Denis & Katya
Opera Newydd gan Philip Venables a Ted Huffman

Denis and Katya

Exploring the Creation of Denis & Katya
UK Premiere 27 February 2020 at Newport Riverfront

Written by Michael McCarthy, Artistic Director of Music Theatre Wales

“Not only is Venables’s newest creation the most brilliantly original operatic work I’ve seen in a decade, it’s a sensitive, subtle, and deeply questioning meditation on youth, voyeurism, and the age of social media… As such it points the way forward for an art form that can too often be found facing the other way.”

Musical America

Nid yn aml y gallwn gyflwyno opera newydd sbon sydd eisoes wedi cael adolygiadau mor ganmoliaethus, ond dyna’n union yw’r sefyllfa gyda Denis & Katya. Wedi’i gyd-gomisiynu a’i gyd-gynhyrchu gan Music Theatre Wales, Opera Philadelphia ac Opera Orchestre National Montpellier, hwn yw’r gwaith chwyldroadol ac enillydd Gwobr Fedora fydd yn gwneud i chi ystyried nid yn unig y ddau berson ifanc a gollodd eu bywydau mor ddiangen, ond hefyd i feddwl am sut rydyn ni’n adrodd straeon, y modd mae cerddoriaeth a theatr yn cyfuno i greu opera, a’r rhan y gall opera ei chwarae yn ein bywydau.

Rydym yn dechrau ymarfer gyda Johnny Herford (a welwyd hefyd yn The Trial, The Golden Dragon a Passion ar gyfer MTW) ac Emily Edmunds (a welwyd yn 4.48 Psychosis, yr opera hynod lwyddiannus gan Philip Venables a gyfarwyddwyd gan Ted Huffman ar gyfer y Royal Opera) – sef y ddau ganwr a gymerodd ran yn y perfformiadau yn Philadelphia – ar yr union adeg ag y cyrhaeddodd y cynhyrchiad restr fer y categori Gweithiau Newydd yn y Gwobrau Rhyngwladol am Opera – camp anhygoel. Beth, felly, yw achos yr holl gyffro?

Mae hwn yn waith swynol a chwbl wreiddiol; gwyddom y bydd y rhai sy’n caru opera a’r theatr yn ei gael yn hynod deimladwy a diddorol, ond y mae ganddo hefyd y gallu i gysylltu â chynulleidfa gwbl newydd, yn enwedig y rhai allai uniaethu â’r ddau gymeriad canolog.

Mae Denis & Katya yn stori wir am bâr ifanc o Rwsia a redodd i ffwrdd o’u cartrefi, gan arwain at y ddau yn cofnodi oriau olaf eu bywydau ar lif byw. Mae goblygiadau erchyll y stori yn bwerus o berthnasol i ni i gyd, yn enwedig yn oes y cyfryngau cymdeithasol lle nad oes dim byd yn ymddangos yn gwbl real – a lle gall bywyd person, hyd yn oed, fod yn ddim byd ond adloniant i’w wylio ar sgrin fechan loyw.


Denis a Katya


Gyda ffôn symudol a gwn


Denis yn saethu at fan yr heddlu

A oedd Denis a Katya yn galw am help, neu’n syml yn cael eu 15 munud o enwogrwydd, gyda’r holl ryfyg y gall wisgi, gynnau a ffôn symudol eu darparu? Ai nhw mewn gwirionedd oedd Romeo a Juliet ein cyfnod ni – neu dim ond pâr ifanc ar ffo, fel Bonnie a Clyde, a adawodd i bethau fynd allan o reolaeth? A oedd heddlu milwrol Rwsia yn ceisio atal Denis a Katya rhag cyflawni hunanladdiad, neu a aethon nhw i mewn yn llawn rhwysg? Pwy oedd yn gyfrifol am bostio delweddau erchyll yr heddlu ar ôl y digwyddiad – a pham yn y byd y gwnaethon nhw hynny?

Fel gwaith rhannol ddogfennol a gair-am-air, sy’n defnyddio testun ar lafar, ar gerddoriaeth ac wedi’i daflunio (yn cynnwys y sgwrs WhatsApp rhwng y cyfansoddwr a’r awdur yn trafod sut roedden nhw’n mynd i greu’r sioe), mae Denis & Katya yn edrych ar amgylchiadau ac effaith y stori, yn hytrach nag ar stori’r pâr ifanc eu hunain. Mewn gwirionedd, nid yw Denis a Katya yn ymddangos yn y cynhyrchiad o gwbl – na lluniau ohonynt, hyd yn oed, er gwaetha’r ffaith bod modd eu gweld ar-lein. Roedd hwn yn faes hynod sensitif i’r tîm creadigol, oedd yn ymwybodol o’r bywydau go iawn wrth galon y stori hon, ac yn benderfynol o beidio â’u gorliwio na’u hecsploetio.

“There has not been a piece of theater that has made me think so deeply in a very long time”

Broadway World

Wedi ei sgorio ar gyfer dim ond dau ganwr a phedwar soddgrwth, a heb arweinydd, ni allai’r gwaith fod yn fwy agos-atoch nac ar raddfa lai; fodd bynnag, mae pŵer y darn yn cael ei amlygu’n wych gan y ffocws hwn. Mae’r pedwar chwaraewr soddgrwth wedi eu gosod ar bedair cornel y set syml, blaen, ac yn darllen y sgôr oddi ar eu iPads gan dderbyn arweiniad o drac clicio drwy glustffonau – ac felly hefyd y cantorion, y fideo a’r goleuo! Er bod hon yn sioe sy’n cael ei rhedeg gan gyfrifiadur, nid oes ynddi unrhyw argoel o naws awtomataidd. Ar y dechrau, mae’r gerddoriaeth yn gweithio mewn modd isganfyddol, yn eithaf tebyg i sgôr ffilm, ond wrth i’r darn fynd yn ei flaen daw’n gwbl glir fod y gerddoriaeth yn gwthio’r cynnwys dramatig gan gyfleu’r naws a theimladau angerddol y rhai sy’n rhan o’r ddrama, o funud i funud, o gymeriad i gymeriad.

Ac am gymeriadau! Maent i gyd yn bobl go iawn, a chwrddodd Venables a Huffman â rhai ohonynt pan aethant i Rwsia i wneud ymchwil ar gyfer y prosiect. Yr athro, y ffrind ysgol, y cymydog, a’r newyddiadurwr a anfonwyd i ddelio â’r stori pan dorrodd am y tro cyntaf, a chyn iddi ffrwydro ar y cyfryngau cymdeithasol. Cynrychiolir y cyfan gan y ddau ganwr.

Mae canu, wrth gwrs, yn amlygu’r emosiynau mewn modd uniongyrchol, ond yma nid yw byth yn stwff operatig, sentimental. Mae rhyw symlrwydd yn y modd mae Venables yn ysgrifennu ar gyfer y llais sydd, fodd bynnag, yn tynnu ar y gwrandäwr ac yn ei bryfocio – yn enwedig pan fo’r soddgrythau’n araf gynyddu tensiwn y sefyllfa go iawn. Wedi’r cwbl, mae hon yn stori ac iddi ddiweddglo erchyll a sydyn. Mae amser yn dod i ben i Denis a Katya mewn modd nad yw’n digwydd i bawb arall, a chawn ein hatgoffa o hyn wrth i ni fynd i mewn i’r theatr cyn dechrau’r darn.

Philip Venables a Ted Huffman

Fel y soniais uchod, credwn y gall y darn hwn fod yn arbennig o berthnasol i gynulleidfaoedd ifanc, ac rydym yn rhedeg dau brosiect ymgyfranogol (yn Yr Wyddgrug a Chasnewydd) law yn llaw â’r cynhyrchiad, i dargedu pobl ifanc na fyddent fel arfer yn cael eu cysylltu â phrosiectau celf. Byddant yn cael cyfle i ymateb i’r stori wreiddiol, a datblygu eu gwaith creadigol eu hunain yn seiliedig ar hyn ac mewn ymateb i’r cynhyrchiad.

Mwy na hynny, byddwn yn ceisio dysgu ganddynt hwy a’u hymatebion trwy broses o ymgynghori strwythuredig. Credwn, os ydym yn wirioneddol awyddus i ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd, bod angen i ni ddeall beth yr hoffai pobl sydd y tu allan i’n cyrraedd arferol ei weld. Dyma’r tro cyntaf i Music Theatre Wales redeg y fath brosiect manwl ar gyfer pobl ifanc, ac mae’n ymdrech ddidwyll i wrando arnynt. Cynhelir y prosiect gan arweinydd gweithdai drama, un sy’n creu cerddoriaeth, ac ymarferydd cyfryngau cymdeithasol, a byddant yn gweithio gyda’r bobl ifanc i’w helpu i ffurfio eu syniadau eu hunain.

A hithau wedi ei rhestru yn y Deg Uchaf o Ddigwyddiadau Cerddoriaeth Glasurol 2019 yn y New York Times, bydd Denis & Katya yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yn y DU yng nghanolfan Glanyrafon, Casnewydd, ar 27 Chwefror ac yna’n teithio i Clwyd Theatr Cymru yn Yr Wyddgrug, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd; perfformir hi hefyd yng Nghanolfan y Southbank, Llundain. Ac fel y dywed adolygydd Americanaidd arall isod, mae’r gwaith hwn yn ailddiffinio opera ar gyfer y 2020au a rhaid ei weld.

Denis & Katya defies expectations of what opera should be… a highly effective production that should be seen by anyone who cares about the future of the art form.”

Opera Today

Denis & Katya
Opera Newydd gan Philip Venables a Ted Huffman

Perfformir gan Music Theatre Wales
mewn cydweithrediad â’r London Sinfonietta

Premiere yn Philadelphia, Medi 2019
Premier y DU yn Glanyrafon Casnewydd, Chwefror 2020


Dyddiadau’r Daith

Tickets are available via the following links.


Glan yr Afon, Casnewydd (Premiere y DU)

Dydd Iau 27 Chwefror

Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug

Dydd Llun 2 Mawrth

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Dydd Mawrth 3 Mawrth

Southbank Centre, Llundain

Dydd Gwener 13 - Dydd Sadwrn 14 Mawrth

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd

Dydd Gwener 27 Mawrth