Published on 01/02/22

 

Mae Music Theatre Wales yn cefnogi gwaith newydd gan y cyfansoddwr Cymreig Luke Lewis, yn seiliedig ar leisiau Cwm Rhondda

Mae Music Theatre Wales a’r London Sinfonietta wedi bod yn cydweithio i gefnogi datblygiad gwaith newydd gan y cyfansoddwr Cymreig Luke Lewis a Simon Clode, y gwneuthurwr ffilmiau ac artist fideo o Gaerdydd.

Cynhelir premier y gwaith mewn perfformiad byw yng Nghanolfan y Southbank, Llundain, fel rhan o ‘Writing the Future’, cynllun y London Sinfonietta i datblygu cyfansoddwyr. Yn dilyn y perfformiad hwn, bydd MTW yn edrych ar y posibiliadau o ddod â’r darn i gymoedd de Cymru, lle gwnaed y recordiadau gwreiddiol yn 1953 a 1970.

Wedi ei ysbrydoli gan Alan Lomax, yr ethnogerddoregwr a chasglwr caneuon, mae darn Luke Lewis, The Echoes Return Slow, yn sbarduno sgwrs rhwng lleisiau coll y gorffennol a’n presennol ni ein hunain. Gan ddefnyddio meddalwedd trawsgrifio llais i dynnu allan yr oslef gerddorol naturiol o recordiadau hanesyddol o leisiau, a’u mapio i lunio alaw, mae’r broses arloesol hon yn ailgysylltu â’r caneuon a’r hanesion – rhai’n drist, rhai’n llawen – a recordiwyd gan Lomax yng Nghlwb y Glowyr, Treorchi, yn ogystal â’r rhai a gasglwyd ar gyfer y ffilm ‘Women of the Rhondda’ (1973), yn sôn am hunaniaeth genedlaethol, streicio dros well tâl ac amodau, diweithdra, rôl y rhywiau, iaith a diwylliant; mae’r holl themâu yr un mor berthnasol heddiw ag yr oeddent hanner can neu gan mlynedd yn ôl.

Wrth gyfeirio at weithio gyda Luke Lewis, dywedodd Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Music Theatre Wales:

“Rydym yn falch iawn o gefnogi datblygu talent o Gymru, gan ar yr un pryd ymestyn ein partneriaeth gydag un o’r prif ensemblau cyfoes yn y byd, wrth i ni edrych i’r dyfodol ac adeiladu ar y gorffennol.”

Dywedodd Luke Lewis:

“Er ein bod yn wreiddiol wedi cwrdd i drafod themâu eang gyda’r cysylltiadau Cymreig roeddem yn eu rhannu, daeth Michael yn ffigwr canolog yn natblygiad y darn. Dangosodd botensial y gwaith i ymestyn y tu hwnt i ddim ond cerddoriaeth siambr i fod yn rhywbeth mwy arloesol ac amlgyfryngol, a helpu i ddangos sut y gall y deunydd gysylltu â materion sy’n berthnasol i ni heddiw.”

Cynhelir y premiere ddydd Sul 6 Chwefror yng Nghanolfan y Southbank, Llundain. Mae’r tocynnau ar gael yn awr o https://www.southbankcentre.co.uk/whats-on/classical-music/then-now/

Am ragor o wybodaeth am Luke Lewis, ewch i’w wefan: https://www.luke-lewis.com

Am ragor o wybodaeth am Simon Clode, ewch i’w wefan: https://simonclodefilms.com