Music Theatre Wales yn penodi
Stephen Newbould fel Ymgynghorydd Cerdd

Cyhoeddwyd mai Stephen Newbould sydd wedi ei benodi’n Ymgynghorydd Cerdd newydd gyda Music Theatre Wales, y cwmni blaenllaw ym maes opera gyfoes.

Bydd y swydd yn ffocysu ar weithio gyda Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, i ddewis repertoire a chyfansoddwyr ar gyfer cynyrchiadau yn y dyfodol, a’u datblygiad. Mae perfformio gweithiau anturus ac arloesol wrth galon hunaniaeth MTW, ac mae’r cwmni’n enwog am ddod â gweithiau newydd eithriadol i sylw cynulleidfaoedd yn y DU.

Roedd Stephen Newbould yn Gyfarwyddwr Artistig a Phrif Weithredwr y Birmingham Contemporary Music Group (BCMG) rhwng 2001 a 2016, wedi iddo helpu i lansio’r ensemble o blith Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham yn 1987. Dan ei arweiniad ef, aeth y BCMG ati i gyflwyno perfformiad cyntaf dros 100 o weithiau newydd, gan deithio’n eang ac ymddangos yn rheolaidd yn y BBC Proms, Aldeburgh Festival, Barbican Centre a’r Wigmore Hall yn y DU, a dramor yn y Carnegie Hall, Efrog Newydd, US Library of Congress, Washington, mewn amryw o ddinasoedd mawr Ewrop, ac yn India a Mecsico. Datblygodd berthynas gref gyda Music Theatre Wales yn ystod y cyfnod hwn, gyda BCMG yn hwyluso ac yn cyd-hyrwyddo nifer o berfformiadau MTW yn Birmingham. Rhwng 2017–19 roedd Stephen yn Brif Weithredwr Spitalfields Music , gan weithio gyda’r Curadur Artistig, André de Ridder, i gyflwyno Schumann Street, prosiect RPS arobryn Spitalfields Festival.

Dywedodd Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Artistig Music Theatre Wales: “Ym mhob un o’n prosiectau, mae dewis repertoire ac iddo elfennau cerddorol cryf bob amser yn holl bwysig. Roeddem yn awyddus i gael cerddor uchel ei barch, a chanddo wybodaeth eang o’r maes cyfoes a dealltwriaeth o opera. Rydym wrth ein bodd bod Stephen yn gallu dod â’i wybodaeth a’i brofiad i dîm MTW a chwarae rhan wrth helpu i siapio ein dyfodol.”

Dywedodd Stephen Newbould: “Pleser o’r mwyaf i mi yw cael ymuno â Music Theatre Wales fel Ymgynghorydd Cerdd. Rwy’n gyfarwydd ers blynyddoedd lawer â gwaith y cwmni hwn, sy’n gyson fentrus, yn cynnwys cyfnodau o gydweithio yn Birmingham yn ystod fy nghyfnod yn BCMG; rwyf nawr yn edrych ymlaen yn llawn cyffro at gefnogi Michael McCarthy a’i dîm wrth iddynt ddod â’r theatr gerddorol mwyaf trawiadol i gynulleidfaoedd amrywiol.”

CYSWLLT Y WASG:

Y Deyrnas Unedig a Chymru:
Penny James, Swyddog Cyhoeddusrwydd Llawrydd
penny.james@btopenworld.com
07854 114 782

Music Theatre Wales

http://musictheatre.wales

Music Theatre Wales, sydd a’i bencadlys yng Nghaerdydd, yw’r prif gwmni opera cyfoes yn y DU. Trwy gomisiynu cyfansoddwyr ac awduron eithriadol, datblygu crewyr opera’r dyfodol, a chyflwyno gweithiau gan y cyfansoddwyr cyfoes gorau yn y byd – yn cynnwys Pascal Dusapin, Philip Glass, Harrison Birtwistle, Peter Maxwell Davies, Stuart MacRae, Peter Eötvös, a Philippe Boesmans – mae’r cwmni’n dod ag opera newydd a bywiog i gynulleidfaoedd ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.