Pride (A Lion’s Roar)

Y Stori

Mae Pride (A Lion’s Roar) yn adrodd y profiad o ragfarn y mae nifer o bobl groenliw wedi’i ddioddef: rhywun yn dweud wrthych eich bod yn rhy “ymosodol” neu’n “rhy uchel eich cloch” oherwydd bod eich rhuo trosiadol yn anghyfarwydd o fewn yr amgylcheddau y mae gofyn i chi weithredu oddi mewn iddynt. Teimlo bod rhaid i chi wneud eich hun yn llai er mwyn cael eich derbyn, troi eich rhuo yn ganu grwndi fel nad yw eraill yn teimlo dan fygythiad.

Mae Pride (A Lion's Roar) yn opera ddigidol newydd wedi’i chreu gan Renell Shaw (cyfansoddwr/cynhyrchydd cerdd) a Rachael Young (libretydd/melodi’r côr), gydag animeiddiad gan Kyle Legall.

Music Theatre Wales - Trelar New Directions: Pride (A Lion's Roar)

Cydnabyddiaethau

Libretydd ac Alaw y Corws - Rachael Young
Cyfansoddwr a Chynhyrchydd y Gerddoriaeth - Renell Shaw
Animeiddiad - Kyle Alonzo Legall, Higher Graphics
Lleiswyr - Gweneth Ann Rand (solo)
Lleiswyr - Chantelle Nandi / Renell Shaw
Peiriannydd Meistroli Sain - Michael Antoniou
Cyfarwyddwr Gweledol - Rachael Young