Cynhyrchiad Music Theatre Wales o VIOLET yn cael ei enwebu yn y Gwobrau Opera Rhyngwladol

Mae cynhyrchiad Music Theatre Wales a Britten Pears Arts o’r opera Violet wedi derbyn ail enwebiad am wobr o fewn cyfnod o wythnos. Enwebwyd Violet yn y categori Premiere Byd ar gyfer y Gwobrau Opera Rhyngwladol 2022, yr unig gwmni o’r DU i gael ei enwebu yn y categori hwn. Wedi’i gyfansoddi gan Tom Coult gyda’r geiriau gan Alice Birch, gohiriwyd y cynhyrchiad yn sgil y pandemig COVID-19, ond pan gyrhaeddodd y llwyfan o’r diwedd cafodd adolygiadau cwbl arbennig yn y wasg ledled y DU.

Cynhelir y seremoni wobrwyo eleni ddydd Llun 28 Tachwedd yn y Teatro Real de Madrid. Hwn yw’r tro cyntaf yn holl hanes y gwobrau iddynt gael eu cyflwyno y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Wrth siarad am yr enwebiad hwn, dywedodd Michael McCarthy, Cyfarwyddwr MTW: ‘Rydym wrth ein bodd yn gweld Violet unwaith eto’n cael ei enwebu yn ystod y cyfnod gwobrwyo hwn. Mae’n deimlad cyffrous i weld y cynhyrchiad yn cael ei gydnabod o fewn y diwydiant ac ar raddfa ryngwladol. Mae gan MTW enw da ers blynyddoedd am gystadlu â’r goreuon ym myd yr opera ac am roi sylw i Gymru fel cenedl greadigol. Roedd hwn yn waith ysbrydoledig gan Tom Coult ac Alice Birch i ddod ag e i’r llwyfan.’

Hefyd wedi eu henwebu yn y categori hwn mae Awakenings (Tobias Picker/Opera Theatre of Saint Louis), Castor and Patience (Gregory Spears/Cincinnati Opera), Grete Minde (Eugen Engel/Theater Magdeburg), M. Butterfly (Huang Ruo/Santa Fe Opera) a The Time of our Singing (Kris Defoort/La Monnaie De Munt).