Denis & Katya yn ennill gwobr IVOR

Pleser o’r mwyaf i ni yw cyhoeddi bod Denis & Katya, a gyfansoddwyd gan Philip Venables, wedi ennill y categori Gweithiau i’r Llwyfan yng Ngwobrau’r Ivors i Gyfansoddwyr, a ddarlledwyd yn fyw ar BBC Radio 3 ar 1 Rhagfyr 2020.

Mae Gwobrau’r Ivors i Gyfansoddwyr yn cydnabod rhagoriaeth greadigol ym maes y celfyddydau clasurol, jazz a sain.

Wrth gyhoeddi’r enillydd, roedd geiriau’r beirniaid yn cyfleu arwyddocâd y gwaith hwn:

“Mae hwn yn waith llwyfan pwysig a phryfoclyd, yn hynod gelfydd o ran ei grefft gerddorol a’i elfen sain electronig. Dyma gyflwyniad arloesol o stori iasol sy’n llwyddo’n wych i blethu’r elfennau theatrig â strwythurau’r gerddoriaeth. Yn ein barn ni, mae’r darn hwn yn symud opera yn ei blaen.”

Mae Music Theatre Wales yn llongyfarch Philip Venables ar ei gamp anhygoel, ynghyd â’r awdur/cyfarwyddwr Ted Huffman a’r dramatwrg Ksenia Ravvina.

Dywedodd Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Artistig Music Theatre Wales:

“Rydym wrth ein bodd yn gweld y gwaith pwysig a gwirioneddol wreiddiol hwn yn cael ei gydnabod gan wobrau’r Ivors. Cyn gynted ag y cyflwynodd Philip Venables a Ted Huffman y gwaith hwn i ni, roeddem yn gwbl glir y byddai’n rhaid gwneud iddo ddigwydd. Roeddem yn credu y byddai’n cyhoeddi ffordd newydd ymlaen i MTW ac i opera, ac roedd yr ymateb a ysgogwyd ganddo yn wahanol i’r ymateb a gafwyd i unrhyw ddarn arall a berfformiwyd gennym.”

Roedd Denis & Katya yn gyd-gomisiwn a chyd-gynhyrchiad gan Music Theatre Wales, Opera Philadelphia ac Opéra Orchestre National Montpellier, a chafodd y gwaith ei berfformio yn y DU mewn cydweithrediad â’r London Sinfonietta. Y ddau fu’n perfformio ar y llwyfan oedd Emily Edmonds a Johnny Herford.

Yn y cyflwyniad i’r rhaglen, ysgrifennodd Academi’r Ivors:

“Mae eleni’n parhau i fod yn flwyddyn anhygoel o anodd ym maes cerddoriaeth a’r celfyddydau. Ar adeg fel hon mae’n holl bwysig ein bod yn uno i gydnabod talent eithriadol, a phwysigrwydd comisiynu, ariannu a pherfformio cyfansoddiadau newydd. Fel sector, mae’r pandemig wedi ein taro’n galed, ac wrth i ni obeithio ein bod bellach yn dod allan o gyfnod gwaethaf yr argyfwng iechyd hwn, byddwn yn ailadeiladu ein diwydiant trwy osod cyfansoddwyr a chrëwyr cerddoriaeth wrth galon ein hymdrechion.”

Ychwanegodd Alan Davey, Rheolwr Radio 3:

“Croeso i Wobrau’r Ivors i Gyfansoddwyr ar BBC Radio 3: digwyddiad arbennig lle rydym yn dathlu rhai o’r creadigaethau sydd ar flaen y gad, yn arloesol a chwbl newydd, gan gyfansoddwyr cyfoes, a rhoi cyfle i’n cynulleidfaoedd goleddu cerddoriaeth newydd, wych, cael eu hysbrydoli ganddi, a dathlu’r rhai sy’n ei chyfansoddi.”