Neges o groeso
Pleser o’r mwyaf yw cael y cyfle hwn i’ch croesawu chi i’r premier byd o berfformiad o VIOLET ar daith. Mae’r siwrne i gyrraedd y pwynt yma wedi bod yn un bur droellog, a hoffwn ddiolch yn ddiffuant i’r tîm creadigol sydd wedi dangos y fath wytnwch, penderfyniad a gweledigaeth i ddod â’r darn hwn yn fyw – ac, wrth gwrs, i Tom Coult ac Alice Birch am eu hamynedd rhyfeddol wrth i’w creadigaeth gael ei hatal am ddwy flynedd hir, yn ogystal ag am eu gwaith anhygoel!
Mae gweithio mewn partneriaeth gyda Britten Pears Arts am y tro cyntaf wedi sicrhau lansiad llwyddiannus ac esmwyth i’r opera newydd hon, ac mae ei chael i agor Gŵyl Aldeburgh yn fraint o’r mwyaf ac yn gwireddu breuddwyd hirhoedlog i MTW, wrth ddilyn ôl troed cynifer o berfformiadau premiere operâu newydd. Rwyf hefyd yn awyddus i ddathlu ein cysylltiad â’r London Sinfonietta, sy’n ymestyn eu rôl hanfodol fel ensemble cerdd penigamp ac fel partneriaid cynhyrchu.
Creu gwaith o’r ansawdd hwn, a sicrhau ei fod yn cyrraedd cynulleidfaoedd yng Nghymru a Lloegr sy’n llawn cyffro wrth edrych ymlaen at weld opera newydd, yw’r hyn sy’n ein gyrru ni. Ein her yw sicrhau bod opera newydd yn parhau i fod yn rhan o’n tirlun diwylliannol, a’r ffordd orau o wneud hyn yw trwy greu gwaith sy’n perthyn i heddiw. Credaf fod VIOLET yn cyflawni’r nod hwn, a gobeithiaf y byddwch chi’n cytuno â mi ei fod yn waith gwirioneddol werth aros amdano.
Michael McCarthy MBE
Cyd-gynhyrchiad ar gyfer Gŵyl Aldeburgh gan Music Theatre Wales a Britten Pears Arts. Llwyfennir y cynhyrchiad ar y cyd â’r London Sinfonietta.
Comisiynwyd gan Music Theatre Wales a Britten Pears Arts mewn cydweithrediad â Theatre Ulm.
Noder, os gwelwch yn dda, fod y cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref.
TÎM CREADIGOL
Llun gan Marc Brenner
CRYNODEB
Mae Violet wedi bod yn isel ei hysbryd cyhyd ag y gall hi gofio. Mae’n byw yn y tŷ mwyaf yn y pentref gyda’i gŵr, Felix, a’u morwyn, Laura. Yng nghanol y pentref mae tŵr y cloc.
Mae’r goleuadau’n cael eu cynnau am chwech y bore, mae’r bara’n codi yn y poptai am saith, a’r drysau ffrynt yn agor am wyth. Mae’r dynion yn gweithio yn y caeau a’r swyddfeydd, a’r menywod yn coginio a gwnïo, yn glanhau ac yn magu eu plant. Mae rhosod yn tyfu yn y gerddi o flaen y tai, yr ieir a’r cathod yn crwydro o gwmpas y pentref, a phopeth yn rhedeg yn esmwyth.
Neu, o leiaf, dyna sut roedd pethau’n arfer bod.
Pan fo amser yn dechrau diflannu – ac ar y dechrau, does neb ond Violet yn sylwi – mae’n ymddangos nad yw eu byd wedi bod yr hyn roedden nhw’n disgwyl iddo fod, a hynny ers peth amser. Ac yna, pan fo’r byd fel petai’n dod i ben, mae iselder ysbryd Violet yn edwino ac yn sydyn mae dyhead cryf ac enbyd i fyw yn cymryd ei le.
Mae mecanwaith amser yn mynd ar goll yn cael ei adlewyrchu yn y dull o adrodd y stori – mae pob golygfa’n digwydd ar ddiwrnod gwahanol, wrth i fwy a mwy o amser ddechrau diflannu. Diwrnod Un – pan nad oes neb ond Violet yn sylwi ar y newid, ac yna Diwrnod Tri pan fo tair awr yn mynd ar goll, Diwrnod Pump pan fo pum awr wedi mynd, ac yn y blaen, hyd nes bod y golau i gyd wedi’i golli a gobaith yn diflannu.
Llun gan Marc Brenner
NODYN GAN Y CYFANSODDWR
Mae pobl fel petaen nhw’n hoffi cynsail canolog Violet, sef bod oriau’n diflannu fesul un nes bod dim rhagor ar ôl. Mae yna eglurder i’r syniad, ond llawer o gymhlethdod. Credaf, yn achos pob un ohonom sy’n teimlo dan bwysau parhaus yn y cyfnod cyfalalafol hwn, fod y syniad o gael llai o oriau i gwblhau ein diwrnod yn achosi arswyd o fath arbennig.
Mae proses strwythuro wedi’i hadeiladu i mewn i’r opera: adroddir y stori dros gyfnod o 24 diwrnod, ond mae’r rheiny’n mynd yn fyrrach ac yn fyrrach – mae Diwrnod 1 yn 23 awr o hyd, Diwrnod 2 yn 22 awr o hyd, ac yn y blaen. Dyw Diwrnod 24 ddim yn bodoli. Rwy’n hoffi’r modd mae ‘rheolau’r gêm’ yn cael eu diffinio mor bendant.
Mae yna rai straeon ‘amser-yn-mynd-o-chwith’ gwych y bûm yn meddwl amdanynt yn aml wrth ysgrifennu hyn o eiriau – Groundhog Day, Eternal Sunshine of the Spotless Mind, Russian Doll. Mae problem sy’n gyffredin i bob un o’r enghreifftiau gwych hyn, sef bod ‘rheolau’r gêm’ mor gymhellaidd nes bod yna deimlad o siom pan gânt eu goresgyn – pan fo’r broblem yn cario’r fath bwysau, ni all unrhyw ateb fod yn ddigonol.
Mae ein stori ni’n ceisio osgoi’r her hon trwy beidio â chynnig ateb. Ni fyddwn yn datgelu’r stori wrth ddweud hyn – yn Violet, does dim modd atal y broses o golli amser, ac ni chaiff ei hatal chwaith. Nid yw’r cymeriadau mewn ‘ras yn erbyn amser’ wrth geisio ateb y broblem hon. Mae Violet yn llawer tebycach mewn sawl ffordd i Melancholia gan Lars von Trier – os yw diwedd amser yn dod, a chithau â dim ond ychydig oriau ar ôl, sut byddech chi’n eu treulio? Yn bytheirio ar y byd? Yn gwylltio gyda’r rhai sy’n llywodraethu? Yn gwneud a dweud pethau nad oeddech erioed wedi mentro eu dweud cyn hyn? Neu’n mynd i lawr yn ddwys gyda’r llong?
Roedd gweithio gydag Alice Birch yn bleser pur. Pan gwrddon ni gyntaf yn 2014, a hithau’n anfon peth o’i gwaith ataf, meddyliais ar unwaith ei bod yn awdur rhyfeddol. Roedd hi hefyd, yn ddiarwybod iddi hi, wedi datblygu arddull oedd fel petai’n union yr hyn y byddwn i’n chwilio amdano mewn cydweithiwr operatig: ffordd gryno a hynod economaidd o drin geiriau, ynghyd â thuedd i gyflwyno delweddaeth ymestynnol a disglair; agwedd unigryw tuag at ffurf a chanddi nid yn unig synnwyr o’r rhyddid mwyaf anrhagweladwy, mympwyol, ond hefyd y manwl gywirdeb tynnaf, mwyaf disgybledig; ac yn olaf, y fath synnwyr o’r natur ddynol, hyd yn oed yn y tywyllwch mwyaf ingol sy’n gallu nodweddu ei gwaith.
Ein man cychwyn oedd rhestr eitha bras ro’n i wedi’i baratoi o’r obsesiynau/diddordebau/pethau sy’n fy nghyffroi i’n artistig – mapiau, cylchoedd, peiriannau, hud a lledrith – i weld a allai unrhyw un ohonyn nhw fod yn gynhyrchiol. Cydiodd Alice yn y syniad o glociau a gwneud clociau, a buom yn trafod nifer o ffyrdd y gallai amser gamweithio. Buom yn ystyried syniad y drydedd awr ar ddeg – beth fyddai’n digwydd bryd hynny? Beth allai ddigwydd yn hon, ‘awr y wrach’, na allai ddigwydd yn y lleill? Doedd dim byd fel petai’n ffitio, rhywsut. Roedd yna foment, tra’n gweithio ar y naratif yn fflat Alice, pan feddylion ni’n sydyn am y syniad o ‘wrthdroi’r pegynedd’ a thrwy hynny roedd yr holl broses wedi agor i fyny – beth petai yna ddim ‘awr ychwanegol’, neu ‘awr y wrach’, ond yn hytrach bod llai a llai o oriau yn y dydd?
Rwy’n gwenieithu wrth ddweud bod y cysyniad yn un cryf. Ond ro’n i wrth fy modd gyda’r ffordd y llwyddodd Alice i’w hydreiddio â mwy fyth o gymhlethdod a dynoliaeth. Mae Violet ei hun yn gyfareddol – os yw’r status quo yn anhyblyg a phatriarchaidd, mae’r rhai sy’n ddarostyngedig yn dyheu am rywbeth gwahanol, hyd yn oed os yw’r peth hwnnw’n frawychus ac anrhagweladwy. Pan ddarllenais, am y tro cyntaf, yr adran honno lle mae cymeriadau yn yr opera’n hwylio i ffwrdd ar rafft fregus – gan wybod na fyddent, mae’n debyg, yn goroesi’r daith ond er hynny’n glynu’n dynn wrth ryw fath o obaith o fyd gwell yn rhywle – teimlwn fod hyn, a’i gyfochredd gwleidyddol amlwg, yn deimladwy iawn.
Fe wnes i fwynhau cyfansoddi’r gerddoriaeth ar gyfer Violet. Dydw i ddim yn dweud hynny’n aml – er fy mod yn aml yn teimlo’n falch o’r canlyniad, mae’r broses o sgrifennu’r nodau eu hunain fel arfer yn teimlo fel triniaeth ddeintyddol boenus dros gyfnod o fisoedd. Roedd hyn yn wahanol – i ddechrau, roedd geiriau Alice yn golygu bod yna ddeunydd i mi weithio gydag e a chael fy ysbrydoli ganddo. Mae strwythurau wedi eu hadeiladu i mewn i’r golygfeydd, mae gan y cymeriadau gymhelliad, mae yna resymau dros ddewis un nodyn yn hytrach nag un arall.
Mae’r ensemble yn cynnwys 13 o offerynwyr, ac fe’i cynlluniwyd yn y fath fodd ag i gynnwys ystod eang iawn o liwiau posibl. I ychwanegu ymhellach at yr ystod hwn, gofynnais am ychwanegiadau go anghyffredin: mae nifer o’r offerynwyr yn chwarae ‘pitch pipes’ (pibau bach metel a ddefnyddir i diwnio offerynnau neu gorau) neu ‘dog clickers’ (botymau plastig a ddefnyddir i hyfforddi cŵn); mae yna ddau fetronôm, un kalimba neu biano bawd, rhannau i’r delyn, y marimba a ffidlau, ac yn olaf mae dau yn yr adran linynnol a chanddynt offeryn wedi’i diwnio i lawr o hanner-tôn neu dôn gyfan. Rhywbeth newydd i mi oedd ychwanegu pytiau o synau cloch – wedi eu recordio a’u trin yn electronaidd – y bûm yn cydweithio arnynt gyda Jasmin Kent Rodgman.
Mae’r gerddoriaeth, hefyd, yn amrywiol iawn gyda rhai rhannau’n hynod anghytseiniol, ac eraill yn lled-donyddol. Mae yna gerddoriaeth a ysbrydolwyd gan gagaku Siapaneaidd, gan jazz lolfa, gan Stabat Mater Pergolesi. Does dim motifau’n gysylltiedig â’r cymeriadau, ond mae yna gerddoriaeth sy’n dychwelyd, a honno’n aml wedi cael ei newid. Un enghraifft nodedig yw’r gerddoriaeth ar gyfer Diwrnod 7, lle ceir sgwrs agos-atoch rhwng Violet a Laura. Caiff y gerddoriaeth hon ei hailadrodd yn eu golygfa olaf gyda’i gilydd, sef Diwrnod 20, ond y tro hwn ar hanner cyflymder y gwreiddiol – fel Blu Tack yn cael ei ymestyn, mae’r gerddoriaeth yn mynd yn deneuach, yn fwy gwasgaredig, yn llawn tyllau a diffygion. Mewn gwirionedd, mae hyn yn tueddu i ddisgrifio llawer o’r gerddoriaeth ar gyfer y golygfeydd olaf – wrth i synnwyr y pentref o amser gael ei ystumio, a gobaith yn diffodd, rwyf wedi ceisio gwneud y gerddoriaeth ei hun yn fwy sych, treuliedig, ceulaidd. Mae yna fwy o gyfnodau tawel, ac mae’r tiwnio a’r offeryniaeth yn dechrau toddi yn y gwres. Mae cerddoriaeth rhan olaf yr opera’n cynnwys peth o’r gerddoriaeth ryfeddaf i mi ei chyfansoddi erioed, ac am y rheswm hwnnw rwy’n falch iawn ohoni.
Mae’r broses o lwyfannu opera newydd yn ddrwg-enwog am fod yn broblemus, yn agored i bob math o droeon trwstan a sefyllfaoedd annisgwyl. Llwyddais i osgoi un o’r rhai mwyaf cyffredin, fodd bynnag, gan fy mod – yn hydref 2019 – wedi cyflwyno’r sgôr orffenedig yn ddigon pell o flaen llaw ar gyfer y premiere ym mis Mehefin 2020, fel bod y cantorion, yr arweinydd a’r cyfarwyddwr yn cael digonedd o amser i baratoi. Roedd y cyfan yn mynd yn llyfn iawn. Ar ôl cael un broblem gyda’r personél, anfonais neges destun at gydweithiwr o gyfansoddwr gan ddweud fy mod yn gobeithio’n fawr y byddai’r misoedd nesaf yn rhai ‘normal-opera-stressful’ yn hytrach nag yn ‘crisis-stressful’.
Anfonwyd y neges destun honno ym mis Chwefror 2020, a bellach mae’r amseru’n ymddangos yn llawn hiwmor du. Wrth gwrs, diflannodd pob un o’n perfformiadau yn sgil y pandemig COVID, a bu raid newid y cynlluniau’n sylweddol. Cafodd rhai cynlluniau eu trafod ac yna eu rhoi o’r neilltu (‘A ellid ei pherfformio yn yr awyr agored? A ellid cael fersiwn fideo? A ellid trefnu bod y cantorion a’r offerynwyr yn ymbellhau?’), ond yn y diwedd penderfynwyd mai canlyniad y rhain fyddai mowldio Violet i siâp nad oedd yn ei siwtio. Er iddi gael ei chreu mewn byd cyn-COVID, roedd sawl un o’i themâu yn teimlo’n newydd o berthnasol.
Rydw i wrth fy modd bod Violet, o’r diwedd, yn mynd i wneud ei hymddangosiad cyntaf, ac rwy’n hynod ddiolchgar i bawb fu’n rhan o’r cynhyrchiad, yn cynnwys sawl un nad oes ganddynt bellach gysylltiad â’r gwaith.
Llun gan Marc Brenner
HOLI AC ATEB GYDA TOM COULT
Gair gan y Cyfarwyddwr
Do’n i ddim yn bresennol ar enedigaeth Violet. Fe ddois i at yr opera ychydig amser cyn y premiere y bwriadwyd ei gynnal yng ngwanwyn 2020 – a dyma ni, ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn barod i’w llwyfannu hi o’r diwedd. Pan gwrddodd Rosie Elnile (cynllunydd), Cécile Trémolières (cynllunydd gwisgoedd) a minnau â’r darn am y tro cyntaf, roedd yn eitha tebyg i’r fenyw a welir gan y gynulleidfa yn ystod munudau agoriadol yr opera: mae Violet (a Violet) yn ffigur unig wedi’i gwneud allan o amlbenillion cywasgedig.
Mae byd Violet yn bwrpasol yn osgoi lleoliad daearyddol neu hanesyddol penodol, er nad yw hynny mewn ymdrech i gyflawni ‘cyffredinoledd’ drwy ddiffyg amser/lleoliad, na’r defnydd o gamamseriad i wneud i’r gorffennol siarad â heddiw. Yn hytrach, mae’r pethau sy’n ymddangos ar y llwyfan yn cronni mewn llun manwl o’r grymoedd allanol sy’n gweithredu ar fenyw sydd – a hithau wedi’i hoelio rhyngddynt i gyd – wedi symud drwy ei holl fodolaeth heb allu ei amgyffred fel bywyd, yn yr ystyr sydd, fe ymddengys, yn cael ei fwynhau (a’i fynnu) gan bawb arall o’i chwmpas. Dywed Violet wrth ei gŵr, Felix, ‘For as long as I have lived, I have never held anything like hope or aspiration or joy for the potential of what my life could be.’ Ni chaiff y gair ‘iselder’ ei ynganu’n uchel yn y darn, er y cyfeirir ato gan bresenoldeb meddyginiaethau a chyfeiriadau at hunan-niweidio. Ond nid yw’r stori a gyflwynir i ni yn un am unigolyn yn brwydro i ddianc rhag anghyfiawnderau un lleoliad arbennig – yn hytrach, mae’n stori am berson y mae bodolaeth ei hun yn methu’n drychinebus i gynnig unrhyw ystyr eglur o gwbl, y mae ymwybyddiaeth yn ffolineb creulon a gyflwynir drwy gasgliad o wrthrychau a gweithredoedd, ac y daw rhyddid o’r diwedd yn unig drwy dranc cosmig, llwyr, pob un peth diriaethol ar y ddaear.
Roedd ein proses o gynllunio, felly, yn ffocysu ar benodolrwydd delweddau gweledol, a’r gwirioneddau a ddatgelwyd gan eu gwrthddywediadau a’u cyfosodiadau. Gwrthrychau pren a naddwyd â llaw, crefftwaith a drwythwyd mewn cariad, ac a drosglwyddwyd drwy’r degawdau a’r canrifoedd i’r cenedlaethau iau sy’n teimlo dyletswydd i’w cadw, ac yn eistedd am byth yn eu cysgodion. Gwrthryfel ‘fuck you’ y gwisgo gwamal, hyper-fenywaidd. Y cyfoeth o gael MacBook – a morwyn. Aestheteg llym Protestaniaeth Gwyn Gorllewin Ewrop. Y plastigau sy’n dinistrio natur a grëwyd gennym ni i’n helpu i ffermio ein bwyd, a’r modd yr ydym, mewn cyfnod o drychineb, yn ailddefnyddio’r sbwriel a gynhyrchwyd gennym i geisio adeiladu lloches i ni’n hunain rhag y gwyntoedd a’r moroedd. Esblygiad dillad i wrywod o arfwisg fetel i’r siwt fodern. Gweithred ddomestig lladd-neu-cael-eich-lladd o erthylu eich baban eich hun. Cerdded drwy’r mwd i glywed adar yn canu. Pobi bara. Y pethau hyn oll yw byd Violet. Mae llymder ei chymeriad yn deillio o’r ffaith ei bod yn gweld y cyfan am yr hyn ydyw – dim mwy na gweddau ac eiliadau byr mewn gwacter. Ac mae ei dynoliaeth ryfeddol yn amlwg yn y modd mae hi’n eu gwylio’n cwympo i ffwrdd ac, wrth wneud hynny, yn estyn llaw i’w chyd-oroeswyr wrth iddynt syllu mewn arswyd pur ar ddiflaniad byd roedden nhw’n credu oedd yn gadarn, yn rhesymegol, yn gyflawn.
Yng ngolygfeydd olaf yr opera, mae Violet yn llithro o’r golwg wrth i Alice a Tom ein tywys drwy ddiwedd un byd ac i mewn i un arall. Buom yn dyst i drychineb drwy lygaid un cymeriad ond, wrth i Violet hwylio i mewn i ddyfodol anhysbys, mae Violet yn estyn gwahoddiad i rywun newydd gymryd y llawr. Beth yw’r delweddau, y geiriau, y digwyddiadau, y dyfeisiau, sy’n rhan o realiti pob unigolyn? Ac yna, wrth i chi gydnabod o’r diwedd bod y cyfan yn mynd i ddod i ben yn gynt na’r disgwyl, beth wnewch chi?
Llun gan Marc Brenner
HOLI AC ATEB GYDA JUDE CHRISTIAN
LLUNIAU O’R YMARFERION
FIDEOS O’R TU ÔL I’R LLENNI
Llun gan Marc Brenner
ADOLYGIADAU
Ynghylch Music Theatre Wales
Mae Music Theatre Wales yn bodoli er mwyn anadlu bywyd newydd i mewn i opera a theatr gerddoriaeth fel dulliau cyfoes o fynegiant artistig.
A ninnau wedi ein lleoli yng Nghymru, rydym yn newid y modd y caiff opera ei chreu a’i dirnad, trwy gysylltu â’r rhai sy’n ei chreu, estyn allan at gynulleidfaoedd newydd a mwy amrywiol, a thrwy greu gwaith newydd sy’n ymateb i’r gymdeithas ac yn ei hadlewyrchu: rhoi llais newydd a pherchnogaeth newydd i opera; dathlu opera fel ffurf amlddisgyblaethol.
Ynghylch Britten Pears Arts
Elusen ddiwylliannol arloesol wed’i lleoli yn swydd Suffolk yw Britten Pears Arts. Daeth i fodolaeth drwy benderfyniad y cyfansoddwr Benjamin Britten a’i bartner, y canwr Peter Pears, i sicrhau y gallai pawb brofi a mwynhau cerddoriaeth. Nod Britten Pears Arts yw parhau eu hetifeddiaeth i ddatblygu talent, dathlu eu treftadaeth ac ymgysylltu â chymunedau. Rydym yn defnyddio cerddoriaeth i drawsnewid bywydau pobl, i ddod â chymunedau at ei gilydd, ac i gyfoethogi bywyd bob dydd. Rydym am i’r celfyddydau achosi newid cadarnhaol mewn, ac ar gyfer, cymdeithas; neu, fel y byddai Britten ei hun wedi’i ddweud, gwneud y celfyddydau’n “ddefnyddiol”.
Ynghylch y London Sinfonietta
Mae’r London Sinfonietta yn un o’r prif ensemblau cerddoriaeth gyfoes yn y byd. Wedi ei ffurfio yn 1968, mae ein hymrwymiad i greu cerddoriaeth newydd wedi arwain at gomisiynu dros 450 o weithiau a chyflwyno perfformiadau cyntaf cannoedd lawer yn rhagor.
Ein ethos heddiw yw arbrofi’n barhaus gyda’r ffurf gelf, gan weithio gyda’r cyfansoddwyr a’r perfformwyr gorau a chydweithio gydag artistiaid o wahanol feysydd a disgyblaethau. Rydym yn ymrwymo i herio canfyddiadau, sbarduno posibiliadau, ac ymestyn dychymyg ein cynulleidfaoedd, gan weithio’n agos gyda hwy’n aml fel crewyr, perfformwyr a churaduron y digwyddiadau rydym yn eu llwyfannu.
Ynghylch y Royal Opera
Mae’r Royal Opera, dan gyfarwyddyd artistig Antonio Pappano, y Cyfarwyddwr Cerdd, ac Oliver Mears, y Cyfarwyddwr Opera, yn un o’r prif gwmnïau opera yn y byd. Wedi ei leoli yn theatr eiconig Covent Garden, mae’r cwmni’n enwog am ei berfformiadau eithriadol o opera draddodiadol, ynghyd â’i lwyddiant yn comisiynu gweithiau newydd gan brif gyfansoddwyr opera ein dyddiau ni.
Gyda diolch
Daeth Violet i fodolaeth yn Snape Maltings yn 2016 ar Gymrodoriaeth Ysgrifennu Opera Jerwood.
Hoffem ddiolch i Faye Jennett, English Touring Opera, Opera Holland Park, a Katie Newton o gwmni Drowsy Bee Flowers.
Llun gan Marc Brenner
DYDDIADAU AR DAITH
-
Aldeburgh Festival, Aldeburgh
Mehefin 3rd & 5th 2022
-
Theatr Sherman, Caerdydd
Mehefin 8th 2022
-
Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
Mehefin 19th 2022
-
Hackney Theatre, Llundain
Mehefin 23rd 2022
-
Buxton International Festival, Buxton
Gorffennaf 18th 2022
Caiff y perfformiad yn Llundain ei gyd-gynhyrchu a’i gyflwyno gan The Royal Opera ar y cyd â’r Hackney Empire