Newyddion am ein Cynyrchiadau

Mae ein prosiect Future Directions cyntaf wedi gorffen gyda chwblhau’r ail gyfnod preswyl yng Nghaerdydd. Mae’r bobl ifanc fu’n rhan o’r prosiect wedi creu darn craff, dychmygus o’r enw ‘The Things That Go Unnoticed’, ac edrychwn ymlaen at ei rannu gyda chi. Cadwch lygad allan am ddyddiad rhyddhau’r opera ddigidol maent wedi bod yn ei chreu.

Rydyn ni ar hyn o bryd yn datblygu gweithiau digidol newydd fel rhan o’n rhaglen New Directions, gyda chynlluniau i’w rhyddhau yng ngwanwyn 2023. Bydd rhagor o fanylion am yr artistiaid sy’n cymryd rhan ar gael yn fuan.

Yng ngwanwyn 2023, mewn partneriaeth gyda Fio, bydd ‘The Jollof House Party Opera’ yn symud o’r sgrin i berfformiad byw. Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd Fio ac MTW yn cynnal Gweithdy Datblygu gyda’r gantores Gweneth Ann Rand a cherddorion yn gweithio gyda Tumi Williams a Sita Thomas, gyda chymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r darn byr digidol gwreiddiol yn parhau i fod ar gael yma – ein hopera hip-hop gyntaf!

Ac yn haf 2023, byddwn yn dangos ein Street Art Operas cyntaf. Caiff y 3 darn byr eu dangos mewn partneriaeth gydag Opera Genedlaethol Iwerddon a Dumbworld. Mae ‘The Scorched Earth Trilogy’ yn cymryd yr argyfwng amgylcheddol, a’r diffyg gweithredu o ddifrif ar yr hinsawdd, fel ysbrydoliaeth ar gyfer y tri darn yma o waith sy’n chwilio am atebion, yn herio ein hunanfodlonrwydd, ac yn ysgogi ymatebion sy’n ddifyr ac eto’n anghyfforddus.