt fynd o nerth i nerth.

Flowers 1994 - Photogrpahy by Brian Tarr

John Hardy

Cyfansoddwr Flowers a The Roswell Incident

Digwyddais fod yn bresennol yn y cynhyrchiad cyntaf un – The Lighthouse – yn 1982. Y fath gynhyrchiad disglair, a rhyfeddol o ddarbodus gyda’i ddeunydd, ei ddull – rhyw awr o ran hyd, ac eto cewch eich cludo ar daith fawr emosiynol. Gwnaeth i mi ofyn, tybed pwy yw’r bobl hyn sy’n creu’r gwaith anhygoel, bywiog, hyderus hwn o safon mor uchel? Sut gall hynny fod 40 mlynedd yn ôl? Mae’n teimlo fel edefyn parhaus o greadigrwydd tonnog sydd wastad wedi bod yno yn y cefndir, bob amser yn hygyrch a phob amser yn ddibynadwy wrth fynd ymlaen – a hynny yma yng Nghaerdydd.

Philip Venables

Cyfansoddwr Denis & Katya (enillydd gwobr Ivor Novello a Gwobr Fedora Generali am Opera)

Am gyflawniad anhygoel! Llongyfarchiadau am feiddgarwch a dewrder eich gweledigaeth dros y 40 mlynedd diwethaf. Roedd yn anrhydedd ac yn bleser mawr i mi gael gweithio gyda chi ar Denis & Katya – ro’n i’n hynod falch o’r hyn y llwyddon ni i’w greu gyda’n gilydd. Ymlaen i’r dyfodol a llawer mwy o sioeau!

Pride (A Lions Roar) 2021

Renell Shaw

Cyfansoddwr Pride (A Lion’s Roar)

Rwyf wrth fy modd gyda phopeth rydych yn ei wneud. Diolch am feddwl ‘y tu allan i’r bocs’ bob amser – oherwydd dyna lle mae’r pethau cŵl i’w cael!

Michael Berkeley

Cyfansoddwr Jane Eyre a For You

Fel cwmni opera teithiol rhagorol ar raddfa fechan, rydych yn darparu gwasanaeth cwbl amhrisiadwy i’r gymuned gerddoriaeth yn y wlad hon. Fel cyn-Gyfarwyddwr Gŵyl Cheltenham, fe ddois i ddibynnu’n helaeth ar eich dyfeisgarwch a’ch awch am waith newydd, ac ansawdd uchel cydweithrediadau MTW. Fel cyfansoddwr dwy opera ar gyfer MTW, byddwn yn cael trafferth i feddwl am berthynas fwy ffrwythlon i gyfansoddwr; drama, cynllun, perfformiad – y cyfan yn llawn dychymyg a brwdfrydedd heintus ar draws ystod amrywiol o waith. Pleser o’r mwyaf, felly, yw dymuno Pen Blwydd Hapus iawn i chi, a llawer cyfle eto i ymddangos ar lwyfannau ledled y wlad.

In The Locked Room 2012

Huw Watkins

Cyfansoddwr In The Locked Room (enwebwyd am Olivier) a Crime Fiction

Mae Music Theatre Wales wedi bod yn gwmni hynod bwysig i mi fel cyfansoddwr. Bu’n brofiad cwbl anhygoel. A phob lwc ar gyfer y 40 mlynedd nesaf!

Nicola Heywood Thomas

Darlledwr – BBC Radio Wales Arts Show

Mae Music Theatre Wales yn rhyfeddol. Mae eu hymrwymiad i gynhyrchu cymaint o waith newydd, a dod ag e i gynulleidfaoedd yma yng Nghymru a thu hwnt, yn parhau i gyfoethogi’r tirlun diwylliannol. Diolch yn fawr i’r cwmni am ddeugain mlynedd o greadigrwydd dewr.

Mark Anthony Turnage

Cyfansoddwr Greek (Gwobr TMA am Gyflawniad Rhagorol mewn Opera 2011) ac arweinydd Make an Aria yn 2012, wedi ei ysgrifennu yn 2012.

Ysgrifennodd Turnage atom ar ôl i ni agor ein cynhyrchiad o’i opera Greek, ac mae’n hapus i ni ddyfynnu’r ebost hwn:

Mae Music Theatre Wales wedi dod â’m Opera yn fyw unwaith eto. Doeddwn i erioed wedi disgwyl y fath gynhyrchiad rhyfeddol. Mae pob elfen o’r perfformiadau hyn o Greek yn ardderchog. Cerddorfa wych, a’r cast gorau erioed, ynghyd â chynhyrchiad anhygoel o bwerus. Bravo i bawb oedd yn rhan ohono. Does dim rhyfedd ei fod eisoes wedi ennill gwobr. Mae cyfansoddwyr yn ffodus iawn o gael anogaeth gan gwmni o safon byd-eang. Gwn, o siarad gyda chyd-gyfansoddwyr sydd wedi bod yn ddigon ffodus i gael MTW i ymgymryd â’u gwaith, cymaint o enw da sydd gennych fel cwmni.

Eight Songs for a Mad King 1986

Peter Maxwell Davies

Noddwr MTW 1995–2016 a Chyfansoddwr The Lighthouse, The Martyrdom of St Magnus ac Eight Songs for a Mad King, ysgrifennwyd yn 1995 a 2013.

Llongyfarchiadau ar eich record anhygoel ac ar eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Dymunaf y gorau i chi – boed i chi fynd o nerth i nerth. Yn naturiol, yn sgil eich perfformiadau o The Martyrdom of St Magnus a The Lighthouse, pleser o’r mwyaf i mi yw bod yn Noddwr. 1995.

Rwyf wedi edmygu gwaith y cwmni rhyfeddol hwn ers blynddoedd lawer, ac yn teimlo’n falch a gwylaidd i fod yn Noddwr iddynt. Ni wn am unrhyw gwmni opera arall sydd wedi ymrwymo i gomisiynu a pherfformio y fath ystod o weithiau newydd, a hynny’n ddi-dor dros gyfnod o chwarter canrif. Mae cynifer o artistiaid, yn fy nghynnwys i fy hun, wedi cael budd o’u gwaith, eu harweiniad, eu cefnogaeth a’u hysbrydoliaeth; gwn hefyd fod cynulleidfaoedd ledled y Deyrnas Gyfunol wedi cael eu hysgogi a’u dyrchafu gan berfformiadau o ansawdd ac eglurder o’r safon uchaf. 2013

Harrison Birtwistle with co-founders of MTW – Michael McCarthy and Michael Rafferty (2008)

Harrison Birtwistle

Composer Punch and Judy and Down by the Greenwood Side

“The best it’s ever been” – The opening night of our production of Punch and Judy in 1998.

“Still the best it’s ever been” – Revival of our production of Punch and Judyin co-production with the Royal Opera House in 2008.

Alex Reedijk

Cyfarwyddwr Cyffredinol Scottish Opera

Dechreuodd MTW a Scottish Opera weithio gyda’i gilydd yn 2008 drwy weledigaeth ar y cyd ynghylch grym a phwysigrwydd comisiynau newydd yma yn y Deyrnas Gyfunol. Y sbardun i ni oedd awydd dwfn i greu a rhannu opera newydd ar gyfer ein cynulleidfaoedd, a grymuso cyfansoddwyr a libretwyr i greu gwaith sy’n adrodd straeon ein cyfnod ni. Bu’n bartneriaeth anhygoel, gyda pheth beirniadaeth lem a thrafodaethau gonest, sydd wedi arwain at rai deilliannau ysbrydoledig ar gyfer ein cynulleidfaoedd dros y 14 mlynedd ddiwethaf. Taith hyfryd, yn wir!

Roger Wright

Prif Weithredwr, Britten Pears Arts

Llongyfarchiadau, a phen blwydd hapus yn 40 i MTW! Y fath waddol mae’r cwmni eisoes wedi ei adeiladu – a dymunwn ddyfodol disglair i’w waith arbennig. Mae’n bleser cael gweithio gyda’n gilydd i gynhyrchu operâu newydd a darnau ar gyfer theatr gerddoriaeth. Roedd yr hyn y llwyddon ni i’w gyflawni gyda’n gilydd wrth ddod â Violet, gwaith Tom Coult, yn fyw eleni yng Ngŵyl Aldeburgh ac ar daith – a’r ganmoliaeth a gafwyd gan yr adolygwyr a’r cyhoedd – yn ddim ond un enghraifft ddisglair o bwysigrwydd MTW. Ymlaen!