MTW yn cyflwyno Cyfeiriadau Newydd/New Directions: tri gwaith mentrus newydd, digidol sy’n ailddiffinio Opera

Dan arweiniad y Cysylltai Artistig Elayce Ismail a’r Cyfarwyddwr Michael McCarthy, mae Music Theatre Wales yn cyflwyno Cyfeiriadau Newydd/ New Directions, sef tri chydweithrediad gan artistiaid sy’n newydd i fyd yr opera. Mae Cyfeiriadau Newydd/New Directions yn cyflwyno gweledigaeth eofn sy’n aros yn driw i wreiddiau’r cwmni, tra ar yr un pryd yn ymateb i’r angen am greu opera newydd ar gyfer ein cyfnod ni.

Ers 2019, mae Music Theatre Wales wedi bod yn adolygu eu gwaith a’u proses greadigol. Mae Cyfeiriadau Newydd/New Directions yn gyfle i gwestiynu beth yw opera, a beth y dylai fod, trwy gomisiynu a gweithio gydag artistiaid sydd hyd yma wedi cael eu diystyru neu eu heithrio rhag creu opera. Mae’r straeon eu hunain, sut mae gwaith yn cael ei greu, y gerddoriaeth a’r cynulleidfaoedd sy’n cael eu gwahodd i gael profiad o opera, i gyd wedi cael eu hailddiffinio drwy dri chydweithrediad newydd.

Daeth yr awdur, cyfansoddwr a pherfformiwr Tumi Williams, a’r cyfarwyddwr a’r dramatwrg aml-ddisgyblaethol Sita Thomas, at ei gilydd i gydweithio ar , sy’n archwilio ac ymestyn ffurf yr opera. Mae’r stori’n sôn am Adeola, cogydd dawnus sy’n cyflwyno’i steil a’i bryd arbenigol – jollof figan – i greu argraff ar Asha, bòs caffi cyfagos sy’n gweithio’n galed ac yn teimlo’n flinedig.

Dywedodd Tumi Williams: “Rhoddodd y prosiect hwn ryddid i mi weithio gydag opera, ac i wneud hynny mewn ffordd y gallwn i weithio gyda’r maes; ro’n i’n awyddus i bontio traddodiadau’r opera a dod â’m diwylliant fy hun i mewn i’r cyd-destun hwnnw. Roedd creu’r gwaith hwn gyda Sita yn brofiad heriol oherwydd ei fod yn fy nghynrychioli i, a do’n i ddim yn siŵr a fyddai’n rhywbeth y byddai pobl am ei weld. Llwyddodd Sita a fi i gydweithio’n dda i greu’r darn hwn, ac mae’r broses greadigol hon wedi fy ngwthio; yn ogystal, roedd yn brofiad newydd a diddorol i gynnal deialog gyda chantores opera.”

Cafodd Pride (A Lion's Roar) ei greu gan y cyfansoddwr a’r cynhyrchydd cerddoriaeth Renell Shaw, a’r artist a’r awdur Rachael Young, gyda’r elfennau gweledol gan Kyle Legall. Mae Pride (A Lion's Roar) yn adrodd am y profiad o ragfarn mae llawer o bobl croenliw wedi ei ddioddef: cael eich cyhuddo o fod yn ‘rhy ymosodol’ neu’n ‘rhy swnllyd’ oherwydd bod eich rhuo trosiadol yn anghyfarwydd yn yr amgylcheddau rydych yn gorfod gweithredu o’u mewn. Cael eich gwneud i deimlo fel petai raid i chi wneud eich hun yn llai er mwyn cael eich derbyn, gan droi eich rhu yn ganu grwndi fel nad yw pobl eraill yn teimlo eu bod dan fygythiad.

Dywedodd Rachael Young: “Do’n i erioed wedi bod yn gwylio opera oherwydd ei fod wastad yn rhy ddrud, ond pan welwn rywbeth ar-lein byddwn yn teimlo bod y raddfa a’r iaith weledol yn rhoi ysbrydoliaeth i mi. Felly roedd gen i syniad o opera, ac rwyf wrth fy modd gyda’r ffordd mae’r llais yn llenwi’r gofod. Gyda lleisiau epig a golygfeydd epig ro’n i’n awyddus i symud opera i le gwahanol, fel nofel graffig. Ro’n i’n mynd i’r afael â genre newydd, a bu’r pandemig yn gyfrwng i agor drysau ar bethau newydd lle gallwn fod yn fwy arbrofol ar draws y gwahanol ffurfiau. Roedd y cydweithrediad gyda Renell yn wych. O’r camau cynnar fe ddaeth thema i’r amlwg, ac roeddem yn gallu rhannu’r gwaith o ddatblygu’r geiriau a’r gerddoriaeth gyda’n gilydd.”

Dywedodd Renell Shaw: “Rwy’n teimlo’n gyffrous ynghylch dulliau newydd o asio genres cerddorol a mynegi naratif. Mae cantorion opera yn bwerus a deinamig mewn ffordd sy’n perthyn yn benodol i’w genre; mae’r syniad o gymryd y sain honno a’i gosod yn barchus mewn byd lle na fyddai fel arfer yn cael ei chlywed yn cynnig posibiliadau dirifedi i mi.”

Gan adlewyrchu ar ffurfiau a gofodau newydd y gall theatr gerddoriaeth fodoli o’u mewn, mae’r awdur a’r ddawnswraig Krystal S. Lowe, a’r cyfansoddwr Jasmin Kent Rodgman, wedi creu gwaith sy’n defnyddio elfennau a dynnwyd o theatr opera, yr emosiwn a’r mynegiant sy’n perthyn i lieder, a natur gynhenid byd y ddawns. Mae Somehow yn archwiliad o agosatrwydd a pherthnasoedd, nid yn unig rhwng y gerddoriaeth a’r symudiadau, ond rhwng y perfformiwr a’r gynulleidfa, gan gymylu’r llinellau rhwng yr hyn sydd ar y llwyfan ac ar y sgrin. Mae Somehow yn cynnig profiad operatig sydd wedi’i ailddiffinio ac yn ymgorffori’r ffordd rydyn ni’n byw heddiw, a’n cysylltiadau gyda’n gilydd.

Dywedodd Krystal S. Lowe: “Gyda Somehow do’n i ddim yn awyddus i geisio llywio’r gynulleidfa i ddealltwriaeth o’r ystyr, ond yn hytrach i gynnig cerddoriaeth, symudiadau a llais, gan eu galluogi i gysylltu â’r cymeriad a llunio eu naratif eu hunain. Fel awdur a dawnswraig sy’n datblygu fy ymarfer sain-ddisgrifio fy hun, ro’n i’n awyddus i lunio sain-ddisgrifiad sy’n denu cynulleidfaoedd i ofod agos-atoch nad yw’n rhy llawn ond yn hytrach yn gadael lle i adlewyrchu. Ysbrydolwyd y testun ar gyfer y gwaith hwn gan berthnasoedd yn fy mywyd i, yn cynnwys fy mherthynas â mi fy hun. Y teimlad hwnnw o gael eich adnabod a’ch deall yn llwyr; cysylltu â pherson neu fersiwn o’r hunan. Rhoddodd Elayce a Michael y gofod, yr adnoddau a’r amser i ni wneud y gwaith hwn fel rhan o raglen sy’n greiddiol i weledigaeth MTW ar gyfer eu cwmni – ac mae’n teimlo’n hanfodol, yn ddilys ac yn arloesol.”

Dywedodd Elayce Ismail, Cysylltai Artistig, Music Theatre Wales: “Mae yna gynifer o rwystrau i weithio ym myd yr opera, ac i gael mynediad ato fel aelod o’r gynulleidfa – o’r ddirnadaeth o’r hyn yw’r ffurf gelfyddydol, ac i bwy y bwriadwyd hi, hyd at fynediad at hyfforddiant. Bwriad Cyfeiriadau Newydd/New Directions yw mynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau hyn ac adfywio’r hyn y gall opera fod, pwy sy’n ei greu ac ar gyfer pwy. Mae opera’n ffurf gelfyddydol mor ddeinamig, ac mae ganddo’r gallu i daro tant gyda chynulleidfaoedd cyfoes, ond i wneud hynny mae arno angen artistiaid newydd a syniadau newydd i’w adfywio, ei herio a’i ddatblygu. Ar gyfer Cyfeiriadau Newydd/New Directions rydym wedi tynnu at ei gilydd dri phâr disglair o gydweithredwyr, pob un ohonynt yn dod â gwahanol ymarferion creadigol i’r gymysgedd, ac yn cyfrannu’n hael a chwilfrydig i’n trafodaethau ynghylch potensial opera. Bu’n hyfryd gweld sut mae pob un o’n crëwyr wedi cofleidio’r her honno, ynghyd â’r elfen ychwanegol o greu gwaith rhithwir ar gyfer cynulleidfaoedd digidol, i greu tri gwaith operatig newydd sy’n unigryw ac yn ysgogol.”

Dywedodd Michael McCarthy, Cyfarwyddwr, Music Theatre Wales: “Mae MTW wedi bod yn rym nerthol dros newid a datblygiad ym myd yr opera yn y DU. Yn 1988, aethom ati i roi tipyn o gic i faes yr opera, gan gwestiynu’r modd roedd yn cael ei lunio, a sut roedd yn cael ei gynhyrchu a’i ddirnad. Gwyddem fod gan opera ar raddfa lai y capasiti i ddarparu profiadau rhyfeddol a chofiadwy, wedi eu creu gan artistiaid cyfoes mewn modd oedd yn ystyrlon ac yn heriol ar yr un pryd – yn gerddorol ac yn ddramategol. Aethom ymlaen i rannu’r gwaith hwn gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru, y DU a thu hwnt, gan ddefnyddio teithio fel y brif ffordd o gynnig mynediad. Gyda chynyrchiadau arloesol megis Denis & Katya, The Trial, The Killing Flower a Passion, rydym wedi cyflawni llawer – ond mae’r byd wedi newid, a rhaid i ninnau hefyd newid. Os ydym am gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, ac ysgogi mwy o ddiddordeb yn y broses o greu opera newydd – gyda’r holl bosibiliadau sydd ynghlwm wrth hynny – mae angen i ni weithio gydag artistiaid fydd yn gallu ein harwain i gyfeiriadau newydd ac annisgwyl.”

Bydd y tri darn o waith ar gael i’w gwylio’n rhad ac am ddim ar-lein ar www.musictheatre.wales gyda The Jollof House Party Opera yn cael ei lansio ddydd Gwener 24 Medi, Pride (A Lion’s Roar) ddydd Gwener 8 Hydref, a Somehow ddydd Gwener 22 Hydref.