Tair Opera Celfyddyd y Stryd ar gyfer diwedd y byd

Crëwyd gan
DUMBWORLD mewn cyd-gynhyrchiad gydag OPERA CENEDLAETHOL IWERDDON
Geiriau a chyfarwyddo gan John McIlduff | Cerddoriaeth gan Brian Irvine
Cyflwynir mewn cysylltiad â BBC Canwr y Byd Caerdydd 2023

OPERÂU CELF STRYD

Opera fel actifiaeth, wedi’i daflunio ar waliau ar ffurf celf stryd.

Efallai y byddant yn gwneud i chi chwerthin, ond hefyd i fynnu newid.

Mae Music Theatre Wales yn cyflwyno rhaglen newydd o Operâu Celf Stryd.

Mae’r rhaglen yn dechrau gyda thrioleg o ddarnau byr, a grëwyd yn ddiweddar, sy’n adlewyrchu ar y drychineb amgylcheddol rydym yn ei hwynebu, a’r diffyg gweithredu o ddifrif ar broblem yr hinsawdd.

Won’t Bring Back The Snow

Mae dwy arth wen – tad a merch – yn chwilota drwy’r biniau am rywbeth i’w fwyta. Mae’r ferch yn cael syniad: “This little white ass, gonna pay for our dinner!”

Trickle Down Economics

Ai “Bla Bla Bla” yw’r cyfan? Gyda phentwr o bapurau’n cynrychioli dêl arloesol arall eto fyth, mae’r gwleidyddion yn dathlu eu “llwyddiannau” ac yn eu rhyddhau eu hunain yn erbyn wal, gan foddi yn eu hunan-fodlonrwydd.

Revival

Tir diffaith. Plant mewn mygydau nwy. Dadfeilio. Ond mae plant yn credu bod dyfodol yn bosibl, ac yn plannu hadau fydd yn tyfu’n blanhigion rhyfeddol, lliwgar.

“As long as we don’t treat the climate crisis like a crisis, we can have as many conferences as we want, but it will just be negotiations, empty words, loopholes and greenwash.”

Greta Thunberg

Bydd yr holl gyflwyniadau’n digwydd yn yr awyr agored, gyda’r gynulleidfa’n gwrando ar yr operâu drwy glustffonau di-wifr – a ddarperir gennym ni.

Closed caption icon

Bydd The Scorched Earth Trilogy yn cynnwys capsiynau integredig (yn Saesneg) ac felly bydd yn hygyrch i gynulleidfaoedd Byddar a thrwm eu clyw; bydd hefyd yn cynnwys isdeitlau Cymraeg.

Cyflwynir mewn cydweithrediad â BBC Canwr y Byd Caerdydd 2023.

Cyd-gynhyrchiad gyda Dumbworld ac Opera Genedlaethol Iwerddon

Bydd MTW hefyd yn cynnal hyfforddiant a ddarperir gan Dumbworld, crewyr Trioleg ‘The Scorched Earth’ – John McIlduff a Brian Irvine – ar gyfer artistiaid, crewyr cerddoriaeth, gwneuthurwyr ffilmiau ac animeiddwyr yn Nghymru. Rydym yn awyddus i ysbrydoli’r gwaith o greu Operâu Celfyddyd y Stryd yn y dyfodol, gan gyflwyno straeon, syniadau ac ymgyrchoedd o’ch dewis chi ar gyfer lleoliadau ledled Cymru – fel digwyddiadau cymunedol neu arddangosfa gyhoeddus ehangach – ar wal, drws, sied neu ochr bryn o’ch dewis chi! Gwyliwch y gofod hwn am ragor o gyhoeddiadau.

Mae PWSH wedi derbyn comisiwn gan Music Theatre Wales i greu murlun cyhoeddus newydd yn Spit & Sawdust mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd

DYDDIADAU’R DAITH

  • Bangor - Pontio

    Dydd Gwener 12 a Dydd Sadwrn 13 Mai am 10yh

  • HaverHub, Hwlffordd

    Dydd Mawrth 6 Mehefin am 10yh

  • Caerdydd - Spit & Sawdust

    Dydd Iau 15 a Dydd Gwener 16 Mehefin am 10yh

Ffurflen adborth

Os daethoch i The Scorched Earth Trilogy, llenwch ein ffurflen adborth.

Ffurflen adborth (Saesneg)