Mae Violet, opera newydd gan y dramodydd Alice Birch a’r cyfansoddwr Tom Coult, yn cael ei pherfformiadau cyntaf yr haf hwn, gyda 6 pherfformiad ledled y DU

Aldeburgh Festival
Neuadd Gyngerdd Snape Maltings, 3 a 5 Mehefin
Sherman Theatre
Caerdydd, 8 Mehefin
Theatr Clwyd
Mold, 19 June
Hackney Empire
Llundain, 23 Mehefin
Buxton International Festival
Buxton, 18 Gorffennaf

Mae’r dramodydd Alice Birch a’r cyfansoddwr Tom Coult ymhlith y lleisiau mwyaf grymus yn eu meysydd unigol, ac mae eu hopera gyntaf, a ddatblygwyd yn Snape Maltings fel rhan o’r cynllun Jerwood Opera Writing Programme, yn opera ar gyfer ac am y cyfnod presennol.

Yn ei gŵn nos fwdlyd, mewn cegin gartrefol, mae Violet yn gwenu o’r diwedd. Ers blynyddoedd lawer, rheolwyd ei rwtîn dyddiol, blinedig, gan seiniau diddiwedd Tŵr y Cloc – ond un noson mae hi’n teimlo amser yn cyflymu. Yn sydyn, mae awr yn mynd ar goll – bob dydd. Wrth i’r oriau ddiflannu, mae pob sicrwydd a goleddwyd ers amser hir yn diflannu, a chymdeithas wâr yn datgymalu. Gyda thrigolion y dref mewn argyfwng, oes gobaith i Violet ddianc o’r diwedd?

Yn wreiddiol, roedd premier Violet i fod i gael ei gyflwyno yn yr Aldeburgh Festival 2020, y bu raid ei chanslo, a bydd yn awr yn agor Gŵyl 2022 gyda dau berfformiad (3 a 5 Mehefin). Yn dilyn y perfformiadau yn yr Aldeburgh Fetival, bydd Music Theatre Wales yn teithio’r cynhyrchiad i Theatr y Sherman yng Nghaerdydd (8 Mehefin), Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug (19 Mehefin), yn Llundain, yn cael ei chyflwyno gan y Royal Opera yn yr Hackney Empire (23 Mehefin) ac yn y Buxton Festival (18 Gorffennaf).

Andrew Gourlay sy’n arwain y London Sinfonietta ac mae’r cast yn cynnwys Anna Dennis (Violet), Richard Burkhard (Felix), Frances Gregory (Laura), ac Andrew Mackenzie-Wicks (Ceidwad y Cloc). Mae Anna Dennis yn cymryd lle Elizabeth Atherton sydd wedi tynnu’n ôl oherwydd amgylchiadau personol. Mae’r tîm creadigol yn cynnwys y cyfarwyddwr Jude Christian, y cynllunydd Rosie Elnile a’r cynllunydd gwisgoedd Cécile Trémolières.

Mae Violet yn gyd-gynhyrchiad gan Britten Pears Arts a Music Theatre Wales, wedi’i lwyfannu ar y cyd â’r London Sinfonietta. Caiff y perfformiad yn Llundain ei gyd-gynhyrchu a’i gyflwyno gan The Royal Opera ar y cyd â’r Hackney Empire.

Alice Birch: Mae ei gwaith ffilm yn cynnwys Mothering Sunday a Lady Macbeth, a enillodd wobr BIFA am y Sgript Orau i’r Sgrin yn 2017, ac a enwebwyd yn y categori ‘Outstanding Debut & Best British Feature BAFTA 2018’. Mae Alice hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer y teledu, yn cynnwys gweithio ar Normal People (BBC / Element Pictures) a addaswyd o’r nofel gan Sally Rooney. Mae Alice hefyd wedi gweithio ar eu haddasiad o Conversations With Friends gan Sally Rooney, sydd ar y gweill. Yn 2022 bydd modd gweld ei chyfres deledu newydd, Dead Ringers, gyda’r premier ar Amazon, ac Alice yn Awdur Arweiniol a Chynhyrchydd Gweithredol. Roedd Alice hefyd yn ystafell yr awduron fel Golygydd Stori ar gyfer Tymor 2 o Succession (HBO). Yn y theatr, mae Alice wedi ysgrifennu [BLANK] (Donmar Warehouse/Clean Break); Orlando (Schaubühne, Berlin); La Maladie de la Mort (Bouffes du Nord); Anatomy of a Suicide, Ophelia’s Zimmer, Revolt. She said. Revolt again (Royal Court Theatre); We Want You To Watch (National Theatre); The Lone Pine Club (Pentabus); Little Light (Orange Tree); Little on the inside (Almeida/Clean Break); Salt (Comedie de Valence); a Many Moons (Theatre503).

Tom Coult: Mae Tom yn cyfansoddi cerddoriaeth chwareus a deniadol a hyrwyddwyd ef gan lawer o brif gerddorfeydd ac ensemblau y DU gan arwain at gyfres o ddarnau graddfa-fawr a dderbyniodd gymeradwyaeth uchel, yn cynnwys Beautiful Caged Thing ar gyfer y soprano Claire Booth a’r Mahler Chamber Orchestra, Sonnet Machine ar gyfer Cerddorfa Philharmonig y BBC, a St John’s Dance (a berfformiwyd gyntaf gan Edward Gardner a Cerddorfa Symffoni’r BBC i agor Noson Gyntaf Cyngherddau’r Proms yn 2017). Yn 2021 cafodd ei ddyrchafu’n Gyfansoddwr Cyswllt gyda Cherddorfa Philharmonig y BBC, sydd wedi chwarae ei gerddoriaeth ar sawl achlysur – darn mawr cyntaf ei gyfnod preswyl oedd Pleasure Garden, concerto ar gyfer y fiolinydd Daniel Pioro, a ddarlledwyd hefyd ar BBC Radio 3.

Rhestrau

Tom Coult cerddoriaeth
Alice Birch libretto
Anna Dennis Violet
Richard Burkhard Felix
Frances Gregory Laura
Andrew Mackenzie-Wicks Ceidwad y Cloc

Jude Christian cyfarwyddwr
Rosie Elnile set cynllunydd set
Cécile Trémolières cynllunydd gwisgoedd
Jackie Shemesh cyllunydd goleuo
Adam Sinclair animeiddio
London Sinfonietta
Andrew Gourlay arweinydd

Tocynnau

Aldeburgh Festival
Neuadd Gyngerdd Snape Maltings, 3 a 5 Mehefin. Tocynnau o £10
Sherman Theatre
Caerdydd, 8 Mehefin (ar werth yn fuan)
Theatr Clwyd
Yr Wyddgrug, 19 Mehefin (ar werth yn fuan)
Hackney Empire
Llundain 23 Mehefin. Tocynnau o £10
Buxton International Festival
Buxton, 18 Gorffennaf (ar werth yn fuan)

Am ragor o wybodaeth am Britten Pears Arts, cysylltwch â:
Rebecca Driver | Ebost: rebecca@rdmr.co.uk | Ffôn: 07989 355446

Am ragor o wybodaeth am Music Theatre Wales, cysylltwch ag:
Elin Rees | Ebost: elinreescomms@gmail.com | Ffôn: 07917 308329

Am ragor o wybodaeth am y London Sinfonietta, cysylltwch â:
Tim McKeough | Ebost: mailto:tim@wildkatpr.com | 07547 349984

Am ragor o wybodaeth am y Royal Opera House, cysylltwch â:
Chloe Westwood | Ebost: mailto:chloe.westwood@roh.org.uk | Ffôn: 07717 311319

Nodiadau i Olygyddion

Am Britten Pears Arts

Elusen arloesol ym maes cerddoriaeth, y celfyddydau a threftadaeth yw Britten Pears Arts, wedi’i lleoli ar arfordir Suffolk mewn dwy ganolfan hanesyddol sy’n boblogaidd gan ymwelwyr: The Red House a Snape Maltings. Esblygodd Britten Pears Arts o’r bartneriaeth greadigol rhwng Benjamin Britten, un o brif gyfansoddwyr yr ugeinfed ganrif, a’r canwr Peter Pears, ei gymar proffesiynol a phersonol. Rhannai Britten a Pears weledigaeth flaengar fod cerddoriaeth a’r celfyddydau yn ddefnyddiol i helpu pobl i wella a llonni eu bywydau. Gweledigaeth Britten a Pears sy’n ysbrydoli ein holl weithgaredd, o’r gwaith gyda chymunedau lleol i’n rolau arweiniol cenedlaethol ym meysydd datblygu talent a cerddoriaeth, iechyd a llesiant. Crëwyd Britten Pears Arts drwy gyfuno Ymddiriedolaeth Britten–Pears a Snape Maltings yn 2020. www.brittenpearsarts.org

Am Music Theatre Wales

Mae Music Theatre Wales yn bodoli er mwyn anadlu bywyd newydd i mewn i opera a theatr gerddoriaeth fel dulliau cyfoes o fynegiant artistig. A ninnau wedi ein lleoli yng Nghymru, rydym yn newid y modd y caiff opera ei chreu a’i dirnad, trwy gysylltu â’r rhai sy’n ei chreu, estyn allan at gynulleidfaoedd newydd a mwy amrywiol, a chreu gwaith newydd sy’n ymateb i gymdeithas ac yn ei hadlewyrchu: rhoi llais newydd a pherchnogaeth newydd i opera; dathlu opera fel ffurf amlddisgyblaethol.

Am London Sinfonietta

Mae’r London Sinfonietta yn un o’r prif ensemblau cerddoriaeth gyfoes yn y byd. Wed’i ffurfio yn 1968, mae ein hymrwymiad i greu cerddoriaeth newydd wedi ein harwain i gomisiynu dros 450 o weithiau, a chyflwyno perfformiadau cyntaf cannoedd mwy. Ein hethos heddiw yw i arbrofi’n gyson gyda’r ffurf gelfyddydol, gan weithio gyda’r cyfansoddwyr a’r artistiaid gorau o wahanol genres a disgyblaethau. Rydym yn ymrwymo i herio canfyddiadau, gan annog posibiliadau newydd ac ymestyn dychymyg ein cynulleidfaoedd, yn aml yn gweithio’n agos gyda hwy fel crëwyr, perfformwyr a churadwyr y digwyddiadau rydym yn eu llwyfannu. Wedi’u lleoli yn y Southbank Centre, ac yn Gysylltai Artistig yn Kings Place, gydag amserlen deithio brysur, mae 18 Prif Chwaraewr craidd y London Sinfonietta ymhlith rhai o’r cerddorion gorau yn y byd. Yn ogystal â’n hymrwymiad i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd gyda pherfformiadau o gerddoriaeth newydd o safon byd eang, mae gan y sefydliad safle pwysig mewn gwaith addysgol. Credwn fod cyfranogi yn y celfyddydau yn trawsnewid bywydau unigolion a chymunedau, a bod cerddoriaeth newydd yn berthnasol i fywydau pob un ohonom. Caiff y gwerthoedd hyn eu gweithredu drwy gyngherddau mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled y DU, digwyddiadau teuluol rhyngweithiol, a’r digwyddiad blynyddol – y London Sinfonietta Academy – sy’n rhoi cyfle unigryw i berfformwyr ac arweinwyr ifanc hyfforddi gyda ni. Rydym hefyd wedi torri tir newydd trwy lansio Sianel ddigidol newydd, sy’n cynnwys rhaglenni fideo a phodlediadau am gerddoriaeth newydd. Ni hefyd sy’n gyfrifol am greu’r Clapping MusicApp Steve Reich ar gyfer iPhone, iPad ac iPod Touch – gêm rythmig gyfranogol yw hon a lawrlwythwyd dros 400,000 gwaith yn fyd-eang. Mae ein recordiadau diweddar yn cynnwys NMC Debut Disc Antiarkie gan Ryan Latimer (NMC; 2021), Images of Broken Light gan Josep Maria Guix (Neu Records; 2020), a Viaduct gan Marius Neset (ACT; 2019).

Am y Royal Opera

Mae’r Royal Opera, dan gyfarwyddyd artistig Antonio Pappano, y Cyfarwyddwr Cerdd, ac Oliver Mears, y Cyfarwyddwr Opera, yn un o’r prif gwmnïau opera yn y byd. Wedi’i leoli yn theatr eiconig Covent Garden, mae’n enwog am ei berfformiadau eithriadol o opera draddodiadol, ac am gomisiynu gweithiau newydd gan brif gyfansoddwyr opera ein cyfnod ni, megis George Benjamin, Harrison Birtwistle, Mark-Anthony Turnage a Thomas Adès.