Cyhoeddwyd ar 19/04/18

Gan Music Theatre Wales

 

Newyddion Oddi Wrth Music Theatre Wales

Penodi Cadeirydd Newydd i Fwrdd Music Theatre Wales

Mae Music Theatre Wales, cwmni mwyaf blaenllaw y DU ym maes opera gyfoes, wedi penodi Cadeirydd newydd.

Bydd Christine Bradwell yn ymgymryd â’r swydd wirfoddol hon yn ddi-oed, gan olynu Geraint Davies CBE, sydd wedi sefyll o’r neilltu ar ôl un mlynedd ar ddeg fel Cadeirydd.

Mae Christine wedi cael gyrfa faith a disglair ym myd y celfyddydau. Ar ddiwedd y mis hwn bydd yn ymddeol o’i swydd fel Prif Weithredwr Anvil Arts, Basingstoke, lle bu’n gyfrifol am oruchwylio’r sefydliad celfyddydol mwyaf yn Swydd Hampshire, gan redeg The Anvil, The Haymarket a The Forge.

Mae ei chysylltiad â gwaith Music Theatre Wales, a’i hangerdd drosto, wedi datblygu trwy gysylltiad artistig hirhoedlog y cwmni â The Anvil. Ym mis Hydref eleni, bydd The Anvil yn gartref i gynhyrchiad nesaf Music Theatre Wales, sef y perfformiad cyntaf yn y DU o PASSION, opera ddawns gan y cyfansoddwr o Ffrancwr, Pascal Dusapin. Caiff Music Theatre Wales ei gydnabod fel grym hollbwysig ym maes opera yn y DU, gan gyflwyno gwaith newydd ar raddfa agos-atoch, a hwnnw’n feiddgar, yn gyffrous ac yn wahanol, ac yn cael ei nodweddu gan yr effaith bwerus a gaiff ar gynulleidfaoedd ac artistiaid fel ei gilydd.

Yn ogystal â’r profiad eang sydd ganddi fel Ymddiriedolwr a Chadeirydd Bwrdd, mae swyddi blaenorol Christine yn cynnwys Cyfarwyddwr Drama a Dawns gyda’r Cyngor Prydeinig. Yn ei rôl fel Cadeirydd Music Theatre Wales, fe fydd hi’n gweithio’n agos gyda’r Prif Weithredwr tra ar yr un pryd yn rhoi arweiniad i’r Bwrdd i’w alluogi i reoli’r cwmni mewn dull effeithiol. Swydd am dair blynedd yw hi, gyda chyfle i ymestyn y cyfnod am dair blynedd ychwanegol.

Dywedodd Christine Bradwell:

‘Pleser o’r mwyaf, ac anrhydedd hefyd, yw cael fy mhenodi’n Gadeirydd Music Theatre Wales. Mae’n gwmni rwyf wedi ei edymgu ers blynyddoedd lawer, a hynny am y gwaith maent wedi’i greu a’u dull o weithredu. Ers cyfnod maith, mae Music Theatre Wales wedi bod yn batrwm o ran uchelgais artistig, gan gyflwyno perfformiadau o’r safon uchaf, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda hwy wrth iddynt barhau i esblygu a herio’r ddirnadaeth o’r hyn y gall opera a theatr gerdd fod.’

Dywedodd Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Artistig MTW:

‘Rydw i wrth fy modd fod Christine yn ymuno â ni fel Cadeirydd MTW. Mae hi’n gyfarwydd â’n gwaith, ac yn gefnogol iddo, fyth ers i ni berfformio yn The Anvil am y tro cyntaf yn 1998 gyda “Punch and Judy”; yn ogystal, mae hi bob amser yn eiriolwr brwd dros ein gwaith ac yn gyfaill da i’r cwmni. Fe ddaw â chyfoeth o sgiliau artistig a sgiliau ym maes rheoli’r celfyddydau i’r cwmni, a da gwybod y bydd hi hefyd yn ailgysylltu â Chaerdydd a Chymru ers ei chyfnod blaenorol o berfformio gyda Moving Being.’

Am ragor o wybodaeth am Music Theatre Wales, ewch i musictheatrewales.org.uk

CYSWLLT Y WASG:

Cymru a’r Deyrnas Unedig:
Penny James, Swyddog Cyhoeddusrwydd Llawrydd
penny.james@btopenworld.com
07854 114 782

Music Theatre Wales

Wedi ei leoli yng Nghaerdydd, Music Theatre Wales yw prif gwmni opera cyfoes y DU. Trwy gomisiynu cyfansoddwyr ac awduron eithriadol, datblygu’r rhai fydd yn creu opera yn y dyfodol, a chyflwyno gweithiau gan brif gyfansoddwyr cyfoes y byd – yn cynnwys Harrison Birtwistle, Peter Maxwell Davies, Philip Glass, Michael Tippett, Peter Eötvös a Philippe Boesmans – daw’r cwmni ag opera newydd, fywiog i gynulleidfaoedd ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Er 1988, mae MTW wedi creu dros 30 o gynyrchiadau ac wedi cyflwyno 15 premiere byd. Mae gan y cwmni raglen sefydledig i helpu i feithrin cyfansoddwyr newydd ym myd yr opera, ac y mae wedi creu cynyrchiadau ar y cyd ag ystod eang o bartneriaid, yn cynnwys Opera National du Rhin yn Strasbourg, Gŵyl Berlin, Opera Vest yn Norwy, Banff Centre yng Nghanada, Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu, Haarlem Theatre yn yr Iseldiroedd, Treffpunkt yn Stuttgart, Theater Magdeburg yn yr Almaen, Scottish Opera, a’r Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden.

Enillodd cynhyrchiad MTW o Greek gan Mark-Anthony Turnage wobr am Lwyddiant Eithriadol mewn Opera yng Ngwobrau Theatr TMA 2011; ym mis Mawrth 2013, enillodd Ghost Patrol gan Stuart MacRae a Louise Welsh y South Bank Sky Arts Award am opera ac, fel rhan o raglen ddwbl gydag In the Locked Room gan Huw Watkins, cafodd ei enwebu am wobr Olivier am lwyddiant eithriadol mewn opera (cyd-gynhyrchiad gyda Scottish Opera). Enillodd y Cyfarwyddwr Artistig Michael McCarthy wobr am y Cyfarwyddwr Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru 2015 am ei gynhyrchiad o waith Philip Glass, The Trial, a chyflwynwyd MBE i gyd-sylfaenwyr MTW – Michael McCarthy a Michael Rafferty – yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines, 2016.

Recordiwyd gweithiau MTW ar CD a’u darlledu ar BBC Radio 3, ac mae nifer o’i gynyrchiadau wedi teithio’n rhyngwladol. Ym mis Ebrill 2017, cyflwynwyd The Golden Dragon gan Peter Eötvös yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Tongyeong, De Corea, a bu’r cynhyrchiad ar daith yn y DU yn nhymor yr hydref 2017. Ym mis Mehefin 2017, cafodd The Trial ei berfformiad cyntaf yn yr Unol Daleithiau yn yr Opera Theatre St Louis yng nghynhyrchiad Michael McCarthy. Cyhoeddwyd CD Music Theatre Wales o The Trial ym mis Rhagfyr 2017.