Rhannu Digidol Opera Philadelphia

Yn dilyn llwyddiant y gwaith a wnaed yn 2019 i gyd-gomisiynu a chyd-gynhyrchu Denis & Katya gan Philip Venables a Ted Huffman, mae’r ddau gwmni’n rhannu darnau newydd digidol a grëwyd gan artistiaid Du, Asiaidd, a rhai o’r mwyafrif byd-eang. Mae rhaglenni digidol Music Theatre Wales ac Opera Philadelphia, a gomisiynwyd yn gyfochrog, yn gyrru ein genre ymlaen, gan nodi artistiaid eithriadol a chyflwyno gwaith newydd, arloesol sy’n dathlu’r byd aml-ddiwylliannol rydym i gyd yn byw ynddo.

THEY STILL WANT TO KILL US

Gan Daniel Bernard Roumain

Aria heb ei sensro a berfformir ac a gyfansoddwyd gan Daniel Bernard Roumain. Cymerir rhan hefyd gan y mezzo-soprano J’Nai Bridges, a’r cyfarwyddwr yw’r artist aml-gyfrwng Yoram Savion. Mae’r darn hwn yn coffáu canmlwyddiant Cyflafan Hil Tulsa 1921, a chafodd ei greu’n wreiddiol i nodi blwyddyn ers llofruddio George Floyd.

Traler



SAVE THE BOYS

Gan Tyshawn Sorey

Darn wedi ei ysbrydoli gan “Save the Boys,” cerdd a gyfansoddwyd yn 1887 gan Frances Ellen Watkins Harper – diddymydd, awdur ac un oedd yn gweithredu dros hawliau menywod Du; perfformir y darn gan yr uwchdenor rhagorol John Holiday a’r pianydd Grant Loehnig.  

Traler



CYCLES OF MY BEING

Cylch o ganeuon sy’n ffocysu ar yr hyn mae’n ei olygu i fod yn ddyn Du yn byw yn America heddiw; cyfansoddwyd gan Tyshawn Sorey gyda’r geiriau gan MacArthur Fellow Terrance Hayes, a chenir y darn gan y tenor adnabyddus Lawrence Brownless.

Traler



I weld darnau Opera Philadelphia, cliciwch ar y dolenni isod:

Mae mynediad at They Still Want to Kill Us yn rhad ac am ddim – cliciwch YMA

Gallwch wylio gweithiau Tyshawn Sorey, Save the Boys a Cycles of My Being, am ddisgownt arbennig, sef hanner pris o $15 ar gyfer cynulleidfaoedd MTW – cliciwch YMA