Ffarwelio â Carole Strachan

Gyda thristwch mawr, ynghyd â gwerthfawrogiad ac edmygedd diderfyn, rydym yn ffarwelio â’n Prif Weithredwr, Carole Strachan. Ni allwn adael i’r foment hon fynd heibio heb ei nodi, a thra byddwn yn aros am adeg briodol pan fydd modd i ni ddathlu ei chyfraniad anhygoel i MTW yn bersonol, hoffwn gydnabod popeth mae hi wedi’i gyflawni, a chyhoeddi i’r byd a’r betws cymaint yw fy niolch i, a diolch Bwrdd MTW, iddi.

Er fy mod yn ymwybodol ohoni ers fy nyddiau cynnar yng Nghaerdydd ar ddechrau’r 80au, pan oedd Carole yn Bennaeth Marchnata gydag Opera Cenedlaethol Cymru, ac er gwaetha’r ffaith ei bod hi’n bresennol yng nghynhyrchiad cyntaf un y cwmni yn 1988 yn Sain Dunwyd, ni chawsom gyfle i ddod i adnabod Carole tan 2006, pan ofynnwyd iddi adolygu’r maes hwn o’n gwaith. Ymgymerodd â’r dasg gyda’r hyn y daethom i’w adnabod fel ei hegni, ei mewnwelediad a’i hymrwymiad arferol – a doedd dim troi’n ôl i fod.

Yn gyntaf oll, roedd Carole “yn ei deall hi”. Roedd hi’n hoffi ein hagwedd uchelgeisiol, a thra ei bod yn cydnabod yr hyn roeddem wedi’i gyflawni gallai hefyd weld bod cymaint mwy yn bosibl. Yn fwy na dim, roedd hi’n hoffi pwy oedden ni a’n dull ni o weithio. Felly, pan benderfynodd Rachel Dominy yn 2008 ei bod yn bryd iddi symud ymlaen, cymerodd Carole y cam beiddgar i roi’r gorau i weithio fel ymgynghorydd annibynnol, a chymryd yr awenau yn MTW. A byth ers hynny, mae’r daith wedi bod yn un gwbl anhygoel!

Roedd Carole yn gyfrifol am weddnewid MTW yn llwyr. Uchelgais oedd yr allwedd i’n llwyddiant o’r dechrau, ond mae hynny hefyd yn mynnu ymrwymiad llwyr gan y rhai sy’n gweithio i’r cwmni. Derbyniodd Carole hyn yn ddigwestiwn, gan yrru’r cwmni hyd yn oed yn galetach. Ond yr un elfen barhaus oedd fod popeth a wnâi er lles y gwaith roeddem yn ei greu, a’i chariad tuag at y gwaith hwnnw, o Punch and Judy i In the Penal Colony, ac o The Killing Flower i Stori’r Milwr/The Soldier’s Tale ac o Passion i Denis & Katya. Roedd ei chysylltiad â’r gwaith yn dod o’r galon, gan greu ysbryd o bositifrwydd drwy’r cwmni cyfan. Roedd hi’n meddwl y byd o bawb – y cyfansoddwyr, awduron, cantorion, cerddorion, rheolwyr llwyfan a staff technegol – oedd yn gweithio mor galed ar ran MTW. Byddai’n mynychu pob perfformiad, gan fyw i’r funud ac ymhyfrydu yn y cyffro o weld llwyfannu’r gwaith roedd hi wedi cyfrannu cymaint at ei greu. Rhannai ei llawenydd heintus â chyllidwyr, partneriaid, cyflwynwyr a chynulleidfaoedd – a does dim amheuaeth gen i fod hyn wedi dod â llawer o bobl yn nes at yr achos! Ac roedd hi’n wirioneddol hoff o’r bobl oedd yn rhannu’r swyddfa â hi. Roedd yn hynod gefnogol o bawb, gan eu galluogi i wneud eu gorau dros MTW yn ogystal â throstynt hwy eu hunain, a chynnig arweiniad clir, cyngor ysbrydoledig, canllawiau cadarn a chyfeillgarwch di-ben-draw. Gwn yn iawn y byddant i gyd yn parhau i gael budd o anwyldeb a chonsýrn Carole.

Doedd popeth ddim yn fêl i gyd bob amser, wrth gwrs, ond llwyddwyd i lywio’n ffordd drwy bob storm gyda thrylwyredd a phenderfyniad i wella pethau a dysgu o’r profiad. Yn ddiau, mae Carole wedi fy ngalluogi i ddatblygu. Mae hi wedi annog, perswadio, cefnogi a golygu â llaw gadarn ond sensitif. Bu’n gydweithreg a ffrind ddiguro, bob amser yn barod i ystyried a meddwl yn ofalus, byth yn fodlon gadael i rywbeth fynd os gellid ei wella mewn unrhyw ffordd, ac yn hynod gefnogol. Mae ei chof syfrdanol – ynghyd â’i gallu i roi sylw fforensig i fanylion – wedi bod yn asedau eithriadol i mi ac i MTW; yn syml, ni fyddem wedi gallu cyflawni cymaint hebddi hi.

Ni fyddai Carole byth yn colli’r cyfle i adrodd stori dda, a chafodd nifer ohonom gyfle i fwynhau gwrando arni’n ein diddanu, dan bob math o amgylchiadau. Ac, yn rhyfeddol, llwyddodd hefyd i ysgrifennu dau lyfr!

Rwy’n dymuno’r gorau i Carole, a hynny’n gwbl ddiffuant, wrth iddi gymryd y camau nesaf yn ei gyrfa anhygoel, ac edrychaf ymlaen yn eiddgar at glywed yr hanes i gyd.

Cyfarwyddwr
Michael McCarthy