Cyhoeddwyd ar 25/04/24

 

Nodau Newydd: Rhaglen Crewyr Cerddoriaeth Ifanc RhCT

Mae MTW a Sinfonia Cymru yn cydweithio i gynnig cyfle creadigol cyffrous i bobl ifanc rhwng 14 a 18 oed, sy'n byw neu'n mynychu ysgol yn RhCT, i gyfansoddi eu cerddoriaeth wreiddiol eu hunain a'i chlywed yn cael ei pherfformio'n fyw.

  • A ydych chi'n arweinydd cwrs, athro cerddoriaeth neu ddarparwr cerddoriaeth i bobl ifanc?
  • A ydych chi'n chwilio am gyfle cerddorol cyffrous a chreadigol ar gyfer y bobl ifanc rydych chi'n eu cefnogi?
  • A allwch chi gydweithio â ni i deilwra rhaglen sy'n meithrin a datblygu eu sgiliau cerddorol a'u brwdfrydedd?

Ymunwch â ni am weithdy blasu yn Y Parc a’r Dâr ar ddydd Iau, 3ydd o Hydref. Dewch â'ch cerddorion ifanc, dewch i adnabod MTW a Sinfonia Cymru, a chlywch bopeth am yr hyn y gall y rhaglen hon ei gynnig.

Bydd 6 o grewyr cerddoriaeth ifanc yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn rhaglen ddatblygu wedi'i theilwra gan weithio gyda mentor – y cyfansoddwr Cymreig Luke Lewis (Darlithydd mewn Cerddoriaeth yng Ngholeg Newydd, Prifysgol Rhydychen) – i greu darn byr gwreiddiol. Ar hyd y broses, bydd gwneuthurwyr cerdd ifanc yn datblygu eu syniadau gyda cherddorion, yn archwilio offerynnau cerddorfaol, yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol y diwydiant ac yn adeiladu eu rhwydweithiau a'u sgiliau ehangach.

Uchafbwynt y rhaglen bydd perfformiad o'r gweithiau newydd gan Sinfonia Cymru yn Y Parc a’r Dâr. Byddwn yn darparu 4 cerddor; ffidil, fiola, soddgrwth a chlarinét/clarinét fas. Dylai'r gweithiau fod ar gyfer o leiaf 3 o'r offerynnau hyn, yn para uchafswm o 5 munud.

Mae'r rhaglen wedi'i lunio gyda gofynion cwricwlwm a gydag amserlenni gwaith cwrs mewn golwg. Darperir recordiad o ansawdd uchel o waith pob crëwr cerddoriaeth hefyd ar gyfer cyflwyniadau a phortffolios. Nid yw'r cyfle hwn ar gael i fyfyrwyr cerddoriaeth TGAU a Safon Uwch yn unig – rydym yn awyddus i weithio gydag unrhyw berson ifanc sy'n dangos dawn a brwdfrydedd go iawn dros greu cerddoriaeth.

Mae hwn yn gyfle rhad am ddim a ni fydd unrhyw gost am gymryd rhan ar unrhyw gam o'r rhaglen.


AMSERLEN Y RHAGLEN

Dydd Iau 3 Hydref 2024 – Gweithdy Blasu - Stwdio 1, Theatr Y Parc a’r Dâr

  • Dewch i gyfarfod â Luke Lewis, MTW a Sinfonia Cymru. Byddwn yn trafod y rhaglen ac yn cyflwyno'r offerynnau y bydd y cyfansoddwyr ifanc yn ysgrifennu ar eu cyfer. Byddwn hefyd yn egluro’r hyn bydd angen i’r cyfansoddwyr ei baratoi os ydynt am wneud cais i fod yn rhan o'r rhaglen, a'r hyn y bydd angen i chi (fel eu harweinydd cwrs / athrawon / darparwyr creadigol) ei wneud i'n helpu i hwyluso pob llwybr rhaglen unigryw. Bydd y sesiwn hon yn digwydd yn ystod oriau ysgol i annog grwpiau ysgol i fynychu.

Dydd Gwener 29 Tachwedd 2024 – Dyddiad Cau Cyflwyno

  • Bydd unrhyw un sydd â diddordeb gwneud cais yn cael eu gofyn i gyflwyno gwybodaeth sylfaenol iawn amdanyn nhw a'u profiad o greu cerddoriaeth hyd yma, a disgrifiad byr o'r gwaith yr hoffent ei greu. Bydd hyd at 6 o grewyr cerdd ifanc yn cael eu dewis i gymryd rhan yn y rhaglen.

Rhagfyr 2024 – Ebrill 2025

  • Bydd y crewyr cerdd ifanc a ddewiswyd yn cael cynnig sesiynau arlein ac wyneb yn wyneb gyda Luke Lewis i gefnogi datblygiad eu gweithiau. Bydd hyn mewn cydweithrediad ag arweinwyr cwrs / athrawon / darparwyr creadigol.

Dydd Iau 8 Mai 2025 – Chwarae drwodd a recordio - Stwdio 1, Theatr Y Parc a’r Dâr

  • Bydd darnau gorffenedig y crewyr cerdd yn cael eu hymarfer gan Sinfonia Cymru. Bydd pob darn yn cael ei recordio a’u rhoi i'r crewyr cerdd ar gyfer eu defnydd eu hunain (gan gynnwys cyflwyniadau TGAU a Safon Uwch, os oes angen). Bydd y sesiwn hon yn digwydd yn ystod oriau ysgol i annog grwpiau ysgol i fynychu.

Dydd Iau 11 Medi 2025 – Perfformiad cyhoeddus – Prif awditoriwm, Thea tr Y Parc a’r Dâr

  • Bydd gweithiau'r crewyr cerdd yn cael eu perfformio gan Sinfonia Cymru fel rhan o ddigwyddiad MTW.

PWY ALL WNEUD CAIS

Mae'r cyfle yn agored i bob person ifanc sydd â diddordeb mewn creu cerddoriaeth newydd, waeth beth fo'u profiad, cyn belled â'u bod yn bodloni'r meini prawf canlynol:

  • 14 i 18 oed
  • Byw, neu'n mynychu ysgol, yn Rhondda Cynon Taf

Nid yw sgiliau nodiant cerddorol yn hanfodol ac fe fyddwn yn trafod hyn yn fanylach yn y sesiwn flasu ar 3 Hydref 2024.
Rydym eisiau cefnogi'r dychymyg cerddorol mwyaf cyffrous ym mha bynnag arddull o gerddoriaeth rydych chi eisiau ei chreu. Rydym eisiau clywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu cerddoriaeth newydd ac rydym yn annog ymgeiswyr o'r ystod ehangaf o gefndiroedd, gyda sgiliau a phrofiadau gwahanol.


CAMAU NESAF

Os hoffech chi ddod i'r gweithdy blasu ar ddydd Iau 3 Hydref 2024 i ddysgu mwy am Nodau Newydd: Rhaglen Crewyr Cerddoriaeth Ifanc RhCT gan MTW a Sinfonia Cymru, cysylltwch â Kathryn Joyce yn MTW ar kathryn@musictheatre.wales gyda'r wybodaeth ganlynol:

Eich enw
Eich ysgol / grŵp
Faint o bobl ifanc rydych chi'n gobeithio dod â nhw
(byddwn yn gofyn am gadarnhad o niferoedd yn nes at yr amser)

Byddem wrth ein bodd yn clywed erbyn diwedd y tymor haf a oes gennych ddiddordeb mewn dod â grŵp. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu, a bydd gwybodaeth lawn yn cael ei darparu ym mis Medi. I drafod y rhaglen hon yn fwy manwl, neu i sgwrsio drwy unrhyw ofynion mynediad neu gynhwysiant ychwanegol, cysylltwch â Kathryn fel y nodiruchod.


PARTNERIAID Y RHAGLEN

MUSIC.
THEATRE.
WALES.

Mae Music Theatre Wales (MTW) yn ail-ddychmygu opera. Maent eisiau rhoi bywyd newydd i opera fel adrodd straeon drwy gerddoriaeth a'i chyflwyno fel gweithgaredd mynegiannol a hygyrch i bawb. Maent yn meithrin artistiaid a fydd yn creu opera'r dyfodol mewn ffyrdd dychmygus a fydd yn helpu i newid y rhagdybiaethau o beth yw opera, a beth allai opera fod. Maent yn gofyn: Beth yw Opera? Pwy sy'n ei greu? A phwy mae e ar ei gyfer?

SINFONIA CYMRU

Nid cerddorfa arferol yw Sinfonia Cymru. Maent yn darparu’r llwyfannau y mae cerddorion ifanc, eithriadol, proffesiynol yn ei haeddu. Mae llawer o'u chwaraewyr yn cymryd yr awenau ac yn arwain eu prosiectau, gan symud rhwng arddulliau clasurol a modern, yn archwilio eu creadigrwydd ac yn herio normau.

Y peth gorau? Maent yn dod â'r genhedlaeth newydd hon o gerddoriaeth fyw atoch chi. Profiadau cerddorol rhyfeddol, wedi'u cynllunio a'u cyflwyno gan y cerddorion ifanc gorau, ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt.

Mae Luke Lewis yn gyfansoddwr Cymreig, trefnydd, arweinydd ac yn Ddarlithydd mewn Cerddoriaeth yng Ngholeg Newydd, Prifysgol Rhydychen. Yn bennaf yn offerynnol, weithiau electronig, ac ar adegau ill dau, mae ei gerddoriaeth wedi cael ei pherfformio a'i chomisiynu'n rhyngwladol gan ensembleau fel Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Sinfonietta Llundain, Sinfonietta Athelas Copenhagen, Ensemble Esbjerg ac Orkest de Ereprijs. Fel trefnydd ym myd cerddoriaeth pop, mae wedi gweithio gyda artistiaid fel Gaz Coombes, Katie Melua, a Clean Bandit mewn cydweithrediad â phopeth o ensembleau siambr pwrpasol i Gerddorfa Ffilharmonig y BBC ac Cerddorfa Symffoni Llundain.

Rhedir y rhaglen ar y cyd â Gwasanaethau Cerdd a Chelfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol RhCT. Mae'r rhaglen yn cael ei hariannu dros sawl blwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Am fersiwn PDF gyda manylion llawn y cyfle hwn, cliciwch yma