Mae Future Directions – prosiect Music Theatre Wales – wedi derbyn arian o Gronfa Atsain Anthem

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Music Theatre Wales wedi derbyn cyllid Atsain o Anthem, Gronfa Gerdd Cymru, yn 2023 i gefnogi ein prosiect Future Directions – sy’n gwahodd pobl ifanc i greu eu hopera ddigidol eu hunain gyda chymorth gan artistiaid proffesiynol i ddatblygu eu sgiliau creadigol a chydweithredol.

Banner image

Yn ystod y Peilot yn 2022, fe welsom fod yna awydd cryf a chyffro mawr ynghylch y prosiect hwn, yn enwedig ymhlith grŵp mor gynhwysol o bobl ifanc nad oeddynt erioed o’r blaen wedi bod yn rhan o greu opera, gan ddefnyddio cerddoriaeth a stori, ynghyd â digwyddiadau a ffilm, i archwilio syniadau roeddynt yn awyddus i’w rhannu.

“Wrth ddod at ein gilydd dros un peth a gwneud iddo ddigwydd, fe ddysgais i lawer iawn o sgiliau, er enghraifft actio, cerddoriaeth, golygu ac ati, a gwneud llawer o ffrindiau.”

Aelod o Gwmni Pobl Ifanc MTW

Yn 2022, dros ddau gyfnod preswyl o 3 diwrnod yr un – ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Ebrill a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ym mis Awst – yn cael eu cysylltu gan gyfres o sesiynau creadigol ar Zoom a rhannu syniadau ar Slack, aeth y bobl ifanc ati i greu eu hopera ddigidol: dyfeisio’r stori, cyfansoddi a pherfformio’r gerddoriaeth, ysgrifennu’r testun a chreu’r ffilm ar y cyd, yn cynnwys cymryd rhan yn y goleuo a’r golygu. Roedd ganddynt stori roedd pawb yn awyddus i’w dweud – ynghylch pa mor rhwydd yw hi i beidio â sylwi ar y byd o’n cwmpas a cholli’r cyfle i weld sut y gallwn ni i gyd wneud gwahaniaeth. Ac yma yn MTW, rydyn ni wedi gwneud addewid: i gael ein hysbrydoli a’n dylanwadu gan eu gwaith a chanddynt hwy fel unigolion creadigol, i’n helpu i ailddychmygu beth yw opera. Caiff y ffilm ei rhyddhau’n fuan iawn fel rhan o waith creadigol MTW, felly gwyliwch y gofod!

Yn 2023, gyda chyllid gan Atsain, byddwn yn gweithio gyda grŵp newydd o bobl ifanc a thîm newydd o artistiaid hwyluso i greu ein Opera Ddigidol Cwmni Ifanc nesaf; gobeithiwn hefyd barhau i ddatblygu perthynas gyda’n criw 2022 sydd wedi derbyn gwahoddiad i fod yn rhan o banel ymgynghorol MTW ar gyfer Future Directions.

“Bu’n brofiad llawn ysbrydoliaeth i weld ein Cwmni Ifanc cyntaf yn dod at ei gilydd a chreu rhywbeth cwbl arbennig a gwreiddiol, a chanddo neges bwysig i bawb ohonom. Mae ailddarganfod opera fel modd o adrodd stori mewn cerddoriaeth sy’n gallu siarad gydag unrhyw un yn wir wedi bod yn bleser pur! Alla i ddim aros i Gwmni 2023 ddechrau.”

Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Artistig

“Teimlo’n rhan o deulu, creu cyfeillgarwch cryf gyda phobl nad o’n i erioed wedi cwrdd â nhw o’r blaen, a chael cyfle i brofi rhywbeth cwbl wahanol a rhyfeddol.”

Aelod o Gwmni Pobl Ifanc MTW

“Fe wnes i fwynhau popeth!! Mae FD wedi rhoi cyfle i mi ddarganfod fy ngherddoriaeth.”

Aelod o Gwmni Pobl Ifanc MTW

Ymunwch â’n rhestr bostio i dderbyn rhagor o wybodaeth!