Bwystfilod Aflan

Mae Bwystfilod Aflan, comisiwn newydd sbon gan yr Eisteddfod Genedlaethol gan Music Theatre Wales a Music@Aber, gydag offerynwyr Sinfonia Cymru, yn herio normau cymdeithasol trwy opera, dawns, a ffilm, gan dynnu sylw at y gwrthdaro rhwng traddodiad a’r angen am newid.

Mae'r cynhyrchiad hwn hefyd yn nodi dechrau partneriaeth newydd Music Theatre Wales gyda Sinfonia Cymru , cydweithrediad sydd wedi'i gynllunio i fuddio cynulleidfaoedd ledled Cymru, cyfoethogi'r cymunedau rydym yn ymgysylltu â hwy, a chefnogi datblygiad perfformio cerddoriaeth ac opera.

“Aflendid”

“Daeth anlladrwydd i barch, trythyllwch i fri, ac aflendid i anrhydedd…”

“Dylsai syrthio ar ei liniau, a gwaeddi dros y lle am faddeuant a thrugaredd.”

Gwynebodd Edward Prosser Rhys storm o gamdriniaeth a sarhad mewn ymateb i'w gerdd ATGOF ar ol ennill coron Eisteddfod Genedlaethol 1924. Mynnodd herio’r norm trwy ddweud y gwir trwy ei gelfyddyd, a derbyn dirmyg a ffieidd-dod.

Roedd hyn 100 mlynedd yn ôl, ond gallai fod wedi bod heddiw, pan mae lleisiau sy'n mynd yn groes i’r gwynt yn parhau i gael eu diarddel.

Roedd darluniau Edward Prosser Rhys o ryw, chwant a rhamant rhwng dau ddyn ifanc yn adlewyrchiad beiddgar o'i realiti, gan herio normau cymdeithasol ei gyfnod, cyfnod pan oedd bod yn hoyw yn dal i fod yn anghyfreithlon, ac a fyddai am 40 mlynedd arall. Serch hynny, ymateb y rhai a ddewisodd i "geryddu a gwobrwyo" ei fynegiant creadigol a amlygodd gymhlethdodau a rhagfarnau'r oes.

Yn dilyn yr hynod lwyddiannus, Abomination: A DUP Opera, mae Conor Mitchell, unwaith yn rhagor, yn cyflwyno archwiliad operatig i galon chwalfa gymdeithasol.

Bydd y perfformiad gwreiddiol newydd hwn yn cyfuno monolog operatig gan y tenor Elgan Llŷr Thomas, a darn myfyriol gan y dawnsiwr/actor Eddie Ladd. Bydd Bwystfilod Aflan yn craffu ar yr ymateb cymdeithasol a sbardunwyd gan ATGOF, gan ymchwilio i'r newidiadau’r wlad, ei chyfrinachau cudd, a moderniaeth. Trwy lens opera, dawns a ffilm, byddwn yn dyst i'r gwrthdaro rhwng credoau parhaol a'r angen am newid mewn darn gyffrous a dyfeisgar wedi’i gyfarwyddo a’i gyd-greu gan Jac Ifan Moore, a’i ddylunio gan Elin Steele.

Mae Music Theatre Wales, Music@Aber a Sinfonia Cymru, yn falch o gyflwyno'r comisiwn hwn ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Llygru a llygru"

“Yn gweddu yn well i Sodom a Gomorah nag i Gymru”

Cast a Pherfformwyr

Mae Bwystfilod Aflan mewn dau ran:
Monodrama operatig wedi'i greu gan Conor Mitchell a Jac Ifan Moore, gyda cherddoriaeth wedi'i chyfansoddi gan Conor Mitchell a thestun wedi'i baratoi gan Jac Ifan Moore a Conor Mitchell.
&
Myfyrdod symudiad a llais ar ATGOF gan Prosser Rhys, wedi'i greu gan Eddie Ladd, Sion Orgon a Jac Ifan Moore.

Perfformwyr

  • Elgan Llŷr Thomas
  • Eddie Ladd

Ensemble Sinfonia Cymru

  • Ffidil - Zea Hunt
  • Soddgrwth - Edward Mead
  • Telyn - Alis Huws
  • Clarinet - Isha Crichlow
  • Bas Dwbl - Elen Roberts

Tîm Creadigol

  • Conor Mitchell - Cyfansoddwr
  • Jac Ifan Moore - Cyfarwyddwr
  • Iwan Teifion Davies - Arweinydd
  • Elin Steele - Dylunydd
  • Andy Pike - Dylunydd Golau / Rheolwr Cynhyrchu
  • Sion Orgon - Dylunydd Sain
  • Deborah Light - Ymgynghoriaeth symudiad
  • William Hughes - Rheolwr Llwyfan

Dyddiadau ar Daith

Y Muni, Pontypridd, Eisteddfod Genedlaethol
Dydd Llun 5 Awst 2024 7.30yh
> Archebwch docynnau

Stiwdio, Theatr y Sherman, Caerdydd
Dydd Mercher 9 Hydref 2024 7.30yh
> Archebwch docynnau

Theatr Byd Bach, Aberteifi
Dydd Gwener 11 Hydref 2024 7.30yh
> Archebwch docynnau

Theatr Y Werin, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
Dydd Mercher 16 Hydref 2024 7.30yh
> Archebwch docynnau

Performance Space, Ty Pawb, Wrecsam
Dydd Iau 17 Hydref 2024 7.30yh
> Archebwch docynnau

Partneriaid

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn un o'r digwyddiadau diwylliannol mwyaf blaenllaw yn y byd, gyda hanes yn dyddio'n ôl i 1176. Mae'r Eisteddfod fodern yn amrywio rhwng Gogledd a De Cymru, gan hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant Gymraeg trwy amrywiaeth eang o weithgareddau a pherfformiadau. Mae'r Maes yn gartref i ddegau o stondinau a llwyfannau, ac mae'r rhaglen yn cynnwys llenyddiaeth, cerddoriaeth, gwyddoniaeth, a digwyddiadau i blant. Mae'r cystadlaethau a'r seremonïau Gorsedd yn anrhydeddu'r gorau yn y celfyddydau Cymreig, gan ddenu ymwelwyr o bob oed.

Music@Aber

Mae gan Music@Aber hanes hir a nodedig sy'n dyddio'n ôl i benodiad Joseph Parry fel yr Athro Cerddoriaeth gyntaf yn 1874. O'r opera Gymraeg gyntaf i symffoni a chaneuon cyfoes, mae Aberystwyth wedi bod yn ganolog i gerddoriaeth uchelgeisiol newydd Cymru. Mae'r rhaglen yn cynnwys cerddorfa symffoni, band chwyth, grŵp llinynnol, côr, a grŵp jamio, oll yn rhad ac am ddim ac ar agor i fyfyrwyr ac aelodau o'r gymuned fel ei gilydd, gan adlewyrchu'r gred bod cerddoriaeth ar gyfer pawb, heb unrhyw rwystrau.

Sinfonia Cymru

Mae Sinfonia Cymru yn gerddorfa sydd â'r nod o wneud cerddoriaeth glasurol yn hygyrch i bawb yng Nghymru. Gan weithio gyda rhai o'r cerddorion ifanc gorau, mae'r gerddorfa'n perfformio mewn lleoliadau cymunedol, gan wneud cyngherddau'n fforddiadwy ac yn gynhwysol. Mae'r cerddorion yn cael eu hannog i guradu eu cyngherddau eu hunain, ac, yn aml, maent yn cyfuno cerddoriaeth glasurol gyda genre eraill fel jazz, gwerin, a phop. Mae Sinfonia Cymru hefyd yn trefnu gweithdai cerddoriaeth rhad ac am ddim mewn ysgolion ac wedi sefydlu partneriaethau 'Hafan' gyda lleoliadau cymunedol, gan fuddsoddi mewn prosiectau a theithiau ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru.

Cymorth Ariannol

Rydym yn ddiolchgar iawn i’r canlynol am eu cefnogaeth

  • Anonymous
  • Arts Council of Wales
  • Boltini Trust
  • Fidelio Charitable Trust
  • Hinrichsen Foundation
  • Vaughan Williams Foundation