Mae comisiynau diweddaraf MTW yn mynd yn rhyngwladol

Mae dau gynhyrchiad newydd o Violet wedi eu cyhoeddi o fewn blwyddyn i gynnal perfformiad premiere y gwaith – a hynny yn Ulm, yr Almaen, ac ym Mharis.

Caiff ein cynhyrchiad o Denis & Katya ei lwyfannu yn Pittsburg Opera ym mis Mai 2023 a chaiff y gwaith hefyd gynyrchiadau newydd yn y Staastoper, Hannover ac yn Opera Genedlaethol y Ffindir yng ngwanwyn 2023, gyda chynhyrchiad arall y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi’n fuan. Eisoes gwelwyd Denis & Katya yn Philadelphia, Montpellier, Amsterdam a Chaergrawnt, yn ogystal â’r lleoliadau yng Nghymru a Lloegr lle roedd MTW wedi llwyddo i berfformio cyn i’r cyfan ddod i ben yn sgil Covid.