Dau o gomisiynau Music Theatre Wales yn ennill gwobrau o fewn un wythnos

Mae dau waith a gomisiynwyd gan Music Theatre Wales wedi ennill gwobrau yr wythnos hon:

The Jollof House Party Opera gan Tumi Wiliams a Sita Thomas
AMAZON by gan Alex Ho ac Elayce Ismail

Enillodd The Jollof House Party Opera y Wobr Ffilm Geltaidd, sef Gwobr Arbennig a gyflwynwyd i ffilm a grëwyd yn unrhyw un o’r gwledydd Celtaidd, yng Ngŵyl Ffilmiau FOCUS Cymru 2022. Roedd yr opera yn un o dri gwaith digidol arloesol a gomisiynwyd drwy raglen newydd MTW – New Directions – sy’n datblygu opera newydd gydag artistiaid o’r Mwyafrif Byd-eang, yn adnewyddu ac adfywio opera, ac yn estyn allan i gynulleidfaoedd newydd. Dangoswyd The Jollof House Party Opera yng Ngŵyl FOCUS yn Wrecsam ar 6 Mai.

Gallwch weld The Jollof House Party Opera yma: https://musictheatre.wales/productions/the-house-of-jollof-opera.html

Hpuse of Jollof and Amazon image

Caiff New Directions ei arwain gan Elayce Ismail, Cysylltai Artistig MTW, a’r Cyfarwyddwr Michael McCarthy: https://musictheatre.wales/productions/new-directions.html

AMAZON oedd y gwaith digidol cyntaf i’w greu gan Music Theatre Wales ar ddechrau’r cyfnod clo. Gwahoddwyd MTW gan HOME ym Manceinion i greu darn digidol byr ar gyfer eu cyfres Homemakers. Estynnodd MTW wahoddiad i’r cyfansoddwr Alex Ho a’r gwneuthurwr theatr Elayce Ismail i gydweithio, er nad oeddynt erioed wedi cwrdd â’i gilydd ac y byddai’n rhaid iddynt weithio’n rhithiol. Canlyniad hyn oedd y darn AMAZON, oedd yn cymryd cipolwg gwreiddiol ar yr effaith byd-eang a gaiff ein byd prynwriaethol, ac agwedd hynod arloesol tuag at greu theatr gerddoriaeth. Gyda’r gwaith wedi ei gyd-gomisiynu gyda’r London Sinfonietta ym mis Gorffennaf 2020 a’i ryddhau ychydig fisoedd yn ddiweddarach, roedd MTW wrth eu bodd yn clywed Radio 3 yn cyhoeddi yr wythnos hon bod Alex Ho wedi ennill y wobr Talent Ifanc (cyfansoddwr) gan y Critics’ Circle, gydag AMAZON wedi ei nodi gan y beirniaid fel rhan fawr o’u rheswm dros gyflwyno’r wobr am “un o’r gweithiau amlgyfrwng mwyaf gwreiddiol i ddod allan o’r cyfnod clo”. https://criticscircle.org.uk/music-section-awards-2020-21/

Gallwch weld AMAZON yma: https://londonsinfonietta.org.uk/channel/video/digital-works-amazon-alex-ho-and-elayce-ismail