The Jollof House Party Opera

Cyd-gynhyrchiad gan Music Theatre Wales a FIO

HaverHub, Hwlffordd: > Prynu tocynnau
Dydd Iau 16 Chwefror, 1.15yp, 3yp, 6yh
Tŷ Pawb, Wrecsam: > Prynu tocynnau
Dydd Sadwrn 18 Chwefror, 1yp, 3yp, 6yh
Tramshed, Caerdydd: > Prynu tocynnau
Dydd Sul 26 Chwefror, 1yp, 3yp, 5yh

Pris Tocynnau: Talwch beth allwch chi (Wrecsam / Caerdydd)

Pris Tocyn: £5 (Hwlffordd)

The Jollof House Party Opera

The Jollof House Party Opera 

Pop-yp bwyd fegan o Nigeria wedi’i weini gydag opera 15 munud o hyd dan ddylanwad hip-hop.

Mae Adeola, y chef, yn teimlo’r gwres, a dy’n ni ddim yn sôn am gawl pupur! Gyda’r pwysau a ddaw o fusnes newydd, babi cyfnod clo, ac archwiliad diogelwch bwyd ar fin cael ei gynnal, sut yn y byd mae ein hegin-entrepreneur bwyd yn mynd i ymdopi? 

Mae The Jollof House Party Opera yn brofiad byw pop-yp sy’n gweini danteithion Nigeraidd (100% fegan) mewn mannau cwrdd cymunedol ledled Cymru, ynghyd â stori operatig 15 munud o hyd dan ddylanwad hip-hop. Dewch ar daith llawn blas, aroglau a rhythmau yn y sioe gwbl unigryw hon.

Mae’r sioe wedi ei hysgrifennu a’i pherfformio gan Tumi Williams, yr artist o gefndir Cymreig-Nigeraidd, ac yn serennu ynddi hefyd mae’r soprano enwog Gweneth Ann Rand. Wedi ei chyfarwyddo gan Sita Thomas o gefndir Cymreig-Indiaidd, mae The Jollof House Party Opera yn wir yn ddathliad o Gymru fodern, amlddiwylliant. Wedi’i seilio ar ffilm fer arobryn a enillodd Wobr am Ffilm Geltaidd, crëwyd The Jollof House Party Opera i gorddi ac ail-lunio cysyniadau o opera a pherfformiad artistig byw, yn ogystal â mynd i’r afael â’r annhegwch mewn mynediad at gelf a diwylliant. 

Fel artist amlddisgyblaeth, cerddoriaeth yw cariad artistig cyntaf Tumi Williams, ac mae’n gweithio mewn cyfuniad o arddulliau yn cynnwys hip-hop, ffync Affro a jazz. Mae e hefyd yn chef ac yn sefydlydd Jollof House Party, pop-yp sy’n gweini bwyd fegan Nigeraidd.

Mae Dr Sita Thomas yn arweinydd diwylliannol a pherson creadigol sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Mae hi’n Gyfarwyddydd Artistig a Phrif Weithredwr ar Fio, cwmni ym myd y theatr a’r celfyddydau sy’n bodoli i greu newid positif sylweddol yn y sector diwylliannol yng Nghymru, a chefnogi pobl o’r Mwyafrif Byd-eang i’w galluogi i ffynnu yn y celfyddydau.