Mae Music Theatre Wales ac Opera Philadelphia yn rhannu gwaith digidol beiddgar sy’n ailddiffinio opera ar gyfer ein cyfnod ni.

Yn dilyn llwyddiant y gwaith a wnaed yn 2019 i gyd-gomisiynu a chyd-gynhyrchu Denis & Katya gan Philip Venables a Ted Huffman, mae’r ddau gwmni’n rhannu darnau newydd digidol a grëwyd gan artistiaid Du, Asiaidd, a rhai o’r mwyafrif byd-eang. Mae rhaglenni digidol Music Theatre Wales ac Opera Philadelphia, a gomisiynwyd yn gyfochrog, yn gyrru ein genre ymlaen, gan nodi artistiaid eithriadol a chyflwyno gwaith newydd, arloesol sy’n dathlu’r byd aml-ddiwylliannol rydym i gyd yn byw ynddo.

Daeth New Directions, rhaglen gomisiynu newydd a grëwyd gan Music Theatre Wales, i fodolaeth gyda chyfres o dri darn digidol cydweithredol o waith artistiaid sy’n newydd i fyd yr opera. Bydd y darnau hyn yn cael eu ffrydio ar Sianel Opera Philadelphia, gan ddechrau ddydd Mercher 1 Rhagfyr. Dan arweiniad y Cysylltai Artistig Elayce Ismail a’r Cyfarwyddwr Michael McCarthy, bydd New Directions yn holi beth yw opera a beth y gallai fod, trwy gomisiynu a gweithio gydag artistiaid sy’n dod â phersbectif cerddorol newydd a straeon na chawsant eu hadrodd o’r blaen i fyd yr opera.

Darnau New Directions yw:

The Jollof House Party Opera
gan Tumi Williams a Sita Thomas

Pride (A Lion’s Roar)
gan Renell Shaw a Rachael Young gyda’r animeiddio gan Kyle Legall

Somehow
gan Jasmin Kent Rodgman a Krystal S. Lowe

Yn gyfnewid am hynny, bydd cynulleidfaoedd Music Theatre Wales yn ennill mynediad ecsgliwsif at dri o weithiau digidol Opera Philadelphia:

THEY STILL WANT TO KILL US
Gan Daniel Bernard Roumain

Aria heb ei sensro a berfformir ac a gyfansoddwyd gan Daniel Bernard Roumain. Cymerir rhan hefyd gan y mezzo-soprano J’Nai Bridges, a’r cyfarwyddwr yw’r artist aml-gyfrwng Yoram Savion. Mae’r darn hwn yn coffáu canmlwyddiant Cyflafan Hil Tulsa 1921, a chafodd ei greu’n wreiddiol i nodi blwyddyn ers llofruddio George Floyd.

SAVE THE BOYS
Gan Tyshawn Sorey

Darn wedi ei ysbrydoli gan “Save the Boys,” cerdd a gyfansoddwyd yn 1887 gan Frances Ellen Watkins Harper – diddymydd, awdur ac un oedd yn gweithredu dros hawliau menywod Du; perfformir y darn gan yr uwchdenor rhagorol John Holiday a’r pianydd Grant Loehnig.  

CYCLES OF MY BEING

Cylch o ganeuon sy’n ffocysu ar yr hyn mae’n ei olygu i fod yn ddyn Du yn byw yn America heddiw; cyfansoddwyd gan Tyshawn Sorey gyda’r geiriau gan MacArthur Fellow Terrance Hayes, a chenir y darn gan y tenor adnabyddus Lawrence Brownless.  

Bydd y gweithiau hyn ar gael trwy ddolen unigryw ar wefan MTW, a bydd y rhain hefyd yn dechrau ar 1 Rhagfyr 2021. Dywedodd Elayce Ismail, cysylltai artistig gyda Music Theatre Wales:

“Mae yna gynifer o rwystrau i weithio ym myd yr opera, a hefyd i gael mynediad ato fel aelod o’r gynulleidfa – o’r canfyddiad o beth yw’r ffurf artistig, ac i bwy y mae, ac ymlaen i fynediad at hyfforddiant. Nod New Directions yw mynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau hyn ac ailfywiogi beth all opera fod, pwy sy’n ei greu ac ar gyfer pwy. Mae opera’n ffurf artistig mor ddynamig, ac rwy’n credu y gall atseinio’n gryf gyda chynulleidfaoedd cyfoes – ond i wneud hynny mae angen artistiaid newydd a syniadau newydd i’w ddadebru, ei herio a’i ddatblygu. Ar gyfer New Directions rydym wedi tynnu at ei gilydd dri phâr eithriadol o gydweithredwyr, pob un yn dod â dulliau creadigol gwahanol i’r cyfuniad, ac sydd wedi bod yn hael a chwilfrydig yn ein trafodaethau ar botensial maes yr opera. Bu’n brofiad gwych i weld sut mae pob un o’n crewyr wedi cofleidio’r her, ynghyd â’r elfen ychwanegol o greu gwaith yn rhithiol ar gyfer cynulleidfaoedd digidol, i wneud tri gwaith operatig newydd sy’n unigryw ac ysgogol.”

Dywedodd Michael McCarthy, cyfarwyddwr, Music Theatre Wales:

“Mae MTW wedi bod yn rym dros newid a datblygiad ym myd yr opera yn y DU, ac rydym wrth ein boddau’n cael bod yn bartneriaid gydag Opera Philadelphia, cwmni sy’n enwog am gofleidio arloesi a datblygu opera i adlewyrchu ein cyfnod ni. Trwy rannu comisiynau digidol ein rhaglen New Directions gyda chynulleidfa ryngwladol, gobeithiwn y bydd y darnau gwreiddiol hyn, a grëwyd gan artistiaid o Gymru a’r DU, yn cyfrannu tuag at esblygiad ein ffurf artistig. Ar yr un pryd, byddwn yn cynnig cyfle i gynulleidfaoedd yn y DU weld tri darn pwerus gan Opera Philadelphia – darnau sydd, yn fy marn i, yn adleisio gyda’r gwaith rydyn ni’n ei wneud drwy New Directions

“Y tro cyntaf i’n dau gwmni weithio fel partneriaid oedd gyda Denis & Katya gan y cyfansoddwr Philip Venables a’r libretydd Ted Huffman; drwy gyfrwng y profiad hwnnw, sylweddolwyd ein bod yn rhannu’r awydd i brocio rhywfaint ar fyd yr opera, gan gwestiynu’r modd y caiff ei ysgrifennu, sut y caiff ei gynhyrchu, a beth yw’r canfyddiad ohono. Roedd comisiynau digidol Opera Philadelphia, a ryddhawyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, wedi gadael cryn argraff arnaf, ac felly hefyd eu gallu i ddod â lleisiau newydd i’r ffurf artistig a darparu profiadau nodedig a chofiadwy; bydd y bartneriaeth hon yn caniatáu i’n cynulleidfa ar y cyd ystyried yr holl weithiau digidol hyn mewn cyd-destun ehangach. Mae’r byd wedi newid, a rhaid i ninnau hefyd newid. Os ydym yn awyddus i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, ac ysgogi diddordeb ehangach yn y gwaith o greu opera newydd gyda’r holl botensial sydd i hynny, mae angen i ni fod yn gweithio gydag artistiaid sy’n gallu ein harwain i gyfeiriadau newydd ac annisgwyl.”

Am ragor o wybodaeth ar sut i gael mynediad at waith Opera Philadelphia, ewch i: https://www.musictheatre.wales/  

 

Nodiadau i Olygyddion:

Am Music Theatre Wales:

Mae Music Theatre Wales yn bodoli er mwyn anadlu bywyd newydd i mewn i opera a theatr gerddoriaeth fel dulliau cyfoes o fynegiant artistig. A ninnau wedi ein lleoli yng Nghymru, rydym yn newid y modd y caiff opera ei chreu a’i dirnad, trwy gysylltu â’r rhai sy’n ei chreu, estyn allan at gynulleidfaoedd newydd a mwy amrywiol, a thrwy greu gwaith newydd sy’n ymateb i’r gymdeithas ac yn ei hadlewyrchu: rhoi llais newydd a pherchnogaeth newydd i opera; dathlu opera fel ffurf amlddisgyblaethol.

Wrth galon ein gwaith mae’r uchelgais i ddarganfod a chefnogi datblygiad talentau newydd a syniadau newydd. Rydym yn gweithio gydag artistiaid o’r safon uchaf sy’n newydd i fyd yr opera, yn enwedig y rhai hynny sydd wedi cael eu hanwybyddu neu eu heithrio gan opera, gyda phobl ifanc o bob ardal yng Nghymru, a gyda chymunedau nad ydynt yn draddodiadol wedi bod yn rhan o faes yr opera. Rydym yn datblygu elfen amrywiol y cwmni, y bobl rydym yn gweithio gyda hwy, a’r cynulleidfaoedd rydym yn eu cyrraedd.  musictheatre.wales 

 

Am Opera Philadelphia

Ystyrir fod Opera Philadelphia – yr unig gwmni Americanaidd i gyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Gwobr Opera Ryngwladol 2016 am y Cwmni Opera Gorau, a Gwobr Opera Ryngwladol 2020 am yr Ŵyl Orau – yn “the very model of a modern opera company” (Washington Post). Gyda’i ymrwymiad i ddatblygu opera ar gyfer yr 21ain ganrif, cyfeirir at y cwmni fel “a hotbed of operatic innovation” (New York Times). Am ragor o wybodaeth, ewch i operaphila.org

Mae Sianel Opera Philadelphia yn creu gofod digidol lle gall artistiaid berfformio ac archwilio, drwy gyfrwng cyfres o gomisiynau newydd gan gyfansoddwyr a chanddynt weledigaeth, a pherfformiadau dynamig a gynhyrchir ar gyfer y sgrin. Cynigir tanysgrifiad tymor am bris o $99, ynghyd â dewisiadau llogi ar delerau talu-wrth-wylio ar gyfer perfformiadau unigol. Gellir gwylio’r sianel ar gyfrifiaduron a dyfeisiau symudol, ac ar sgriniau teledu drwy Chromecast; mae ap Sianel Opera Philadelphia ar gael ar AppleTV, Android TV, Roku, ac Amazon FireTV. Am ragor o wybodaeth, ewch i operaphila.tv