Cyhoeddwyd ar 22/02/22

 

Mae Music Theatre Wales yn lansio FUTURE DIRECTIONS ynghyd â dau o grëwyr-cerddoriaeth newydd

Cyhoeddwyd ar 22/02/22

Rhaglen i bobl ifanc yw FUTURE DIRECTIONS – un wahanol i’r arfer, lle bydd pobl ifanc yn gweithio mewn cydweithrediad â Chrëwyr-Cerddoriaeth proffesiynol, gan ddysgu oddi wrth ac ysbrydoli ei gilydd i archwilio beth mae opera a theatr gerddoriaeth yn ei olygu iddynt hwy ac i’w cymunedau.

Yn ddiweddar, mae Music Theatre Wales wedi penodi Jefferson Lobo a Robert Fokkens fel crëwyr-cerddoriaeth ar y prosiect, a byddant yn ymuno â Jain Boon fel arweinydd gweithdai a Lleucu Meinir fel gwneuthurwr ffilmiau. Bydd Jefferson a Robert yn cydweithio gyda’r cyfranogwyr ifanc, a chyda’i gilydd, i greu gwaith newydd a gwreiddiol sy’n cynnwys cyfuniad pwerus o leisiau artistig na fyddent fel arall wedi cael cyfle i gwrdd. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at ddarganfod sut y bydd y gwaith cydweithredol hwn yn ein harwain i gyfeiriadau newydd ac annisgwyl, wrth i ni ddechrau ailddychmygu beth yw opera ac ar gyfer pwy y mae.

Mae Jefferson Lobo yn gerddor, cyfansoddwr a chynhyrchydd a aned yn Brasil ac sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Bu’n ffocysu ar gerddoriaeth ddyfodolaidd, wedi ei hysbrydoli gan natur a jazz-ffync, ac ar hyn o bryd mae’n rhyddhau cerddoriaeth newydd yn gyson o’i gatalog. Y sail ar gyfer ei grochan cerddorol yw harmonïau swynol a phersain wedi eu cyfuno â melodïau sydd (ambell waith) yn gellweirus, ac yn cynnwys arddulliau megis jazz, cerddorfaol, Lladin, reggae, dyfodolaidd, a cherddoriaeth byd. Mae wedi gweithio gyda’r cwmni theatr August 012 a gyda Radio’r BBC, ac wedi cyfansoddi, sgorio a threfnu cerddoriaeth ar gyfer Carnifal Tre-biwt yn 2020 a 2021; un o’r uchafbwyntiau arbennig oedd ei ddarn rhyngwladol Zamba, a gomisiynwyd gan Gymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Tre-biwt.

Cyfansoddwr o Dde Affrica yw Robert Fokkens, ond bellach mae’n byw yn y DU. Mae ei waith yn archwilio ystod o ddylanwadau, o gerddoriaeth draddodiadol De Affrica i gerddoriaeth arbrofol yr 20fed a’r 21ain ganrif, gan gynnwys jazz, cerddoriaeth ddawns electronig a’r canon clasurol. Mae gwaith Robert wedi cael ei berfformio yn y prif ganolfannau yn y DU (yn cynnwys y Wigmore Hall, y Purcell Room a’r Royal Festival Hall), De Affrica, Awstralia, UDA, Japan, a ledled Ewrop. Bydd ei opera ‘Bhekizizwe’ yn teithio Cymru yr hydref hwn.

Dywedodd Michael McCarthy, y Cyfarwyddwr Artistig,

“Mae’n wych cael gweithio gyda thîm mor gyffrous ar Future Directions. Mae’r cyfuniad o’r fath ystod o dalentau a sgiliau yn un rhyfeddol, gyda Jefferson a Robert yn dod â bydoedd cerddorol mor wahanol i’r gwaith creadigol dan arweiniad drama a ddarperir gan Jain, a’r cyfan yn arwain tuag at greu darn wedi’i ffilmio gyda Lleucu. Creu opera sy’n dechrau gyda phobl ifanc yw’r prosiect hwn; caiff ei ddatblygu mewn cydweithrediad â phobl broffesiynol ac mae’n edrych tua’r dyfodol.”

Mae’r prosiect Future Directions wedi ei lunio o gwmpas dau gyfnod preswyl. Yn y cyntaf, yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, byddwn yn dechrau casglu blociau adeiladu’r gwaith newydd at ei gilydd, ac yn dilyn hynny ceir cyfarfodydd misol ar-lein. Yn ystod y cyfnod preswyl olaf, a gynhelir yng Nghaerdydd, byddwn yn llwyfannu a chreu’r darn.

I wybod mwy am FUTURE DIRECTIONS, ewch i’n gwefan: https://www.musictheatre.wales/productions/future-directions.html