Mae Music Theatre Wales yn rhyddhau ail ddarn y rhaglen NEW DIRECTIONS fel rhan o Fis Hanes Pobl Dduon, Cymru
Mae Music Theatre Wales yn falch o gyhoeddi’r ail ddarn yn ein rhaglen NEW DIRECTIONS. Caiff y darn ei gyflwyno fel rhan o Fis Hanes Pobl Dduon, Cymru.
Mae Pride (A Lion’s Roar) yn adrodd am y profiad o ragfarn mae llawer o bobl croenliw wedi ei ddioddef: cael eich cyhuddo o fod yn ‘rhy ymosodol’ neu’n ‘rhy swnllyd’ oherwydd bod eich rhuo trosiadol yn anghyfarwydd yn yr amgylcheddau rydych yn gorfod gweithio o’u mewn. Cael eich gwneud i deimlo fel petai raid i chi wneud eich hun yn llai er mwyn cael eich derbyn, gan droi eich rhu yn ganu grwndi fel nad yw pobl eraill yn teimlo eu bod dan fygythiad. Mae Pride (A Lion's Roar) yn opera newydd ddigidol wedi’i chreu gan Renell Shaw (cyfansoddwr/ cynhyrchydd cerddoriaeth) a Rachael Young (libretydd/alaw’r corws), gyda’r elfennau gweledol gan Kyle Legall.
Rhaglen gomisiynu o Music Theatre Wales yw New Directions, dan arweiniad yr Artist Cysylltiol Elayce Ismail a’r Cyfarwyddwr Michael McCarthy. Ein nod yn MTW yw bod yn rym nerthol dros newid, a gyda New Directions rydym yn dod ag artistiaid newydd i fyd yr opera, ac ysgogi newid yn y modd y caiff opera ei chreu a’i dirnad, trwy ganolbwyntio ar y rhai a gomisiynir i’w chreu. Gan ddechrau trwy weithio gydag artistiaid Du, Asiaidd a rhai o gefndiroedd ethnig amrywiol – sydd yn y gorffennol wedi cael eu tangynrychioli yn y diwydiant – bydd New Directions yn rhoi llais newydd a pherchnogaeth newydd i opera, tra ar yr un pryd yn ei dathlu fel ffurf gelfyddydol amlddisgyblaethol a chyfoes.
Gellir dod o hyd i holl ddarnau’r rhaglen NEW DIRECTIONS trwy fynd i musictheatre.wales