Music Theatre Wales yn penodi Richard Baker yn Gyfarwyddwr Cerdd Ymgynghorol

Penodwyd Richard Baker yn Gyfarwyddwr Cerdd Ymgynghorol ar y cwmni opera cyfoes, Music Theatre Wales, gan ddechrau ar unwaith.

Mae Richard Baker yn ffigwr amlwg ym myd cerddoriaeth gyfoes Brydeinig, fel arweinydd ac fel cyfansoddwr, a gwnaeth gryn argraff ar y cwmni ac ar gynulleidfaoedd pan arweiniodd daith diweddar opera  Y Tŵr  gan Guto Puw, mewn cyd-gynhyrchiad rhwng Music Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru.

Bydd yn gweithio’n agos gyda Chyfarwyddwr Artistig y cwmni, Michael McCarthy, wrth ddethol rhaglen y dyfodol a bydd yn cyd-drefnu gyda’r cwmni’n reolaidd ynglŷn â phob agwedd artistig yn ogystal â chynrychioli’r cwmni ar y sail fwyaf eang posib. Bydd hefyd yn arwain rhai o gynhyrchiadau’r cwmni yn y dyfodol, er bydd Music Theatre Wales yn parhau gyda’i arfer diweddar a llwyddianus o benodi arweinwyr ar gyfer pob opera unigol.

Ganwyd Richard yn Dudley, ynhg Nghanolbarth Gorllewinol Lloegr ac fe’i fagwyd yn swydd Amwythig. Mae’n byw nawr yn Nhregaron yng Ngheredigion wedi iddo ail-leoliyno o Berlin ychydig dros bum mlyned yn ôl. Gan fod Cymru’n grtref newydd iddo, mae Richard wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pedair mlynedd yn y Brifygol yn Aberystwyth.

Wrth groesawi penodiad Richard Baker, fe ddywedodd Michael McCarthy:

"Rwy’n arbennig o bles fod Richard wedi derbyn ein gwahoddiad i ymuno â Music Theatre Wales fel Cyfarwyddwr Cerdd Yngynghorol, a gwyddaf y bydd yn rhoi mewnbwn gwerthfawr i fywyd cerddorol y cwmni. Bu’n gydweithiwr rhagorol tra’n arweinydd ar ein cynhyrchiad diweddaraf, Y Tŵr gan Guto Puw, ac mae ei wybodaeth o gerddoriaeth gyfoes ac opera newydd heb ei ail.
"Daw ag enw da a chryf am arwain operau newydd a chefnogi datblygiad egin-gyfansoddwyr opera, ond hefyd yn rhinwedd ei swydd fel cyfansoddwr, mae’n artist hynod o ymroddgar a hael. Mae’n digwydd byw yng Nghymru hefyd! Edrychaf ymalen yn fawr at gael gweithio gyda Richard er mwyn cymryd MTW i mewn i gyfnod o weithgarwch newydd."

Ymatebodd Richard Baker:

“Mae cael ymgymryd â’r swydd hon gyda chwmni rwyf wedi ei hedmygu ers fy mod yn fyfyriwr. yn rhoi cymaint o wefr i fi. Mae gan Music Theatre Wales hanes helaeth o gynhyrchu a chomisynu gwaith gan rai o’r ffigurau rhyngwladol mwyaf arwyddocaol yn ogystal â datblygu gwaith gyda chyfansoddwyr sydd yn newydd i’r ffurf. Rwyf wedi fy nghyffroi gan y cyfle yma i adeiladu ar ben y gwaddol hwn yn ystod y blynydoedd nesaf ac edrychaf ymlaen at gael gweithio gyda Michael a’r tîm ar gyflwyno’r gwaith newydd gprau i gynulleidfaoedd yng Nghymru, ar draws y DG ac yn rhyngwladol, ar adeg o greadigrwydd rhyfeddol yn y ffurf gelfyddydol.”

CYSWLLT Y WASG AR GYFER Music Theatre Wales:

Cymru
Penny James
penny.james@btopenworld.com
07854 114782

Y DG
Faith Wilson
faith@faithwilsonartspublicity.com
07941 137453

Richard Baker - Cyfansoddwr/Arweinydd

Mae Richard Baker yn un o brif ffigurau cerddoriaeth gyfoes Brydeinig ac wedi profi llwyddiant fel cyfansoddwr a fel arweinydd.

Ganwyd Richard Baker yn 1972 ac fe gafodd ei addysg gerddorol gyntaf fel aelod o Gôr Eglwys Gadeiriol Lichfield. Weid iddo astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Exeter, Rhydychen, cafodd Ysgoloriaeth Llywodraeth yr Iseldiroedd i astudio gyda Louis Andriessen yng Ngholeg Cerddoriaeth yn yr Haag. Wedi iddo ddychwelyd, cwblhaodd ddoethuriaeth gyda John Woolrich yng Ngholeg y Royal Holloway, Prifysgol Llundain. Mae Richard yn Athro Cyfansoddi yng Ngholeg Cerdd a Drama’r Guildhall.

Wrth greu swydd Cymrawd Cerddoriaeth Newydd yn Kettle’s Yard, Caergrawnt (2001-2003), cychwynwyd ar ddarn pwysig o waith fel curadur cyngherddau ac ymgynghorydd rhaglenni yn ogystal â chegnofi gwaith Richard fel cyfansoddwr.

Fel cyfansoddwr, mae Richard yn gweithio’n rheolaidd gyda chyfansoddwyr mwyaf blaengar heddiw. Ym mis Mai 2011, fe arweiniodd opera Gerald Barry, The Intelligence Park yn Nulyn, gan dderbyn canmoliaeth uchel. Yn ystod hydref 2012 fe arweiniodd gynhyrchiad canmoladwy English Touring Opera o The Lighthouse gan Maxwell Davies ac yn ystod gwanwyn 2013 dychwelodd at Gerald Barry ar gyfer sioe ddwbl Badisches Staatstheater Karlsruhe o waith Handel, Gorchest Amser a Gwirionedd a Gorchest Prydferthwch a Thwyll gan Barry. Fe wnaeth ei ymddangosiadau cyntaf gyda Cherddorfa Simffoni BBC yr Alban a Cherddorfa Genedlaethol BBC Cymru, gan ychwanegu at ei berthynas cyfredol â gwahnol ensemblau gan gynnwys the London Sinfonietta, BCMG, Britten Sinfonia, Composers Ensemble ac Apartment House. Mae wedi arwain ynhg Ngŵyl Huddersfield ac yn Ultraschall yn Berlin, ac mae’n gydweithiwr rheolaidd ar gyfer Dyddiau Trochi y BBC, lle bu’n arwain cyngherddau portread o Stockhausen, George Crumb, James MacMillan, Jonathan Harvey ac yn fwyaf diweddar o Oliver Knussen. Ym Mis Mawrth 2014 arweiniodd sioe ddwbl o weithiau newydd gan Francisco Coll ac Elspeth Brooke yn Aldeburgh, the Linbury Studio (Royal Opera House) ac Opera North. Cafodd ei wahodd yn ôl ar unwaith ar gyfer cynhyrchiad Mis Mawrth 2015 o The Virtues of Things gan Matt Rogers. Ym mis Mai 2016, arweiniodd gynhyrchiad clodwiw Linbury o 4:48 Psychosis gan Phil Venables, yn seiliedig ar ddrama Sarah Kane ac a gaiff ei atgyfodi’r tymor nesaf. Yn 2016/17 fe berfformiod am y tro cyntaf gyda Music Theatre Wales mewn cynhyrchiad newydd gan Guto Puw a gafodd lawer o ganmoliaeth, sef Y Twr.

Perfformiwyd cyfansoddiadau Richard Baker gan y London Sinfonietta, BCMG, Britten Sinfonia, the Composers Ensemble, the Brunel Ensemble a the BBC Singers ymhlith nifer o rai eraill.

Music Theatre Wales

Cwmni Opera cyfoes mwyaf blaengar y Deyrnas Gyfunol yw Music Theatre Wales a mae wedi ei leoli yng Nghaerdydd, Drwy gomisiynu cyfansoddwyr ac awduron rhagorol, datblygu’r bobl fydd yn creu operau y dyfodol a chyflwyno gweithiau gan gyfansoddwyr cyfoes mwyaf pwysig y byd – gan gynnwys Harrison Birtwistle, Peter Maxwell Davies, Philip Glass, Michael Tippett, Peter Eötvös, Philippe Boesmans – daw’r cwmni ag opera newydd, cynhyrfus a bywiog i gynulleidfaoedd ar draws Cymru, y DG ac yn ryngwladol.

Ers 1988 mae MTW wedi creu dros 30 o gynhyrchiadau a wedi cyflwyno 15 premiere byd. Mae gan y cwmni raglen sefydledig o helpu i feithrin cyfansoddwyr opera newydd ac mae wedi creu cynhyrchiadau gydag ystod eang o bartneriaid gan gynnwys Opera National du Rhin yn Strasbwrg, Gŵyl Berlin, Opera Vest yn Norwy, Canolfan Banff yng Nghanada, Theatr Brycheiniog yn Aberonddu, Haarlem Theatre yn yr Iseldiroedd, Treffpunkt yn Stuttgart, Theater Magdeburg yn yr Almaen, Scottish Opera a’r Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden.

Cafodd cynhyrchiad MTW o Greek gan Mark-Anthony Turnage wobr Gorchest Neilltuol mewn Opera yng Ngwobrau Theatr TMA 2011 ac ym mis Mawrth 2013, enillodd Ghost Patrol gan Stuart MacRae a Louise Welsh Wobr Celfyddydau Sky y South Bank am opera, fel rhan o sioe ddwbl gyda In the Locked Room gan Huw Watkins, ac fe gafodd ei enwebu am wobr Olivier am Orchest Neiltuol Mewn Opera (cyd-gynhyrchiad gyda Scottish Opera). Cafodd y Cyfarwyddwr Artistig, Michael McCarthy y wobr am y Cyfarwyddwr Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru 2015 am ei gynhyrchiad o The Trial gan Philip Glass, ac fe gafodd cyd-sefydlwyr MTW – Michael McCarthy a Michael Rafferty – anrhydeddau MBE yn Rhestr Flwyddyn Newydd y Frenhines yn 2016.

Cafodd MTW ei recordio ar CD a’i ddarlledu ar BBC Radio 3, ac fe gafodd nifer o’i chynhyrchiadau eu cymryd ar deithiau rhyngwladol. Ym Mis Ebrill 2017, cafodd The Golden Dragon gan Peter Eötvös ei gyflwyno gan Ŵyl Cerddoriaeth Rhyngwladol Tongyeong yn Ne Corea a bydd yn teithio’r DG yn yr hydref eleni. Ym mis Mehefin, cafodd The Trial ei ddangosiad cyntaf yn yr UDA yn Theatr Opera St Louis yng Nghynhyrchiad Michael McCarthy. http://musictheatre.wales/