Y Tŵr: opera wreiddiol yn Gymraeg, ar gael ar alw drwy raglen Theatr Gen Eto

Mae’n bleser gan Theatr Genedlaethol Cymru a Music Theatre Wales gyhoeddi y bydd y ffilm o gynhyrchiad o’r opera Y Tŵr , gwaith sy’n torri tir newydd, ar gael i’w gwylio’n rhad ac am ddim fel rhan o raglen Theatr Gen Eto Theatr Genedlaethol Cymru.

Mae Y Tŵr yn archwilio holl rychwant emosiynol y berthynas rhwng dau wrth iddynt ymrafael â chyfnodau allweddol eu byw a’u bod gyda’i gilydd. Yn seiliedig ar waith Gwenlyn Parry un o ddramodwyr mwyaf cynhyrchiol Cymru, mae’r opera wreiddiol a theimladwy hon yn adrodd stori oesol gyffredin am gariad a bywyd, a’r cyfan wedi’i osod o fewn tŵr y teitl – sy’n drosiad ar gyfer unrhyw berthynas – wrth i’r ddau gymeriad, a genir gan y soprano Caryl Hughes a’r bariton Gwion Thomas, symud i fyny o un lefel i’r nesaf, a phob lefel yn cynrychioli moment arbennig yn eu perthynas, o gyffro cariad ifanc i effeithiau dinistriol henaint.

Gyda’r gerddoriaeth wedi’i chyfansoddi gan Guto Puw , a’r libretto gan Gwyneth Glyn , Y Tŵr oedd yr opera gyntaf erioed i’w chomisiynu yn Gymraeg ar gyfer perfformwyr proffesiynol, a’r ail gynhyrchiad i Music Theatre Wales ei gyflwyno yn y Gymraeg. Y Tŵr hefyd oedd yr opera gyntaf i Theatr Genedlaethol Cymru ei chyflwyno. Trwy garedigrwydd Ms Ann Beynon ac Ystad Gwenlyn Parry, cynhaliwyd premiere byd cyntaf yr opera yn 2017 yn Theatr y Sherman, Caerdydd fel rhan o Ŵyl Bro Morgannwg, ac yn dilyn hynny mewn amryw o ganolfannau ledled Cymru yn ogystal ag yng Ngŵyl Ryngwladol Buxton.

Y Tŵr yw’r trydydd cynhyrchiad ar ddeg i gael ei rannu fel rhan o raglen Theatr Gen Eto ers y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020. Mae hefyd yn nodi moment gyffrous yn natblygiad MTW fel y tro cyntaf i un o gynyrchiadau’r cwmni gael ei ffrydio, ac ar ddechrau eu cyfnod o greu cyfuniad o waith a grëwyd yn benodol ar gyfer ei berfformio’n ddigidol ac yn fyw.

Bydd y cynhyrchiad ar gael ar-lein ac ar alw, yn rhad ac am ddim, ar sianel YouTube Theatr Genedlaethol Cymru ac ar AM. Bydd yn cynnwys capsiynau caeedig yn Gymraeg a Saesneg.

'Cynhyrchiad i’w ganmol i’r entrychion.’

BBC Radio Cymru

‘The first contemporary operatic work written in the Welsh language, it breaks important new ground’The Guardian

‘A cracking psychological drama – both realistic and surreal, metaphysical and mysterious at the same time . . . These are towering talents’

The Times

Dywedodd Arwel Gruffydd , Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:

“Rydym wrth ein bodd yn cael y cyfle hwn i rannu ein cyd-gynhyrchiad o’r opera Y Tŵr fel rhan o’n rhaglen Theatr Gen Eto. Y cyd-gynhyrchiad gyda Music Theatre Wales oedd y tro cyntaf i ni fentro i fyd opera, ac roedd yn gyfle gwych i ni ail-ddychmygu drama Gwenlyn Parry ar gyfer cynulleidfaoedd newydd. Y gwanwyn hwn, rwy’n arbennig o falch ein bod yn gallu rhannu opera yn y Gymraeg ar-lein gyda chynulleidfa fyd-eang.”

Dywedodd Michael McCarthy , Cyfarwyddwr Artistig Music Theatre Wales a chyfarwyddwr y cynhyrchiad:

“Pleser o’r mwyaf yw ymuno â’n partneriaid cyd-gynhyrchu yn Theatr Genedlaethol Cymru i rannu’r opera gyntaf deimladwy a hynod arwyddocaol hon yn Gymraeg gyda chynulleidfaoedd ym mhob cwr o Gymru ac ymhell y tu hwnt i’w ffiniau. Mae opera yn ffurf gwbl ryngwladol o gelfyddyd, sy’n cael ei hysgrifennu a’i pherfformio mewn sawl gwahanol iaith, ac yn awr gellir cael profiad ohoni’n cael ei chanu mewn Cymraeg gloyw, gyda’r ddrama’n cael ei chefnogi gan gapsiynau caeedig Cymraeg a Saesneg. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r perfformwyr a chwmni cynhyrchu Y Tŵr am sicrhau bod y ffrydio hwn yn digwydd, a hoffwn eu llongyfarch unwaith eto ar eu camp anhygoel.”

Bydd Y Tŵr ar gael i’w wylio o 7 o’r gloch nos Fercher 14 Ebrill 2021 ar sianel YouTube Theatr Genedlaethol Cymru ac ar AM. Bydd yno am gyfnod o 6 mis, ac ar gael yn barhaol ar wefan y cwmni fel adnodd addysgol ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Lansiwyd Theatr Gen Eto gan Theatr Genedlaethol Cymru fel rhaglen newydd o waith mewn ymateb i bandemig y Coronafirws. Mae’n rhoi cyfle i gynulleidfaoedd fwynhau cynyrchiadau o’r gorffennol ar sgrin tra bod pob theatr ledled Cymru a thu hwnt ar gau.

Explore the production

Comisiynwyd Y Tŵr gan Music Theatre Wales, Theatr Genedlaethol Cymru a Pontio.

Datblygwyd yr opera gyda chymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy gyfrwng Grant Datblygu Cynhyrchiad Theatr, a chyflwynwyd Gwobr Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru i Guto Puw.

Mae Y Tŵr yn gyd-gynhyrchiad rhwng Music Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru, ac yn derbyn nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston drwy ei Chronfa Grant Arbennig.