Somehow

Y STORI

Mae Somehow yn gân serch i ni ein hunain, i’r rheiny yr ydym yn eu hadnabod a’r rheiny nad ydym wedi cwrdd â nhw eto. Archwiliad ydyw o agosatrwydd a pherthnasoedd, nid yn unig rhwng y gerddoriaeth a’r symudiad, ond rhwng y perfformiwr a’r gynulleidfa. Gan fyfyrio ar ffurfiau a gofodau newydd i’r theatr gerdd fodoli oddi mewn iddynt, mae’r ysgrifennwr a’r dawnsiwr Krystal S. Lowe a’r cyfansoddwr Jasmin Kent Rodgman wedi creu gwaith sy’n tynnu ar theatr opera, emosiwn a mynegiant lieder a greddf dawns. Drwy bylu’r llinellau rhwng y llwyfan a’r sgrin, gobeithia Somehow gynnig profiad operatig ailddiffiniedig sy’n ymgorffori sut ydym yn byw heddiw a’n cysylltiadau â’r naill a’r llall.

Music Theatre Wales - Trelar New Directions: Somehow

Cydnabyddiaethau

Ysgrifennwr/Libretydd - Krystal S. Lowe
Cyfansoddwr - Jasmin Kent Rodgman
Cyfarwyddwyr - Krystal S. Lowe / Jasmin Kent Rodgman
Symudiad a Geiriau Llafar - Krystal S. Lowe
Canu - Hilary Summers
Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth - Jessie Rodger
Gwisgoedd - Emma-Jane Weeks
Golygydd - Jessie Rodger
Cynhyrchwyr - Krystal S. Lowe / Jasmin Kent Rodgman
Sain Ddisgrifiad - Krystal S. Lowe
Ymgynghorydd y Sain Ddisgrifiad - Tafsila Khan
Lleoliad - Ballet Cymru

Gyda diolch arbennig i Ballet Cymru, Amber Howells, Elayce Ismail, Michael McCarthy

Comisiynwyd SOMEHOW ar gyfer Cyfeiriadau Newydd – Rhaglen gan Music Theatre Wales