Mae Violet gan Music Theatre Wales wedi’i enwebu ar gyfer Gwobr Theatr y DU

Mae cynhyrchiad Music Theatre Wales a Britten Pears Arts o Violet wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Theatr y DU. Wedi’i gyfansoddi gan Tom Coult gyda libretto gan Alice Birch, cafodd y cynhyrchiad ei ohirio yn sgil y pandemig COVID-19, ond pan gyrhaeddodd y llwyfan o’r diwedd derbyniodd adolygiadau gwych gan y wasg ledled y DU. Cafodd ei enwi yn The Telegraph fel “the best new British Opera in years” ac yn The Stage galwyd ef yn “accomplished and fascinating new work”.

Wrth gyfeirio at yr enwebiad, dywedodd Cyfarwyddwr Music Theatre Wales, Michael McCarthy, “Rydym wrth ein bodd bod Violet wedi cael ei gydnabod a’i enwebu ar gyfer y categori Cyflawniad Mewn Opera. Mae e’n ddarn rhyfeddol, a phrofiad cyffrous iawn oedd gallu dod ag e’n fyw ar ôl wynebu cynifer o heriau a chyda thîm mor wych.”

Mae Violet yn un o ddau gynhyrchiad o Gymru i dderbyn enwebiad yng Ngwobrau Theatr y DU 2022. Y cwmnïau eraill a enwebwyd yn y categori ‘Cyflawniadau Mewn Opera’ yw Glyndebourne, Opera North a Scottish Opera.

Roedd Violet yn gyd-gynhyrchiad gan Music Theatre Wales a Britten Pears Arts ar gyfer Gŵyl Aldeburgh, a chafodd ei greu mewn cysylltiad â’r London Sinfonietta.

Comisiynwyd yr opera gan Music Theatre Wales a Britten Pears Arts mewn cysylltiad â Theatr Ulm.

Cynhelir y seremoni wobrwyo yn Llundain ddydd Sul 23 Hydref.