Mae Music Theatre Wales yn dathlu 40 mlynedd o opera gyfoes yn 2022

Mae eleni’n nodi 40 mlynedd ers i’r Cardiff New Opera Group – a fyddai, yn ddiweddarach, yn datblygu’n Music Theatre Wales – roi eu perfformiad cyntaf. Y darn oedd ‘The Lighthouse’ gan Peter Maxwell Davies, cyfansoddwr y byddai’r cwmni’n parhau i weithio a chydweithredu ag ef ar gynyrchiadau yn y dyfodol. Byddai MTW yn mynd yn ei flaen i ddatblygu comisiynau pellach, gan ymgysylltu â lleisiau newydd, cyffrous a chreu gweithiau newydd.

Dros y 40 mlynedd ddiwethaf, mae MTW wedi comisiynu dros 30 o operâu, wedi rhoi perfformiadau cyntaf nifer o weithiau cyffrous yn y Deyrnas Gyfunol, wedi bod yn rhan o’r tirlun cerddorol newidiol ac yn llais cryf ym myd opera gyfoes. Yn 2021, cychwynnodd y cwmni ei raglen artistig newydd, ‘New Directions’, sy’n herio beth yw opera, ac ar gyfer pwy y mae hi. Mae’r darnau o’r casgliad cychwynnol hwn wedi cael eu gweld ledled Cymru a’r Deyrnas Gyfunol, yn ogystal ag yn rhyngwladol.

Over the last 40 years, MTW has commissioned over 30 new operas, premiered exciting works in the UK and has been a part of the changing music landscape and a strong voice in contemporary opera. In 2021, the company started its new artistic programme, ‘New Directions,’ which is challenging what opera is and who it is for. The pieces from this initial cohort have been seen both across Wales and the UK, as well as internationally.

Wrth drafod y dathliad 40 mlynedd, dywedodd Michael McCarthy, Cyfarwyddwr MTW:

‘O’r cychwyn cyntaf mae Music Theatre Wales wedi bod yn gwmni arloesol, gan archwilio lleisiau newydd a chomisiynu gweithiau newydd. Pleser o’r mwyaf yw ein bod yn dathlu 40 mlynedd o greu cerddoriaeth newydd, a bod yn llais i Gymru ym myd yr Opera Gyfoes. Gan fod y cwmni wedi newid ac esblygu, mae’n deimlad cyffrous i edrych yn ôl ar ein gwreiddiau, ac ar uchafbwyntiau yn ein hanes, a cheisio dychmygu pa fath o ddyfodol sydd o’n blaenau.’

Yn 2022 bydd MTW yn parhau i gydweithio a chomisiynu gweithiau newydd. Ym mis Mehefin cynhelir perfformiad cyntaf ‘Violet’, gyda’r gerddoriaeth gan Tom Coult a’r libretto gan Alice Birch. Crëir yr opera hon – a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer 2020 – gan y lleisiau cyfoes mwyaf cyffrous, ac mae’n rhoi blas o’r hyn y gallai dyfodol opera fod. Mae Music Theatre Wales hefyd wedi parhau i weithio gyda’r London Sinfonietta i gefnogi datblygiad gwaith newydd gan Luke Lewis, y cyfansoddwr o Gymru, a Simon Clode, y gwneuthurwr ffilmiau ac artist fideo o Gaerdydd, a chynhelir y perfformiad cyntaf yng Nghanolfan y Southbank, Llundain ym mis Chwefror.

Dros y 12 mis nesaf, byddwn ni yn MTW yn adlewyrchu ar ein hanes, yn cael sgyrsiau cyffrous gydag artistiaid, ac yn edrych yn ôl ar beth o’n gwaith. Edrychwn ymlaen at rannu’r straeon hyn unwaith eto gyda’n cynulleidfaoedd.