Harrison Birtwistle – Adlewyrchiad personol gan Michael McCarthy

Harrison Birtwistle, a fu farw ar 18 Ebrill 2022, oedd y ffigur cawraidd ym maes cerddoriaeth newydd yn y DU am dros 50 mlynedd, a’r cyfansoddwr oedd yn deall orau, ac yn herio fwyaf, yr hyn allai drama gerddorol fod yn y G20 a’r G21. Roedd e’n berson gwirioneddol unigryw, ffraeth, tywyll, penderfynol, ysgolheigaidd a greddfol. Roedd yn bersonoliad o onestrwydd. Roedd ganddo synnwyr greddfol o ddrama, a dull digyfaddawd o weithio oedd bob amser yn canolbwyntio ar fynd i mewn i’r stori a’i hystyr. Doedd ganddo ddim diddordeb mewn tynnu sylw neu greu effaith. Roedd pob nodyn a phob gair yn cyfrif.

Image of Harrison Birtwistle with Michael McCarthy

Cefais fy nghyflwyno i’w waith am y tro cyntaf yn y National Theatre, lle roedd e’n gyfansoddwr preswyl – penodiad rhyfeddol! Mae ei gerddoriaeth ar gyfer cynhyrchiad gwych Peter Hall yn 1981 o The Oresteia yn dal i ganu yn fy nghlustiau. Llwyddodd yr egni a roddai i’r ddrama a’r testun i’m cario drwy’r 5 awr mewn modd Wagner-aidd, gan gau amser allan a dod â phob anadliad o bob cymeriad a’r corws anhygoel hwnnw’n fyw. Roedd y drymio, a’r ‘clarinetau’ a luniwyd yn arbennig i gynllun Harry, fel petaent yn cyfuno synau hynafol Aeschylus a’n byd cyfoes ni. Roedd yn anhygoel. Flynyddoedd lawer yn ddiweddarach, soniodd wrtha i am ei dorcalon wrth ddeall bod yr NT wedi llwyddo i golli’r offerynnau hynny. Yn fuan, dilynwyd The Oresteia gan y cynhyrchiad chwyldroadol o Punch and Judy gan David Freeman yn nhymor cyntaf yr Opera Factory yn Llundain yn gynnar yn 1982. Cefais fy syfrdanu gan bŵer ac egni’r darn a’r perfformiadau. Doeddwn i erioed wedi profi dim byd tebyg, ond gwyddwn ar unwaith mai dyma’r hyn ro’n i’n chwilio amdano – gwaith operatig go iawn oedd yn cael gwared o’r holl fanion dianghenraid yn gysylltiedig ag opera, ac yn ei gyflwyno’n syml fel theatr greddfol.

Flwyddyn neu ddwy’n ddiweddarach, roeddwn yn cyfarwyddo cynhyrchiad o Down by the Greenwood Side gan Harry ar gyfer y Cardiff New Opera Group – y cwmni roedd Michael Rafferty a minnau wedi’i greu yn 1982 ac a ddaeth yn Music Theatre Wales yn 1988. Ar y pryd, do’n i ddim yn deall pa mor anhygoel oedd y platfform roedd gwaith Harry’n ei roi i mi fel cyfarwyddwr, ond roedd yn amlwg o’r cychwyn cyntaf, petawn i’n gwrando ar yr hyn roedd e wedi’i ysgrifennu, y byddai’r holl atebion ar gael yno. Roeddwn wrth fy modd gyda’r cyfuniad o ddrama briddlyd, adrodd stori gylchol yn cynnwys bywyd a marwolaeth, a’i gerddoriaeth oedd rhywsut yn llwyddo i fod yn hanfodol ac yn eithafol ar yr un pryd. Mae’r ddrama’n cael ei fframio gan ei ail-ddychmygiad o’r Ballad of the Cruel Mother ar gyfer yr un sy’n canu cymeriad Mrs Green, lle mae’r iaith gerddorol yn cymryd drosodd o ddrama’r Mummers ac yn ein harwain i dir operatig go iawn. Rhoddodd hyn gyfle perffaith i baratoi ar gyfer uchelfannau Punch and Judy, a gynhyrchwyd gennym yn 1998 a’i adfywio yn 2008.

Y cynhyrchiad o Punch and Judy oedd, yn ddigwestiwn, y sioe a roddodd i MTW y rheswm a’r momentwm i barhau ymhellach na’r ddeng mlynedd gyntaf hynny. Roedd gweithio ar y darn hwnnw yn her anferth ac yn ysbrydoliaeth, fel ei gilydd. Roedd pob eiliad a dreuliwyd gennym i greu’r cynhyrchiad yn ddyrchafol ac yn llawen, nid oherwydd bod rhan helaeth o’r darn yn gymaint o hwyl i’w gyflawni, ond oherwydd bod pob ystum theatraidd a phob eiliad o ddrama yn dod yn uniongyrchol o gerddoriaeth Harry a’r modd roedd yn dod â’r geiriau’n fyw. Roeddwn eisoes wedi cael profiad o’r darn fel rhywbeth treisgar a thywyll, creulon a phoenus, ond wrth i mi ddechrau meddwl am y cynhyrchiad, effeithiwyd arnaf gan ei eiliadau o brydferthwch a sensitifrwydd a’i ddynoliaeth syml, deimladwy. Roedd yn cynnig popeth, ond teimlai fel petai’r cydbwysedd rhwng creulondeb a phrydferthwch wedi dod dan gysgod trais y ddrama. Wrth weithio gyda’r cynllunydd Simon Banham, roeddem yn awyddus i ddod o hyd i ffordd i adfer y cydbwysedd hwn, a rhoddodd set anhygoel Simon – gyda’r dolennau rhaff lle gosodwyd, mewn dull defodol, delwau’r cymeriadau a lofruddiwyd – gyfle i mi archwilio’r munudau trosgynnol hynny, yn union fel roedd symlrwydd y ceffyl pren yn darparu’r golwg perffaith, diniwed ar gyfer cwest prydferth, poenus Punch am Pretty Polly. Teimlai fel petai rhywbeth arbennig yn digwydd yn yr ystafell ymarfer. Roeddem hyd yn oed wedi cynnal ein hymarfer cyntaf o flaen grŵp o artistiaid rhyngwladol oedd wedi dod yno ar drefniant gyda’r Cyngor Prydeinig i weld amrywiaeth o waith newydd ledled y DU. Roedd yn ymddangos iddynt gael eu gadael wedi ymlâdd yn llwyr, ynghyd ag Anthony Freud, a oedd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol y WNO ar y pryd, ac yno roeddem ni’n ymarfer. Daeth y foment fwyaf brawychus, fodd bynnag, pan oeddem ar ganol yr ymarfer un-awr olaf yn y lleoliad, ddwy awr cyn agor ar y noson gyntaf. Hanner ffordd drwy’r ymarfer, ymddangosodd Harry yn y rhesi cefn. Dechreuodd fy nghroen bigo. Roeddem ar y pryd yn edrych ar gorfforoldeb marwolaeth Choregos, oedd yn uchafbwynt yn y cylch o lofruddiaethau a gyflawnwyd gan Punch. Tapiodd Harry fi ar fy ysgwydd a dweud y dylai’r cyfan fod yn fwy rhywiol ac yn fwy ymosodol. Roedd e’n iawn, wrth gwrs, ond doedd dim gobaith y gallai’r cantorion roi’r ymdrech 100% roedd ei hangen, a hynny dim ond awr cyn i’r sioe agor. Roeddem wedi gweithio mor galed ar y foment honno, gan wybod bod yn rhaid iddi fod yn uchafbwynt llawn artaith a pherlewyg; ceisiais esbonio, ond ro’n i’n bur sicr nad oedd fy ngeiriau wedi argyhoeddi! Ar ddiwedd y perfformiad, pan ymunodd Harry i dderbyn cymeradwyaeth y gynulleidfa, galwodd fi draw i ochr y llwyfan. Ro’n i wedi fy mharlysu gan ofn. “Dyna’r gorau iddo fod erioed,” meddai, a cherdded i ffwrdd. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ar ôl mynychu’r Ymarferiad mewn Gwisg yn The Linbury yn y Tŷ Opera Brenhinol, lle roeddem yn adfywio’r un cynhyrchiad cyn y premiere byd o The Minotaur, aeth Harry i gefn y llwyfan, agor drws yr ystafell wisgo a gweiddi i mewn – “Mae’n dal i fod y gorau erioed!”. Does dim modd gwella ar hynny.

Roedd pob drama a welwn o waith Harry yn daith arall o ddarganfod: Gawain and The Minotaur yn ROH, The Second Mrs Kong a The Last Supper yn Glyndebourne, The Masque of Orpheus yn ENO (dau gynhyrchiad!) – y sgôr cerddorfaol ac electronig anhygoel hwnnw, Yan Tan Tethera – datguddiad rhyfeddol arall o’r Opera Factory, a The Corridor gyda’r London Sinfonietta – perfformwyr ffyddlonaf a mwyaf disglair ei gerddoriaeth.

Yn 1988 roeddem yn dathlu 10fed pen blwydd Music Theatre Wales, yn dilyn perfformiad o Punch and Judy yng Nghaerdydd. Siom anferth i ni oedd deall bod Gwion Thomas – oedd yn chwarae rhan Punch mor wych – yn rhy sâl i gymryd rhan. Doedd e ddim hyd yn oed yn gallu meimio’r perfformiad. Buom yn chwilio yn mhob twll a chornel am ganwr oedd yn gyfarwydd â’r rhan, gan ddechrau gydag Omar Ebrahim oedd wedi rhoi perfformiad cofiadwy ohoni gyda’r Opera Factory. Roedd Omar yn perfformio gyda’r ETO mewn opera arall y noson honno, felly nid oedd ar gael. O’r diwedd, llwyddwyd i gael canwr oedd yn fodlon paratoi i deithio o’r Unol Daleithiau i gyrraedd jest mewn pryd, ond roedd ffawd o’n plaid pan aethom yn ôl at ETO, a buont yn ddigon caredig i’w gwneud yn bosibl i ryddhau Omar fel bod modd iddo ymuno â ni. Canodd Omar y rôl, a minnau’n ei pherfformio ar y llwyfan gan feimio’r geiriau. Nid dyna beth oedd gen i mewn golwg i ddathlu 10 mlynedd, ond mae pobl yn dweud ei fod yn achlysur hynod gofiadwy! Pan oeddem ni’n adfywio’r cynhyrchiad gyda’r Royal Opera, roedd yn 40 mlynedd ers cynnal premiere y darn, a daeth rhai o’r gynulleidfa oedd yn bresennol yn y premiere hwnnw i siarad gyda mi. Fedrwn i ddim credu’r peth. Ac yn awr, wrth i Harry ein gadael, daeth ein tro ni i ddathlu 40 mlynedd o greu opera newydd. Mae’n teimlo fel petaen ni wedi cael ein dal yn un o’r strwythurau hynny gan Birtwistle, lle mae mwy nag un cylchred ar waith, heblaw eu bod i gyd yn ymwneud â’r un peth – sef, yn yr achos hwn, creu, perfformio a datblygu opera fel ffurf gyfoes ar gelfyddyd.

Michael McCarthy MBE
Cyfarwyddwr, MTW