Dau Gynhyrchiad gan Music Theatre Wales ar Restr Fer Gwobr Fedora Generali am Opera

Mae Music Theatre Wales yn falch iawn o gyhoeddi bod dau gynhyrchiad sydd ganddynt ar y gweill wedi eu gosod ar y rhestr fer derfynol ar gyfer Gwobr Ryngwladol Fedora Generali am Opera, yn dilyn yr enwebiadau gwreiddiol a gyhoeddwyd ym mis Chwefror. Mae’r Wobr yn dathlu creadigedd ac arloesedd ym maes opera, gan gefnogi rhagoriaeth artistig gyda’r nod o helpu i lunio dyfodol y ffurf hon ar gelfyddyd.

Mae dwy opera Music Theatre Wales ymhlith rhestr fer o 4 opera a ddewiswyd gan Banel Beirniaid Gwobr Fedora ar gyfer y Wobr Opera. https://www.fedora-platform.com/competition/jury.

Yn awr, bydd yr operâu ar y rhestr fer yn rhedeg Ymgyrchoedd Ariannu Torfol ar y ‘Fedora Platform’ lle gall pobl gefnogi’r prosiectau o’u dewis hyd 31 Mai.

Un o’r ddwy opera sydd gan Music Theatre Wales ar y rhestr fer derfynol yw Violet gan Tom Coult ac Alice Birch, cyd-gynhyrchiad a arweinir gan Music Theatre Wales ynghyd â Snape Maltings fel rhan o Ŵyl Aldeburgh a Theater Magdeburg, yr Almaen. Bydd y cynhyrchiad yn teithio yn y DU ym misoedd Mehefin ac Awst 2020, ac yn chwarae yn yr Almaen yng ngwanwyn 2021. Music Theatre Wales sy’n arwain ar y cais hwn. https://www.fedora-platform.com/competition/nominees/violet/122

Hefyd ar y rhestr y mae Denis and Katya gan Phil Venables a Ted Huffman, cyd-gynhyrchiad dan arweiniad Opera Philadelphia ynghyd â Music Theatre Wales ac Operá Orchestre Montpellier. Bydd y cynhyrchiad yn agor yn Philadelphia ym mis Medi 2019 ac yn teithio ledled y Deyrnas Unedig yn nhymor y gwanwyn 2020. Opera Philadelphia sy’n arwain ar y cais hwn. https://www.fedora-platform.com/competition/nominees/denis-katya/76

Mae Violet yn adrodd stori lle mae amser yn crebachu, gydag un awr yn cael ei cholli’n sydyn ac annisgwyl un dydd ar ôl y llall. Wrth i gymdeithas wâr ddechrau dadfeilio mewn modd treisgar, mae un fenyw’n gweld cyfle i dorri’n rhydd a dechrau o’r newydd. Yn Denis and Katya cawn glywed stori wir am Denis Muravyov a Katya Vlasova, dau gariad pymtheg oed a fu farw ar ôl mynd ati i ddogfennu ar-lein y ffrwgwd a gawsant dros dri diwrnod gyda Lluoedd Arbennig Rwsia ar 14 Tachwedd, 2016. Caiff y ddau gynhyrchiad eu perfformio yn y Deyrnas Unedig gyda’r London Sinfonietta, a fydd yn cydweithio â Music Theatre Wales.

Dywed Michael McCarthy, y Cyfarwyddwr:

“Rydym wrth ein bodd bod y ddwy opera wedi cael eu cydnabod gan y Panel Beirniaid fel gweithiau newydd arloesol, a’u bod wedi cyrraedd y rhestr fer derfynol. Fel rhan o’r broses, rydym wedi creu ffilmiau byr i ddweud wrth bobl am yr operâu a’u hymgysylltu â’r gwaith sy’n cael ei gynhyrchu. Mae’r Ymgyrch Ariannu Torfol hefyd bellach ar waith trwy Blatfform Gwobr Fedora, gan roi cyfle i bobl gefnogi’r operâu mewn sawl ffordd yn ogystal ag ennill nifer o fuddion eu hunain yng nghyd-destun y prosiectau.”

Cyhoeddir yr enillydd terfynol ar 28 Mehefin yn ystod Noson Cyflwyno Gwobrau Fedora yn y Teatro La Fenice, Fenis. Cyflwynir gwobr o €150,000 tuag at gomisiynu a chynhyrchu’r opera fuddugol.

Mae Fedora yn cynnig tair gwobr Ewropeaidd bwysig sy’n cefnogi Opera, Bale ac Addysg. Y mae hefyd yn agored i bartneriaid yn America sy’n gweithio gyda chwmnïau Ewropeaidd. Music Theatre Wales yw’r unig gynhyrchydd yn y Deyrnas Gyfunol sy’n arwain ar gais a enwebwyd, ac mae’n un o ddim ond dau sefydliad yn y DU a enwebwyd ar gyfer Gwobr Fedora Generali am Opera; y cwmni arall yw Snape Maltings, sy’n cyd-gynhyrchu Violet gyda MTW ac a fydd yn cynnal y premiere byd yng Ngŵyl 2020.

CYSWLLT Y WASG:

Y Deyrnas Unedig a Chymru:
Penny James, Cyhoeddusrwydd Llawrydd
penny.james@btopenworld.com
07854 114 782

Music Theatre Wales

Music Theatre Wales, sydd a’i bencadlys yng Nghaerdydd, yw’r prif gwmni opera cyfoes yn y Deyrnas Unedig. Trwy gomisiynu cyfansoddwyr ac awduron eithriadol, datblygu crëwyr opera’r dyfodol, a chyflwyno gweithiau gan y cyfansoddwyr cyfoes gorau yn y byd – yn cynnwys Harrison Birtwistle, Peter Maxwell Davies, Philip Glass, Michael Tippett, Peter Eötvös a Philippe Boesmans – mae’r cwmni’n dod ag opera newydd a bywiog i gynulleidfaoedd ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.