Bydd Music Theatre Wales a'r Royal Opera yn mynd ar daith gyda The Intelligence Park gan Gerald Barry

Bydd Music Theatre Wales a’r Royal Opera yn teithio’r DU yr hydref hwn gyda chyd-gynhyrchiad o opera gyntaf Gerald Barry, The Intelligence Park , gyda’r libretto gan Vincent Deane.

Bydd y cynhyrchiad yn cael ei gyfarwyddo a’i gynllunio gan Nigel Lowery, cyfarwyddwr o’r DU. Cynhelir y perfformiad cyntaf/agoriadol o The Intelligence Park yn y Linbury Theatre, Royal Opera House, Llundain ar 25 Medi, gyda pherfformiadau pellach yn y lleoliad hwnnw hyd 4 Hydref. Yna bydd y cynhyrchiad yn teithio i Gaerdydd (Theatr y Sherman ar 8 Hydref), Manceinion (RNCM ar 12 Hydref) a Birmingham (The Rep ar 4 Tachwedd).

Cyflwynir yr holl berfformiadau gyda’r London Sinfonietta, cwmni cysylltiol Music Theatre Wales, gyda Jessica Cottis yn arwain, heblaw am y perfformiad yn Birmingham, lle bydd Tim Anderson yn cymryd y baton. Bydd y cynhyrchiad yn cael ei ganu yn Saesneg.

The Intelligence Park

Cafodd opera gyntaf Gerald Barry, The Intelligence Park, ei chomisiynu gan yr ICA; perfformiwyd hi am y tro cyntaf yn 1990 yng Ngŵyl Almeida, ond nid yw wedi cael ei llwyfannu ers hynny. Mae’r opera wedi ei gosod yn Nulyn, a’r flwyddyn yw 1753. Mae gwaith cyfansoddwr opera rhwystredig a thlawd yn mynd o chwith wrth iddo gwympo am ei brif ganwr castrato – ond yna mae’r castrato yn rhedeg i ffwrdd gyda dyweddi gyfoethog y cyfansoddwr, gan achosi anhrefn a thrychineb i bawb a phopeth.

Mae operâu Gerald Barry yn fentrus, yn swreal, ac yn aml yn gwneud i chi chwerthin yn uchel. Ffrwydrodd yr opera nerthol hon ar y llwyfan yn Llundain yn 1990, gan gyflwyno llais operatig cwbl newydd i’r byd. Bron i 30 mlynedd yn ddiweddarach, mae cynhyrchiad Baróc newydd a hynod y cyfarwyddwr/cynllunydd Nigel Lowery yn anelu at ailddarganfod ei storfa o emosiynau, cymeriadau ac elfennau absẃrd, gan gymylu’r ffin rhwng dychymyg a realiti wrth iddo archwilio syniadau’n ymwneud â chreadigedd, rhywioldeb a gorfodaeth.

Y Cast

Mae’r cast yn cynnwys Michel de Souza fel Paradies, Adrian Dwyer fel D’Esperaudieu, Rhian Lois fel Jerusha Cramer, Patrick Terry (Jette Parker Young Artist) fel Serafino, Stephanie Marshall fel Faranesi a Stephen Richardson fel Syr Joshua Cramer, gan ailadrodd y rhan a grëwyd ganddo yn 1990.

A hithau’n ddiweddar wedi cael ei nodi fel ‘yr wyneb i’w wylio’ yn y byd clasurol (The Times), treuliodd yr arweinydd Jessica Cottis ei blynyddoedd proffesiynol cynnar fel arweinydd cynorthwyol i Vladimir Ashkenazy gyda’r Sydney Symphony Orchestra. Ers hynny mae ei pherfformiadau wedi cael eu canmol yn gyson yn y wasg genedlaethol a rhyngwladol. Yn dilyn llwyddiant ei hymddangosiad cyntaf yn y Royal Opera House yn 2017, cafodd ei gwahodd yn ôl ar unwaith i arwain y premier byd o The Monstrous Child gan Gavin Higgins. Mae ei dull dynamig, a’i harweiniad, wedi arwain at wahoddiadau i fod yn arweinydd gwadd ar gerddorfeydd megis y London Symphony Orchestra, Los Angeles Philharmonic a’r Houston Symphony Orchestra, i enwi dim ond rhai.

Mae gwaith cynllunio blaenorol y cyfarwyddwr a’r cynllunydd Nigel Lowery yn cynnwys Der Ring Des Nibelungen ar gyfer Covent Garden, Blond Ekbert (ENO), Inquest Of Love (Brwsel) a Giulio Cesare ym Munich. Bu’n cyfarwyddo am y tro cyntaf yng ngŵyl Batignano, a dilynwyd hyn gan Il barbiere di Siviglia ar gyfer y Royal Opera a Hänsel und Gretel ar gyfer Theater Basel. Mae ei gynyrchiadau pellach yn cynnwys Rinaldo, Tito, L’italiana in Algieri ar gyfer Staatsoper yn Berlin, Figaro yn Stuttgart, Candide a Akhnaten yn Antwerp. Gwelwyd ei gynyrchiadau mewn Gwyliau yn Aldeburgh, Barcelona, Berlin a Chaeredin.

Dywedodd Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Artistig Music Theatre Wales:

“Mae hwn yn waith disglair, hynod wreiddiol a rhyfeddol gan un o’r cyfansoddwyr opera mwyaf cyffrous sy’n fyw heddiw. Mae’n anhygoel meddwl nad yw wedi cael ei lwyfannu ers y premier bythgofiadwy hwnnw yng Ngŵyl Almeida yn 1990, a gobeithiaf y bydd yn cael ei gydnabod fel gwaith yr un mor bwysig â Greek gan Turnage a The Killing Flower by Sciarrino. Mae’n brofiad gwefreiddiol i ddod â’r gwaith radical hwn i sylw cynulleidfa newydd, a hynny mewn cynhyrchiad a arweinir gan dîm deinamig – yr arweinydd Jessica Cottis a’r cyfarwyddwr Nigel Lowery – ac mewn cydweithrediad agos â’r Royal Opera.”

Cynhelir sgwrs cyn y perfformiad ym mhob un o’r lleoliadau y tu allan i Lundain, yn cael ei chyflwyno gan Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Artistig Music Theatre Wales; bydd y sgwrs yn rhad ac am ddim i rai sydd â thocynnau.

CYSWLLT Y WASG:

Y Deyrnas Unedig a Chymru ar ran Music Theatre Wales:
Penny James, Swyddog Cyhoeddusrwydd Llawrydd
penny.james@btopenworld.com
07854 114 782

Music Theatre Wales

Music Theatre Wales, sydd a’i bencadlys yng Nghaerdydd, yw’r prif gwmni opera cyfoes yn y DU. Trwy gomisiynu cyfansoddwyr ac awduron eithriadol, datblygu crewyr opera’r dyfodol, a chyflwyno gweithiau gan y cyfansoddwyr cyfoes gorau yn y byd – yn cynnwys Pascal Dusapin, Philip Glass, Harrison Birtwistle, Peter Maxwell Davies, Stuart MacRae, Peter Eötvös, a Philippe Boesmans – mae’r cwmni’n dod ag opera newydd a bywiog i gynulleidfaoedd ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Y Royal Opera

Y Royal Opera, dan gyfarwyddyd artistig Antonio Pappano, y Cyfarwyddwr Cerdd, ac Oliver Mears, y Cyfarwyddwr Opera, yw un o’r prif gwmnïau opera yn y byd. Wedi’i leoli yn theatr eiconig Covent Garden, mae’r cwmni’n enwog am ei berfformiadau eithriadol o opera draddodiadol, ac am gomisiynu gweithiau newydd gan y prif gyfansoddwyr opera cyfoes, megis Harrison Birtwistle, Mark-Anthony Turnage a Thomas Adès.

London Sinfonietta

Nod y London Sinfonietta yw gosod y gerddoriaeth gyfoes orau wrth galon diwylliant ein cyfnod; ymgysylltu â’r cyhoedd, a’u herio trwy gyflwyno perfformiadau ysbrydoledig o’r safon uchaf, a chymryd risg wrth ddatblygu gwaith a thalent newydd. Sefydlwyd yr ensemble yn 1968, ac mae ei ymrwymiad i gerddoriaeth newydd wedi arwain at gomisiynu 400 o weithiau, a chyflwyno perfformiadau premier o gannoedd o weithiau eraill. Fel cwmni preswyl yng Nghanolfan y Southbank, ac Artistiaid Cysylltiol yn Kings Place, gyda rhaglen brysur o deithio ledled y DU a thramor, mae ei grŵp craidd o un ar bymtheg o Brif Chwaraewyr yn cynrychioli rhai o’r cerddorion gorau yn y byd, yn unawdwyr ac yn chwaraewyr ensemble.

Dyddiadau’r Daith:

  • 25 Medi, Linbury Theatre, Royal Opera House
  • 27 Medi, Linbury Theatre, Royal Opera House
  • 28 Medi, Linbury Theatre, Royal Opera House
  • 1 Hydref, Linbury Theatre, Royal Opera House
  • 2 Hydref, Linbury Theatre, Royal Opera House
  • 4 Hydref, Linbury Theatre, Royal Opera House
  • 8 Hydref, Theatr y Sherman, Caerdydd
  • 12 Hydref, RNCM, Manceinion
  • 4 Tachwedd, Birmingham Repertory Theatre