Mae Music Theatre Wales yn chwilio am Gadeirydd newydd

Rydym yn gwahodd ceisiadau ar gyfer rôl hollbwysig, sef Cadeirydd Music Theatre Wales, i ddechrau gweithio gyda’r cwmni o fis Medi 2023 a chamu i mewn i rôl y Cadeirydd ar ddiwedd y flwyddyn.

Rydym yn sefydliad dynamig a blaengar, a’n nod yw chwarae rôl unigryw a hynod greadigol ym mywyd Cymru ac ym mywyd diwylliannol Cymru, y DU a thu hwnt. Mae ffocws ein gwaith wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf, fel yn wir y mae cymdeithas ei hun wedi newid, ond mae ein cenhadaeth yn parhau i fod yn driw i’n gwreiddiau – sef cyflwyno opera fel ffurf gyfoes a pherthnasol ar gelfyddyd.

Rydym yn chwilio am Gadeirydd i’n harwain wrth i ni ddechrau ar gyfnod newydd o weithgaredd. Gyda ffocws ac egni newydd, rydyn ni’n datblygu dulliau arloesol o weithio, a bydd hyn yn galw am arweiniad creadigol a dynamig gan weithio’n agos gyda’n Cyfarwyddwr, Michael McCarthy. Rydym yn awyddus i ehangu’r ystod o brofiadau byw, a phersbectifau a diddordebau diwylliannol, yn ein Bwrdd a byddem yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sy’n credu bod ganddynt rywbeth i’w gynnig ac a allai fod yn eiriolwr angerddol dros ein gwaith. Rydym hefyd yn awyddus i glywed oddi wrth siaradwyr Cymraeg.

Gwybodaeth am Music Theatre Wales

Rydym yn benderfynol o dynnu opera allan o’i focs a datgelu’r potensial sydd ganddo i gyffwrdd â bywydau pawb – fel dull o adrodd stori drwy gerddoriaeth. Rydym yn awyddus i newid y canfyddiadau ynghylch beth yw opera drwy herio’r modd y caiff ei greu. Rydyn ni’n gofyn:

Beth yw opera? Pwy sy’n ei greu? ac I bwy y mae e?

Os gallwn ddod â newid i’r bobl sy’n creu opera, i’r modd y caiff opera ei greu, i’r llefydd a’r ffurfiau lle gwelir ef, a’r dulliau y gall cynulleidfaoedd gael mynediad ato, yna fe allwn helpu opera i ddatblygu fel ffurf ar gelfyddyd. Byddwn yn cyflawni hyn os gallwn newid y dull sylfaenol – creu gwaith gyda, a chefnogi datblygiad, creadigwyr sy’n newydd i fyd yr opera ac eto all ddod â’r holl sgiliau angenrheidiol – trwy gyfrwng cerddoriaeth, stori, gwireddu gweledol a pherfformiad. Rydym yn awyddus i opera agor fel ffurf ar gelfyddyd, gan ledaenu ei sgôp cerddorol a diwylliannol, ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd trwy ddangos y gall fod yn gymaint mwy na’r ffurf cul y mae pobl yn ei ddirnad ar hyn o bryd.

Rydyn ni’n chwilio am rywun sy’n rhannu’r nodau hyn ac yn awyddus i helpu i yrru’r cwmni yn ei flaen, gan gydweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr, y cyd-Ymddiriedolwyr, a thîm bychan o staff, gan sicrhau bod unrhyw fuddsoddiad a wneir yn y cwmni yn cael ei reoli’n briodol, bod gweledigaeth a gwaith y cwmni’n parhau i fod yn atebol a theg, a’i fod yn cael ei gyflenwi mewn modd egwyddorol.

Ewch i www.musictheatre.wales am ragor o wybodaeth ynghylch pwy ydyn ni a beth rydyn ni’n ei wneud.

Mae Music Theatre Wales yn elusen gofrestredig ac yn gwmni a gyfyngir gan warant. Rydym yn derbyn cyllid rheolaidd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac mae gennym record lwyddiannus o godi arian o ffynonellau preifat, megis ymddiriedolaethau ac unigolion.

Ein Hymddiriedolwyr

Ar hyn o bryd mae gennym 9 o Ymddiriedolwyr – ceir rhagor o wybodaeth amdanynt yma.

Mae gan ein Bwrdd Ymddiriedolwyr gyfrifoldeb cyffredinol dros y cwmni, gan sicrhau bod MTW yn cael ei reoli’n effeithiol, yn effeithlon, yn foesegol, yn deg ac yn gynaliadwy. Rydym yn estyn gwahoddiad i chi ddefnyddio’ch gwybodaeth a’ch profiad i gefnogi ein gwaith a’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda hwy. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau newydd, a fydd yn fuddiol i chi yn broffesiynol ac yn bersonol.

Mae’r Bwrdd yn cynnal pedwar cyfarfod y flwyddyn, naill ai yn ein swyddfa yng Nghaerdydd neu o bell ar Zoom. Rydym hefyd yn ceisio trefnu un ‘diwrnod i ffwrdd’ bob blwyddyn.

Mae pob swydd yn wirfoddol ac yn ddi-dâl, er y bydd costau ychwanegol – megis costau teithio rhesymol a chostau gwarchod plant – yn cael eu had-dalu. Darperir cymorth mynediad ar gyfer unrhyw un a chanddynt anghenion penodol.

Rydym am i’n holl Ymddiriedolwyr nid yn unig rannu ein gweledigaeth, ond hefyd herio a siapio ein dulliau o weithio, gan gynrychioli cynulleidfaoedd ac artistiaid a chefnogi ein tîm o staff.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, a chaiff pob cais ei hystyried ar sail teilyngdod. Rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau oddi wrth siaradwyr Cymraeg, pobl ifanc (dan 30), pobl Ddu, Asiaidd ac o gefndiroedd ethnig amrywiol, pobl anabl, pobl sy’n LGBTQIA+, a phobl o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd is.

Am ragor o wybodaeth ynghylch yr hyn y mae bod yn Ymddiriedolwr yn ei olygu, ewch i https://www.gov.uk/guidance/charity-commission-guidance.

Cyngor Celfyddydau Cymru: Adolygiad Buddsoddi

Ynghyd â 140 o sefydliadau celfyddydol eraill yng Nghymru, ym mis Mawrth 2023 cyflwynodd MTW gais i Gyngor Celfyddydau Cymru am barhad o gymorth refeniw fel rhan o’u Portffolio. Ym mis Medi 2023 byddant yn rhoi gwybod i ni beth yw eu penderfyniad. Os byddwn yn llwyddiannus, bydd gennym o leiaf dair blynedd o gymorth o fis Mawrth 2024. Os nad ydym yn llwyddiannus, bydd angen i ni ystyried ein hopsiynau a thrafod y ffordd orau o symud ymlaen. Byddwn yn rhannu’r wybodaeth gyda’n Bwrdd a’n darpar Gadeirydd cyn gynted ag y byddwn yn clywed gan CCC, ac yn dod at ein gilydd i edrych yn fanwl ar yr oll oblygiadau. Cynhelir cyfarfod o’r Bwrdd ar ddiwedd mis Medi neu ddechrau Hydref i agor y drafodaeth hon.

Ceisiadau

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Ymddiriedolwr gyda Music Theatre Wales, anfonwch ebost at ein Cyfarwyddwr, Michael McCarthy michael@musictheatre.wales gan roi’r wybodaeth isod:

  • Eich enw llawn, cyfeiriad, cyfeiriad ebost, rhif ffôn symudol (ac, os yn berthnasol, eich gwefan; cyfeiriadau ar y cyfryngau cymdeithasol, ac ati)
  • Pam y byddech yn hoffi ymuno â’n Bwrdd, a beth sydd o ddiddordeb i chi yn y swydd.  
  • Sut y gallai eich profiadau – proffesiynol a phrofiadau byw – ein helpu ni i wireddu ein gweledigaeth.

Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau ar fideo – anfonwch eich fideo o ddim mwy na 5 munud yn rhoi’r wybodaeth y gofynnir amdani yn y pwyntiau bwled uchod.

Os hoffech dderbyn rhagor o ddiddordeb am rôl y Cadeirydd, mae croeso i chi ffonio Michael McCarthy ar 07778 111176, neu cysylltwch ag ef trwy ebost i drefnu sgwrs anffurfiol.

Byddwn yn gwahodd yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer i gyfweliad naill ai wyneb yn wyneb neu ar Zoom.

Dyddiad cau: 12 hanner dydd ddydd Gwener 7 Gorffennaf 2023
Cyfweliadau: Dydd Mawrth 25 Gorffennaf 2023