Cynllunio ar gyfer cynhyrchu ein opera nesaf

VIOLET gan Tom Coult ac Alice Birch – cyd-gomisiwn a chyd-gynhyrchiad gyda Britten Pears Arts.

Cynlluniau ar gyfer y premiere a’r daith yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig.

Cynllun A oedd i berfformio VIOLET yng Ngŵyl Aldeburgh 2020, ychydig ddyddiau’n unig ar ôl y dyddiad roedd cyfansoddiad newydd Tom Coult, Consierto i’r Ffidil, i fod i gael ei berfformiad cyntaf gyda Daniel Pioro a cherddorfa Philharmonic y BBC. Byddai 2020 wedi bod yn haf pwysig i Tom ond, fel gyda chynifer o bobl eraill, mae llawer o’i waith wedi cael ei ohirio.

Cynllun B oedd i symud y premiere i fis Ebrill 2021. Ar y pryd, roeddem o’r farn fod oediad o naw mis yn realistig, ond roedd gan y Coronafirws syniadau gwahanol. . .

Yn sgil yr ail don yn hydref 2020, a fawr ddim golwg y byddai gweithgaredd arferol sector y celfyddydau perfformio yn dychwelyd at unrhyw fath o normalrwydd erbyn 2021, rydym wedi cymryd y penderfyniad i ohirio’r cynhyrchiad hyd fis Mehefin 2022. Credwn y bydd hyn yn rhoi cystal siawns â phosib o allu cyflwyno cynhyrchiad llawn a digyfaddawd, amddiffyn y cwmni rhag unrhyw berygl o gael eu heintio, ac yn bwysicach na dim, efallai, gostwng lefelau pryder pawb sy’n ymwneud â’r gwaith trwy weithredu cynllun y gallwn yn realistig ei weld yn digwydd – ar ôl y pandemig ac nid yn ei ganol. Rydym yn parhau i gynllunio i berfformio’r opera ar daith, ond ar hyn o bryd mae’n rhy gynnar i ddweud ble a phryd.

Mae hwn wedi bod yn gyfnod anhygoel o anodd i Tom Coult ac Alice Birch, i’r tîm creadigol ac i’r holl berfformwyr. Mae ansicrwydd y pendilio o un sefyllfa i’r llall wedi bod yn heriol tu hwnt, ond rydym i gyd wedi ymrwymo’n llwyr i VIOLET ac edrychwn ymlaen at rannu gyda chi y cyffro o ddarganfod gwaith newydd a hynod wreiddiol arall.

Dyma air o gyflwyniad i godi awydd arnoch am ragor:

Mae’r stori wedi ei gosod mewn cymuned sy’n rhedeg ar amserlen gaeth a osodir gan gloc y pentref, a than reolaeth y dynion mewn awdurdod. Wrth i’r cloc, heb unrhyw esboniad, ddechrau colli awr bob dydd, mae’r drefn yn troi’n anhrefn. Ac wrth i bawb a phopeth ddechrau cwympo’n ddarnau, ac amser ei hun fel petai ar fin chwalu, mae Violet yn synhwyro bod yna fywyd newydd i’w ddarganfod, ac mae’n cychwyn ar daith i ddod o hyd iddo . . .

Cyfansoddwr Tom Coult
Awdur Alice Birch