Cyllid Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru

Rydym wrth ein bodd o dderbyn cymorth aml-flwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru i’n galluogi i barhau â’n cenhadaeth i ailddychmygu opera fel ffurf fwy mynegiannol sydd ar gael yn ehangach i adrodd straeon mewn cerddoriaeth i bawb. Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at weithio mewn partneriaeth gydag ystod o wahanol sefydliadau, ac mewn cydweithrediad ag artistiaid sy’n newydd i faes creu opera, yn cynnwys pobl ifanc, pobl ifanc niwroamrywiol a rhai a chanddynt anabledd dysgu, artistiaid o’r mwyafrif byd-eang, a chymunedau ledled Cymru – a bydd y cyfan yn llywio’n gwaith yn y dyfodol.

Pleser oedd gweld bod Cyngor y Celfyddydau wedi crybwyll MTW fel sefydliad oedd wedi dangos elfen gref o weddnewidiad, ac rydym wedi ymrwymo i barhau â’r daith hon wrth symud ymlaen, gan osod cynhwysiant ac ymgysylltu wrth galon ein gwaith. Fel sefydliad creadigol, rydym yn canolbwyntio ar ddod o hyd i ddulliau newydd o greu a chyflwyno gwaith a fydd yn chwalu’r rhwystrau sy’n bodoli o gwmpas opera, gan feithrin talent a syniadau, ymgysylltu â’r byd o’n cwmpas, a rhannu straeon gyda rhagor o bobl mewn dulliau ffres a chyffrous.

Tra byddwn ni’n adolygu ein cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod, gan gymryd cyllid segur i ystyriaeth, rydym yn gwbl ymwybodol fod yna lawer o sefydliadau ac unigolion sy’n wynebu heriau llawer mwy o ganlyniad i’r penderfyniadau hyn. Mae ein meddyliau gyda’n cydweithwyr ar yr adeg hon.